Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch, a chredaf ei bod yn deg dweud bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn bendant wedi cymryd cam gwag mewn perthynas â'r sector molysgiaid dwygragennog byw. Rwyf wedi bod yn pwyso ar George Eustice, Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, i ddigolledu'r sector cyfan. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r pysgotwyr a'r sector bwyd môr. Cyfarfûm ddiwethaf—. Credaf fy mod wedi cyfarfod â hwy dair gwaith eleni; cyfarfûm â hwy ddiwethaf ddydd Llun fel rhan o'r cyfarfod bord gron, ac maent wedi bod o gymorth hefyd yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth, Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid imi ddweud ein bod wedi gweithio'n dda iawn gyda Llywodraeth y DU a fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fel rhan o grŵp rhyngweinidogol DEFRA i gyflwyno cynllun cymorth.
Fe fyddwch yn ymwybodol, ar ddechrau'r pandemig COVID-19, fod gennym gynllun penodol i gefnogi'r pysgotwyr, a'r hyn roeddem yn dymuno ei wneud—wel, yr hyn roedd pob un ohonom yn dymuno ei wneud—oedd cyflwyno cynllun ar gyfer y DU gyfan, math o gynllun cymorth ar gyfer y gaeaf, mewn perthynas â COVID a chyfnod pontio'r UE, ac roedd swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar hynny ychydig cyn y Nadolig. Roeddem yn paratoi achos busnes i’w gyflwyno i'r Trysorlys ac yna, yn sydyn, cyhoeddodd DEFRA gynllun gwerth £23 miliwn, sy’n digolledu'r allforwyr yn y bôn. Wel, credaf fod angen digolledu'r pysgotwyr, y sector dyframaethu a'r proseswyr hefyd, ond yn anffodus, ymddengys bod hynny wedi'i wthio naill ochr. Rwyf wedi ysgrifennu eto y bore yma a dweud y gwir at yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â’r molysgiaid dwygragennog byw, oherwydd, fel y dywedaf, rwy'n credu eu bod wedi cymryd cam gwag yn hyn o beth.
Nid wyf wedi gweld manylion y cynllun a gyflwynwyd. Fel y dywedais, gwnaed hyn yn unochrog. Felly, rwyf fi a fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, rwy'n credu, yn dal i wthio i weld a allwn sicrhau'r cynllun cymorth hwnnw gan y DU ar gyfer y sector, yn hytrach na'r un hwn yn unig a fydd yn digolledu'r allforwyr. Fel y dywedwch, mae'n sector pwysig iawn i Gymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod cryn alw am ein bwyd môr, yn enwedig yn Ewrop, mewn bwytai Sbaenaidd ac ati, ac mae angen iddo gyrraedd yn ffres. Unwaith eto—rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed—rydym wedi cael straeon am y bwyd yn gorwedd mewn porthladdoedd ac yn wynebu oedi cyn cyrraedd Sbaen, er enghraifft. Felly, mae'n destun cryn bryder.