2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2021.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ynghylch effaith y dyfarniad yn achos yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (apelydd) yn erbyn Arch Insurance (UK) Ltd ac eraill (ymatebwyr)? OQ56265
Mae Llywodraeth Cymru—[Anghlywadwy.]
Nid wyf yn gallu clywed.
Na. Mae problem, Cwnsler Cyffredinol, gyda'ch sain. Tybed a ydych chi, neu os yw darlledu—
Yw hynny'n well, Dirprwy Lywydd?
Mae hynny'n well, diolch, ydy.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r eglurder y mae'r dyfarniad yn ei ddarparu ar gyfer busnesau a chwsmeriaid unigol. A byddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraethau datganoledig, a'r diwydiant, i fonitro effaith y dyfarniad llys hwn ar fater hawliadau yswiriant dilys.
Diolch. Mae'n galonogol iawn clywed eich bod chi'n gweithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU ar fater fel hwn. Mae'r apeliadau'n egluro a yw amrywiaeth ymadroddion polisïau yswiriant yn cwmpasu colledion oherwydd amharu ar fusnesau sy'n deillio o bandemig COVID-19, a mesurau iechyd cyhoeddus wedi'u cymryd gan awdurdodau'r DU, mewn ymateb i'r pandemig, o fis Mawrth 2020. Felly, fel yr ydych chi wedi'i ddweud yn gywir, mae'r dyfarniad yn newyddion da i fusnesau. Er enghraifft, cafodd cymalau clefydau eu dehongli fel rhai sy'n cwmpasu colledion oherwydd amharu ar fusnesau yn sgil COVID-19. Dywedodd y Goruchaf Lys y gallai cyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus fod yn gyfyngiad a osodwyd mewn cymalau atal mynediad a hybrid. Ac mae hefyd yn ddigon i ddeiliad polisi ddangos, ar adeg unrhyw fesur perthnasol gan y Llywodraeth, fod o leiaf un achos o COVID-19 yn yr ardal ddaearyddol wedi'i chwmpasu gan y cymal. Roedd y materion a godwyd yn yr achos mor bwysig, wrth gwrs, fel yr aeth yn uniongyrchol i'r Goruchaf Lys o dan y weithdrefn naid. Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i helpu i wneud busnesau ledled Cymru yn ymwybodol o'r dyfarniad pwysig sydd wedi'i wneud, a'r effaith fwyaf cadarnhaol y gallai hyn ei chael arnyn nhw? Diolch.
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod i a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ym mis Ebrill y llynedd, rwy'n credu, wedi cyfarfod am y tro cyntaf â'r ABI—Association of British Insurers—i drafod y mater penodol hwn, cyn ystyried ymgyfreitha. Ac mae i'w groesawu bod y 21 math o gymal polisi sydd wedi'u samplu gan y Goruchaf Lys wedi bod yn destun y canlyniad clir hwn. A'r effaith ymarferol yw y bydd y cymalau yswiriant, sy'n destun yr ymgyfreitha, yn darparu'r warchodaeth. Rydym ni'n parhau i gyfeirio busnesau y mae gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau a pherthynas â nhw at yr wybodaeth sydd ar gael, ac at yr adnoddau sydd ar gael i'r cyhoedd, mewn cysylltiad â'r dyfarniad pwysig hwn. Oherwydd mae'n rhoi rhyw fath o eglurder y mae busnesau wedi bod yn gofyn amdano ers misoedd lawer.
Mae cwestiwn 4 [OQ56261] wedi'i dynnu'n ôl. Felly cwestiwn 5, David Melding.