Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 3 Chwefror 2021.
Weinidog, mae'n dda gweld cymaint o Aelodau o’r Senedd yn gweithio fel hyrwyddwyr rhywogaethau ac yn gweithio gyda grwpiau bywyd gwyllt. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer llygoden y dŵr, ac rwy'n falch o ddweud ei bod yn ffynnu ar wastadeddau Gwent, ac mae gwastadeddau Gwent eu hunain yn ein helpu i gyflawni bioamrywiaeth. Fel y gwyddoch, Weinidog, rwy'n cadeirio gweithgor ar wastadeddau Gwent i edrych ar sut y gallwn wella a diogelu'r ardal honno’n well, ac mae'r bartneriaeth gwastadeddau byw wedi gwneud gwaith da iawn gyda chymunedau i sicrhau bod yr holl faterion lleol sy'n codi yn cael sylw. A fyddech yn cytuno â mi, os ydym am weld y math o fioamrywiaeth rydym yn dymuno’i gweld yng Nghymru, fod angen inni sicrhau bod ardaloedd fel gwastadeddau Gwent yn cael eu diogelu'n well yn y dyfodol?