Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch. Mae'n galonogol iawn clywed eich bod chi'n gweithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU ar fater fel hwn. Mae'r apeliadau'n egluro a yw amrywiaeth ymadroddion polisïau yswiriant yn cwmpasu colledion oherwydd amharu ar fusnesau sy'n deillio o bandemig COVID-19, a mesurau iechyd cyhoeddus wedi'u cymryd gan awdurdodau'r DU, mewn ymateb i'r pandemig, o fis Mawrth 2020. Felly, fel yr ydych chi wedi'i ddweud yn gywir, mae'r dyfarniad yn newyddion da i fusnesau. Er enghraifft, cafodd cymalau clefydau eu dehongli fel rhai sy'n cwmpasu colledion oherwydd amharu ar fusnesau yn sgil COVID-19. Dywedodd y Goruchaf Lys y gallai cyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus fod yn gyfyngiad a osodwyd mewn cymalau atal mynediad a hybrid. Ac mae hefyd yn ddigon i ddeiliad polisi ddangos, ar adeg unrhyw fesur perthnasol gan y Llywodraeth, fod o leiaf un achos o COVID-19 yn yr ardal ddaearyddol wedi'i chwmpasu gan y cymal. Roedd y materion a godwyd yn yr achos mor bwysig, wrth gwrs, fel yr aeth yn uniongyrchol i'r Goruchaf Lys o dan y weithdrefn naid. Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i helpu i wneud busnesau ledled Cymru yn ymwybodol o'r dyfarniad pwysig sydd wedi'i wneud, a'r effaith fwyaf cadarnhaol y gallai hyn ei chael arnyn nhw? Diolch.