Y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:54, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Weinidog. Fel hyrwyddwr y Senedd ar ran misglen berlog yr afon—gwn fod Aelodau eraill yn hyrwyddwyr ar ran eu gwahanol rywogaethau eu hunain hefyd—mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y cwestiwn hwn gan Caroline Jones, ac yng nghynllun strategol y confensiwn ar gyfer amrywiaeth, a oedd yn weithredol o 2011 tan y llynedd. Mae rhywogaethau fel misglen berlog yr afon yn arbennig o agored i lygredd dŵr, ac mae eu presenoldeb parhaus yn afon Gwy yn fy etholaeth yn dibynnu ar gadw’r lefel isaf bosibl o lygredd. A yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio effaith gwaith y confensiwn, yn enwedig mewn perthynas â safonau dŵr, a sut y credwch y gallwn ddysgu o'r hyn sy'n cael ei drafod y tu hwnt i Gymru a'r DU, ac a ydych wedi ystyried unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol i wella ansawdd dŵr?