Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 3 Chwefror 2021.
Unwaith eto, fel y dywedais, nid fy mhortffolio i yw hwn. Mae'r mater hwn wedi'i rannu rhwng portffolio fy nghyd-Aelod, Ken Skates, a fy nghyd-Aelod Rebecca Evans mewn gwirionedd, ond yn amlwg mae gennyf ran fawr yn y sgwrs am hynny, o gofio mai awdurdodau lleol yw'r mecanwaith dosbarthu ar gyfer rhan fawr iawn o'r ardrethi. Wrth gwrs, rydym wedi bod yn edrych eto ar yr hyn y gellir ei wneud. Yn ddiweddar iawn, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Ken Skates set arall o drefniadau cymorth busnes i'n tywys ni drwy gam nesaf y pandemig, ac rwy'n siŵr y bydd cyhoeddiadau pellach gan fy nghyd-Aelodau, Ken Skates a Rebecca Evans, maes o law.