Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 9 Chwefror 2021.
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod i a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ym mis Ebrill y llynedd, rwy'n credu, wedi cyfarfod am y tro cyntaf â'r ABI—Association of British Insurers—i drafod y mater penodol hwn, cyn ystyried ymgyfreitha. Ac mae i'w groesawu bod y 21 math o gymal polisi sydd wedi'u samplu gan y Goruchaf Lys wedi bod yn destun y canlyniad clir hwn. A'r effaith ymarferol yw y bydd y cymalau yswiriant, sy'n destun yr ymgyfreitha, yn darparu'r warchodaeth. Rydym ni'n parhau i gyfeirio busnesau y mae gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau a pherthynas â nhw at yr wybodaeth sydd ar gael, ac at yr adnoddau sydd ar gael i'r cyhoedd, mewn cysylltiad â'r dyfarniad pwysig hwn. Oherwydd mae'n rhoi rhyw fath o eglurder y mae busnesau wedi bod yn gofyn amdano ers misoedd lawer.