2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 10 Chwefror 2021.
Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Y cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Dwi'n siŵr bod y Gweinidog wedi darllen yr erthygl ddamniol yn BusinessLive ar 2 Chwefror, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio ei phwerau benthyg yn llawn yn 2019-20 a 2020-21. All y Gweinidog egluro pam bod Llywodraeth Cymru wedi tanddefnyddio'r pwerau benthyg presennol, yn enwedig o ystyried y problemau rydyn ni'n eu hwynebu oherwydd y pandemig? Pam bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio â defnyddio'r cyfle i gyllido prosiectau cyfalaf a allai fod wedi cael effaith bositif ar yr economi Gymreig?
Nid wyf yn derbyn yr asesiad hwnnw o gwbl. Wrth gwrs, cafodd cyllideb 2020-21 ei heffeithio gan yr addasiadau hwyr iawn a wnaed yn ystod y flwyddyn gan Lywodraeth y DU yn ei hamcangyfrifon atodol, lle cawsom arian ychwanegol yn hwyr iawn ar ddiwedd y flwyddyn, a oedd yn ei gwneud yn anodd iawn inni reoli'r sefyllfa benodol honno. Ledled Cymru, mae ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru wedi cyflawni cynlluniau cyfalaf uchelgeisiol iawn. Dros y weinyddiaeth, rydym wedi dyrannu £12.2 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer prosiectau cyfalaf ledled Cymru a £27.8 biliwn ers i ni gyhoeddi cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn 2012. Byddwch wedi gweld buddsoddiad, er enghraifft, o £1.7 biliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein rhaglen gwerth £3.7 biliwn i sicrhau addysg ac ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae hwnnw'n cael effaith mewn cymunedau ledled Cymru. Buddsoddwyd swm o £2 biliwn yn ystod y tymor hwn ar gyfer tai, gan ddarparu dros 20,000 o dai fforddiadwy, a chwalu ein targed, er ein bod wedi mynd drwy'r argyfwng hwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith drwy gydol tymor y Senedd hon.
Mae'r Gweinidog yn dweud nad yw'n cytuno â fy asesiad. Nid fy asesiad i ydoedd; dim ond datganiad o lle rydym arni. Nid ni yw'r unig rai sy'n argymell defnyddio'r cyfleusterau sydd gennym. Yn yr erthygl honno a grybwyllais, dyfynnir yr economegydd Gerry Holtham yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru allu rheoli ei chyllideb i sicrhau ei bod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o'i phwerau benthyca cyfalaf. Aeth ymlaen i ddweud na ellid defnyddio'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi talu derbyniadau cyfalaf yn hwyr fel esgus a rhybuddiodd y gallai diffyg awydd am fenthyca cyfalaf danseilio achos Llywodraeth Cymru dros gynyddu'r lefelau presennol. Nawr, gŵyr y Gweinidog fod Plaid Cymru a minnau wedi bod yn galw am fwy o bwerau cyllidol yn ystod y pandemig hwn, fel y mae hithau. Mae wedi dweud wrthym sawl gwaith bod trafodaethau'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chaniatáu mwy o hyblygrwydd ariannol. Rwyf wedi ei hannog i fynd ar drywydd hynny'n egnïol, ond a yw'r Gweinidog yn cytuno bod Llywodraeth Cymru yn tanseilio ei hachos ei hun drwy fethu defnyddio'r pwerau benthyca sydd ganddi eisoes yn llawn?
Nid oes angen anogaeth Plaid Cymru arnaf i fynd ar y trywydd penodol hwnnw gyda Llywodraeth y DU yn egnïol, oherwydd mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn ei wneud ers peth amser. Fodd bynnag, nid ydym eto wedi cael yr eglurhad ynglŷn â'n cais am hyblygrwydd, a fydd yn dod yn llawer cliriach inni wrth inni symud tuag at yr amcangyfrifon atodol, y bydd Llywodraeth y DU yn eu cyhoeddi maes o law. Fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi ein cyllideb ar gyfer 2021-22, ac mae honno'n dangos ein bod yn bwriadu benthyca'r uchafswm o £150 miliwn sydd ar gael inni o fewn ein terfyn blynyddol. Fe welwch gynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer y flwyddyn nesaf ar draws ein cyllideb. Hyd yn oed lle na allwn wneud popeth y byddem eisiau ei wneud o fewn y pwerau sydd gennym, fe fyddwch wedi gweld ein bod wedi creu'r model buddsoddi cydfuddiannol er mwyn ein helpu i gyflawni'r prosiectau mwy o faint hynny na fyddai'n bosibl o fewn ein setliad cyfalaf presennol ac o fewn y pwerau benthyca sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, rydym wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â'r mater sy'n cael ei ddisgrifio.
Gall y Gweinidog wneud cymaint o esgusodion ag y mynno am yr hyn a ddigwyddodd yn 2019-20 a 2020-21, ond y realiti yw bod y Llywodraeth wedi methu bachu ar gyfle i fuddsoddi yn nyfodol Cymru. Dyfynnaf Gerry Holtham eto:
Mae methu benthyca mewn dwy flynedd ariannol yn olynol i'w weld yn anuchelgeisiol. Nid yw dweud nad ydynt yn gwybod beth fydd y dyraniad cyfalaf yn rheswm dilys gan eu bod yn gwybod beth fydd hwnnw o fewn ffin cyfeiliornad o 10-20% a gallent gynllunio ar gyfer yr annisgwyl.
