Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:36, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n wych. Diolch am hynny, Weinidog. Mae'r Alban wedi cyhoeddi y bydd rhyddhad ardrethi busnes yn awr yn cael ei ymestyn i gynnwys pob busnes, nid dim ond y rhai sydd â gwerth ardrethol o £500,000 a llai, ac mae hynny wedi'i groesawu'n fawr. Daw hyn cyn iddynt wybod faint o arian a ddaw gan Lywodraeth y DU, i roi sicrwydd mawr ei angen i fusnesau ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys cymorth i fanwerthwyr nwyddau heblaw bwyd sydd â gwerth ardrethol o dros £500,000. O ystyried y cyhoeddiad hwnnw, a allwn ddisgwyl rhywbeth tebyg gan Lywodraeth Cymru?