1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r confensiwn ar amrywiaeth fiolegol? OQ56228
Diolch. Mae'r cynllun gweithredu adfer natur yn nodi ein camau allweddol i gefnogi’r gwaith o gyflawni targedau o dan y confensiwn ar amrywiaeth fiolegol. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddi yn y gwaith o adfer mawndiroedd a safleoedd gwarchodedig, creu fforest genedlaethol a rheoliadau llygredd amaethyddol i fynd i'r afael ag un o’r ffactorau allweddol sy’n achosi dirywiad bioamrywiaeth.
Diolch, Weinidog. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer corryn rafft y ffen, rwy'n ymwybodol iawn fod dirywiad syfrdanol wedi bod yng nghadernid yr ecosystem yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, ond mae hon yn broblem gynyddol ledled y byd, ac mae angen gosod targedau cyfreithiol rwymol. Bydd y gynhadledd ar y confensiwn ar amrywiaeth fiolegol yn cael ei chynnal yn Kunming yn Tsieina yn nes ymlaen eleni. Y gobaith yw y bydd y gynhadledd hon yn cael yr un effaith ar fioamrywiaeth ag y cafodd uwchgynhadledd Paris ar y newid yn yr hinsawdd. Felly, Weinidog, pa rôl y bydd Cymru yn ei chwarae yn yr uwchgynhadledd honno, ac a fyddwch yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wthio am dargedau rhwymol a'u mabwysiadu’n gyfreithiol i hybu adferiad natur?
Ydy, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig—oherwydd yn amlwg, Llywodraeth y DU yw'r aelod-wladwriaeth; hwy sy’n cynrychioli’r DU yn y confensiwn—i ddylanwadu ar y trafodaethau ynghylch unrhyw fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ar ôl 2020. Felly, ar sail debyg i'r ffordd rydym yn gweithio—a bydd COP26 yn gweithio mewn ffordd debyg. Fel y dywedoch chi, fe'i cynhelir yn Tsieina ym mis Mai. Gohiriwyd hynny ers—rwy’n credu—hydref y llynedd. Felly, mae'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau, ac yn sicr, byddwn yn chwarae rhan, yn union fel y gwnawn ym mhroses COP26 hefyd.
Prynhawn da, Weinidog. Fel hyrwyddwr y Senedd ar ran misglen berlog yr afon—gwn fod Aelodau eraill yn hyrwyddwyr ar ran eu gwahanol rywogaethau eu hunain hefyd—mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y cwestiwn hwn gan Caroline Jones, ac yng nghynllun strategol y confensiwn ar gyfer amrywiaeth, a oedd yn weithredol o 2011 tan y llynedd. Mae rhywogaethau fel misglen berlog yr afon yn arbennig o agored i lygredd dŵr, ac mae eu presenoldeb parhaus yn afon Gwy yn fy etholaeth yn dibynnu ar gadw’r lefel isaf bosibl o lygredd. A yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio effaith gwaith y confensiwn, yn enwedig mewn perthynas â safonau dŵr, a sut y credwch y gallwn ddysgu o'r hyn sy'n cael ei drafod y tu hwnt i Gymru a'r DU, ac a ydych wedi ystyried unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol i wella ansawdd dŵr?
Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dysgu oddi wrth ein gilydd, ac yn sicr, fel rhan o broses COP15, bydd hynny’n digwydd. Rydym yn chwarae rhan bwysig iawn fel Llywodraeth is-genedlaethol yn y broses honno ac yn y gwaith o weithredu a phrif ffrydio bioamrywiaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod hefyd wedi llofnodi datganiad Caeredin, a oedd yn galw ar y confensiwn ar amrywiaeth fiolegol i ddechrau cymryd camau beiddgar i atal colli bioamrywiaeth. Gwyddom, wrth gwrs, fod gennym argyfwng hinsawdd, ond credaf fod gennym argyfwng bioamrywiaeth hefyd. Rwyf hefyd wedi cefnogi addewid yr arweinwyr, ac rydym yn gweithio drwy Grŵp Bioamrywiaeth y Pedair Gwlad i ddylanwadu ar y fframwaith ôl-2020 y cyfeiriais ato yn fy ateb cynharach i Caroline Jones, fel y gallwn fynd ati i lunio gofynion adrodd a monitro yn y dyfodol, yn ogystal â rhannu'r arfer gorau sydd gan bob un ohonom ar weithredu, ond wrth gwrs, gall pob un ohonom ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Weinidog, mae'n dda gweld cymaint o Aelodau o’r Senedd yn gweithio fel hyrwyddwyr rhywogaethau ac yn gweithio gyda grwpiau bywyd gwyllt. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer llygoden y dŵr, ac rwy'n falch o ddweud ei bod yn ffynnu ar wastadeddau Gwent, ac mae gwastadeddau Gwent eu hunain yn ein helpu i gyflawni bioamrywiaeth. Fel y gwyddoch, Weinidog, rwy'n cadeirio gweithgor ar wastadeddau Gwent i edrych ar sut y gallwn wella a diogelu'r ardal honno’n well, ac mae'r bartneriaeth gwastadeddau byw wedi gwneud gwaith da iawn gyda chymunedau i sicrhau bod yr holl faterion lleol sy'n codi yn cael sylw. A fyddech yn cytuno â mi, os ydym am weld y math o fioamrywiaeth rydym yn dymuno’i gweld yng Nghymru, fod angen inni sicrhau bod ardaloedd fel gwastadeddau Gwent yn cael eu diogelu'n well yn y dyfodol?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, a chredaf fod pob un ohonom yn cydnabod ein bod ar ryw fath o drobwynt, felly credaf fod angen inni fod yn wahanol, onid oes, wrth gefnu ar y pandemig COVID-19. Rydym yn sôn am adferiad gwyrdd neu adferiad glas, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod—mae’r hyn rydych newydd gyfeirio ato ynglŷn â gwell diogelwch yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei wneud. Credaf fod angen inni ymgysylltu i raddau mwy â'r gymdeithas gyfan mewn perthynas â hyn hefyd, gan gydnabod yr argyfwng bioamrywiaeth, a chredaf fod angen inni ddefnyddio ystod ehangach o adnoddau, os mynnwch, yn y dyfodol, fel y gallwn gyflawni ein nodau a'n hamcanion hinsawdd, yn ogystal â’n nodau a'n hamcanion bioamrywiaeth.