Y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:57, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, a chredaf fod pob un ohonom yn cydnabod ein bod ar ryw fath o drobwynt, felly credaf fod angen inni fod yn wahanol, onid oes, wrth gefnu ar y pandemig COVID-19. Rydym yn sôn am adferiad gwyrdd neu adferiad glas, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod—mae’r hyn rydych newydd gyfeirio ato ynglŷn â gwell diogelwch yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei wneud. Credaf fod angen inni ymgysylltu i raddau mwy â'r gymdeithas gyfan mewn perthynas â hyn hefyd, gan gydnabod yr argyfwng bioamrywiaeth, a chredaf fod angen inni ddefnyddio ystod ehangach o adnoddau, os mynnwch, yn y dyfodol, fel y gallwn gyflawni ein nodau a'n hamcanion hinsawdd, yn ogystal â’n nodau a'n hamcanion bioamrywiaeth.