2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghanol De Cymru? OQ56226
Ie, rwy’n parhau i weithio’n agos gyda llywodraeth leol, gan gynnwys yn rhanbarth Canol De Cymru, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill ar y gwersi allweddol a ddysgwyd yn ystod ein hymateb i COVID-19 a fydd yn helpu ein hadferiad strategol yn fwy hirdymor, ac yn helpu i ddiffinio normal newydd y dyfodol.
Diolch. Roeddwn yn awyddus i godi mater cladin heddiw. Mae mwy na thair blynedd wedi bod bellach ers trasiedi Tŵr Grenfell, ac mae lesddeiliaid sy'n byw mewn blociau o fflatiau yng Nghymru—rhai ohonynt yng Nghaerdydd, rhai ohonynt mewn mannau eraill—mae'r lesddeiliaid hyn sy'n cael problemau gyda chladin yn dal i aros i glywed pa gymorth y byddant yn ei gael gan Lywodraeth Cymru. Gwyddom fod £32 miliwn wedi’i neilltuo yn y gyllideb, ond nid oes cyhoeddiad wedi bod o hyd am gronfa diogelwch adeiladau a fyddai o leiaf yn helpu i leddfu pryderon y lesddeiliaid. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â rhai ohonynt, ac rwyf hefyd wedi bod mewn cysylltiad â chi ynglŷn â'r mater hwn, Weinidog. Gwn eich bod wedi dweud y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud maes o law, i ddefnyddio eich ymadrodd chi, ond mae hynny'n amwys iawn ac nid yw'n gwneud llawer i leddfu pryderon y lesddeiliaid yr effeithir arnynt. A allwch roi rhywbeth ychydig yn fwy penodol i ni heddiw, Weinidog, ac a all eich Llywodraeth roi rhyw fath o ymrwymiad ariannol pendant tuag at y broblem enfawr hon?
Ie, rwy'n fwy na pharod i ateb cwestiwn ar gladin adeiladau, er ei bod yn anodd iawn gweld beth sydd a wnelo hynny â gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghanol De Cymru, mae'n rhaid dweud. Mae problem cladin adeiladau yn ymwneud i raddau helaeth â blociau o fflatiau lesddaliadol neu flociau o fflatiau sy’n cynnwys tenantiaid yn y sector preifat ledled Cymru. Rydym yn gweithio ar gronfa diogelwch adeiladau i'n galluogi i adfer yr adeiladau a chaniatáu mynediad at y cyllid hwnnw heb golli ecwiti’r lesddeiliaid dan sylw. Mae'n broblem gymhleth iawn, sy’n rhannol wedi'i datganoli ac yn rhannol heb ei datganoli, a dyna sy’n achosi’r cymhlethdod. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag unigolion ar lefel y DU, ar lefel swyddogol ac fel arall, er mwyn ceisio deall sut yn union y gallwn fynd ati i ddatrys y broblem hon.
Yn anffodus, mae nifer fawr o'r dulliau yn nwylo Llywodraeth y DU, gan gynnwys, er enghraifft, ymestyn rhwymedigaethau contractiol y bobl a gododd yr adeiladau yn y lle cyntaf, a chynorthwyo â’r gwaith o ddarganfod ble y gellir canoli’r materion cyfreithiol cymhleth. Ceir cwestiynau hefyd ynglŷn â mynediad at gyllid cyfreithiol a mynediad at ystod gymhleth o faterion cyfreithiol eraill y mae angen inni weithio drwyddynt er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd y bobl iawn.
Yn y cyfamser, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru i sicrhau bod pobl mor ddiogel â phosibl, ac i sicrhau bod yr amrywiol awdurdodau'n cael eu rhybuddio. Mae gwaith sylweddol a chymhleth yn mynd rhagddo. Rwyf wedi cyfarfod ag ystod o ddatblygwyr ac ystod o breswylwyr y gwahanol flociau er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac mae'n sicr yn waith parhaus.
Weinidog, mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Canol De Cymru yn dibynnu ar gyllidebau blynyddol sydd i'w gosod, ac ar hyn o bryd—. Ac rwy'n datgan buddiant, fel aelod o awdurdod lleol, awdurdod lleol Bro Morgannwg. Ar hyn o bryd, mae cynghorau ac awdurdodau’r heddlu yn gosod cyfraddau eu cyllidebau. Gosododd y comisiynydd heddlu a throseddu gyfradd ddangosol o gynnydd o 5.5 y cant, a gosododd Cyngor Bro Morgannwg gyfradd ddangosol o gynnydd o 3.9 y cant. O ystyried bod chwyddiant yn fach iawn ar hyn o bryd, a ydych yn cytuno â'r sylwadau a wnaed gan eich arweinydd yn Llundain, Keir Starmer, fod codiadau o'r fath yn hurt, neu a ydynt yn rhan synhwyrol o’r broses o osod y gyllideb sydd ei hangen ar wasanaethau cyhoeddus?
