Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 3 Chwefror 2021.
Yn y dyfroedd o amgylch Ynys Môn ac afon Menai, rydym yn cynhyrchu cregyn gleision ac wystrys o'r ansawdd uchaf. Mae pob un o'n cregyn gleision, bron â bod—y rhan fwyaf o gryn dipyn—yn cael eu hallforio i'r Undeb Ewropeaidd. Bûm yn siarad ag un o gynrychiolwyr y diwydiant cregyn gleision heddiw. Rydym yn gweld cryn bryder yn awr ynghylch effaith y methiant i baratoi’n briodol ar gyfer ymadael â’r UE, ac mae angen gwneud popeth posibl i sicrhau y gwneir yr amodau mor fanteisiol â phosibl i’n pysgotwyr fel y gallant weld dyfodol mwy disglair. Felly, a allai'r Gweinidog, fel un ymateb, gadarnhau a fydd yn gofyn i'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru ymrwymo i adolygu ei dull o ddosbarthu dyfroedd pysgod cregyn, er mwyn sicrhau bod hynny’n cyd-fynd yn well â'r hyn a wneir gan Food Standards Scotland, a fyddai’n ddechrau, o leiaf?