Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 3 Chwefror 2021.
Ydy, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig—oherwydd yn amlwg, Llywodraeth y DU yw'r aelod-wladwriaeth; hwy sy’n cynrychioli’r DU yn y confensiwn—i ddylanwadu ar y trafodaethau ynghylch unrhyw fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ar ôl 2020. Felly, ar sail debyg i'r ffordd rydym yn gweithio—a bydd COP26 yn gweithio mewn ffordd debyg. Fel y dywedoch chi, fe'i cynhelir yn Tsieina ym mis Mai. Gohiriwyd hynny ers—rwy’n credu—hydref y llynedd. Felly, mae'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau, ac yn sicr, byddwn yn chwarae rhan, yn union fel y gwnawn ym mhroses COP26 hefyd.