Ydw. Safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru yw mai'r ffordd orau o wneud penderfyniadau lleol yw yn lleol i’r bobl, felly nid ydym yn gosod cap. Gallem osod cap ar godiadau’r dreth gyngor, ond nid ydym yn gosod y cap hwnnw. Credwn y dylai cynghorwyr a etholir yn lleol, fel chi, fod mewn sefyllfa i wneud y penderfyniadau gorau am yr hyn sydd angen ei wneud mewn perthynas â gwasanaethau lleol. Fodd bynnag, rwy'n falch fy mod wedi darparu ar gyfer setliad llywodraeth leol dros dro, sy'n rhoi cynnydd cyffredinol o 3.8 y cant. Felly, mae pob awdurdod yng Nghymru yn cael cynnydd, a'r cyfartaledd yw 3.8 y cant. Rydym wedi diogelu cyllidebau cynghorau drwy ddarparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol ac incwm a gollwyd yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys incwm cyffredinol a gollwyd, ac yn gweithio gyda hwy i ddeall beth yw'r sefyllfa o ran y dreth gyngor a chyllid annomestig, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans. Dyma'r ail setliad rhagorol imi allu ei wneud ar gyfer llywodraeth leol, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gwneud hynny, ond wrth gwrs, mae'n amlwg nad yw'r setliadau hyn yn gwneud iawn yn llwyr am 10 mlynedd o gyni a orfodwyd gan y Torïaid, sy’n dal i'w deimlo drwy ein gwasanaethau ar hyn o bryd.
Weinidog, yr wythnos diwethaf, cychwynnodd cyngor Rhondda Cynon Taf ail gam ei ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb 2021-22, gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu gwahodd i ddweud eu barn am y cynigion penodol a amlinellwyd. Mae hyn yn cynnwys: codiad arfaethedig o 2.65 y cant yn y dreth gyngor, sef y codiad lleiaf, fwy na thebyg, yng Nghymru y flwyddyn nesaf, a llai na'r 2.85 y cant a gynigiwyd ac yr ymgynghorwyd arno'n wreiddiol; £2.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y gyllideb ysgolion; £4.6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd; dim toriadau i wasanaethau; ac adnoddau ychwanegol wedi'u targedu ar draws sawl maes gwasanaeth blaenoriaethol. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod y cynigion hyn yn brawf o ddarpariaeth arfaethedig a chynllunio rhagorol mewn cyfnod heriol iawn, ac yn dangos sut y mae llywodraeth leol, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, yn gallu cyflawni ar ran trigolion RhCT?
Ie, Vikki. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs, o gadarnhau bod cynghorau yng Nghymru wedi bod yn gwneud rhagdybiaethau cynllunio rhagorol drwy gydol y cyfnod hwn. Rydym wedi cydweithio'n agos iawn ar draws y pleidiau eleni yng Nghymru wrth ymateb i'r pandemig. Rydym wedi cydweithio'n agos iawn fel teulu o awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu darparu, fel y dywedais mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, er mwyn diogelu cyllidebau cynghorau eleni drwy ddarparu'r cynnydd cyffredinol o 3.8 y cant. Mewn gwirionedd, mae RhCT, y sonioch amdano’n benodol, ar y cyfartaledd hwnnw, sef 3.8 y cant. Rydym wedi gallu darparu costau ychwanegol a chyllid i wneud iawn am incwm a gollwyd, ac ni fyddem yn disgwyl i gynghorau yn unrhyw le yng Nghymru orfod gwneud toriadau i wasanaethau na dibynnu'n fawr ar gronfeydd wrth gefn er mwyn gwneud iawn am yr effaith a gafodd y pandemig arnynt, gan fod Llywodraeth Cymru wedi talu am hynny ac rwy'n hynod falch o fod wedi gallu gwneud hynny. Fel y dywedais wrth ateb holwr blaenorol, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod atebolrwydd democrataidd lleol yn berthnasol yma, ac y dylai cynghorwyr lleol sy'n cynrychioli eu hardaloedd lleol wneud y penderfyniadau gorau ynglŷn â gwasanaethau lleol, gan gynnwys ar godiadau'r dreth gyngor. Ond fel y nodoch chi'n gwbl gywir, ni ddylai awdurdod sy'n cael ei redeg yn dda, ei gynllunio'n dda ac sy'n cael ei ariannu’n dda orfod gwneud codiadau gormodol yn y dreth gyngor yng ngoleuni'r setliad hael iawn rydym wedi'i argymell yn y setliad llywodraeth leol dros dro.