A yw'r Gweinidog yn anghytuno â'i asesiad a'i ddadansoddiad, tybed? Gwyddom fod prosiectau sylweddol sydd angen bod ar y gweill—y metro, ôl-osod tai, mae rhestr hir—a chyda chyfraddau llog ar eu hisaf erioed, dyma'r amser i fuddsoddi. Mewn cyferbyniad, gan edrych i'r Alban, ers Deddf yr Alban 2012, mae Llywodraeth yr Alban wedi benthyca £1.6 biliwn mewn cyfalaf ac mae'n bwriadu codi £300 miliwn pellach mewn dyled ar log isel erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. A wnaiff y Gweinidog gyfaddef mai'r realiti yw bod amharodrwydd i ddefnyddio pwerau cyllidol, sydd eisoes yn annigonol, yn llawn yn dystiolaeth bellach nad oes gan y Llywodraeth Lafur hon uchelgais dros Gymru?
Nid yw hynny'n wir o gwbl. Wrth gwrs, mae gennym setliad gwahanol iawn i'r Alban, felly nid wyf yn credu bod y cymariaethau hynny o reidrwydd yn ddilys. Os ydych eisiau edrych ar yr uchelgais sydd gan Lywodraeth Lafur Cymru, nid oes ond rhaid i chi edrych cyn belled â rhaglen buddsoddi yn seilwaith Cymru a'r hyn sydd gennym yn yr arfaeth. Mae'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r cyfnod rydym wedi gosod cyllidebau ar ei gyfer, ond serch hynny rydym wedi nodi prosiectau pwysig y byddwn eisiau eu harchwilio wrth symud ymlaen: trydedd groesfan Menai ar yr A55, er enghraifft, cynllun gwerth £130 miliwn i ddechrau yn 2022; coridor yr A55/A494/A458 Sir y Fflint, cynllun gwerth £300 miliwn i ddechrau yn 2022; metro gogledd-ddwyrain Cymru, £504 miliwn, a bydd ein Llywodraeth yng Nghymru yn cyfrannu at hwnnw; £1 filiwn yn rhaglen y Cymoedd Technoleg; cam nesaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, £2 biliwn; a metro trafnidiaeth integredig de Cymru, £738 miliwn. Mae'r rhain i gyd yn fuddsoddiadau difrifol mewn cymunedau, a fydd yn sicr o effeithio ar greu swyddi a darparu ysgogiad economaidd. Felly, nid yw'n wir dweud nad ydym yn uchelgeisiol yn y maes hwn; mewn gwirionedd, mae gennym gynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru sy'n dweud y gwrthwyneb.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi eu bod yn darparu grantiau ar gyfer hostelau a thai bynciau i'r Alban gyda chronfa gymorth gwerth £2.3 miliwn ar gyfer hostelau. Mae nifer o weithredwyr tai bynciau gwledig a busnesau awyr agored amgen yn y gogledd wedi ysgrifennu ataf yn galw am gronfa gymorth i hostelau a thai bynciau sy'n cyfateb i hyn yng Nghymru. Fel y dywedasant, 'Rydym yn darparu gwasanaeth i'n cymuned leol, gan ddod ag ymwelwyr i mewn drwy gydol y flwyddyn sy'n defnyddio tafarndai a siopau lleol, ond mae rheolau COVID a llai o gymysgu cymdeithasol yn effeithio'n drychinebus arnom, oherwydd rydym yn darparu llety a rennir i bobl o wahanol aelwydydd.' Sut ydych chi'n ymateb felly i adroddiad Independent Hostels UK, 'The Case for Extra Financial Support', sy'n nodi:
Heb gymorth ariannol ychwanegol y gaeaf hwn, rhagwelir na fydd 34% o hostelau'n goroesi erbyn y tymor twristiaeth y flwyddyn nesaf' ac
Un cymorth delfrydol fyddai 'Grant Cymorth' wedi'i gyfeirio'n benodol at hostelau a llety grŵp yn y sector twristiaeth?
I ddechrau, byddwn yn annog y busnesau hynny i archwilio a ydynt wedi gwneud y gorau o'r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, os ydynt yn fusnesau sy'n talu ardrethi annomestig, a ydynt wedi cael y grantiau sy'n benodol i fusnesau yn y sector ardrethi annomestig? A hefyd wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ein cronfa gwerth £180 miliwn ar gyfer sectorau penodol. Agorwyd honno ar 13 Ionawr. Hyd yn hyn, derbyniwyd dros 7,600 o geisiadau ac mae 4,401 o gynigion gwerth £33 miliwn wedi'u gwneud. Gallai'r busnesau hynny edrych i weld a ydynt yn gymwys ai peidio. Mae wedi'i dargedu at fusnesau yn y sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden. Byddwn yn fwy na pharod i roi manylion pellach i Mark Isherwood a gallai eu rhannu â'r busnesau hynny iddynt weld a allent gael cymorth o'r gronfa honno.
Byddwn yn hapus i roi copi o'r adroddiad hwnnw i chi os nad oes gennych un, oherwydd mae'n dangos eu bod yn ymwybodol o'r ffrydiau ariannu presennol ac wedi manteisio arnynt lle maent wedi gallu gwneud hynny.
Wrth ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
'Mae'n rhaid i'r sector gwirfoddol gael cefnogaeth ac adnoddau er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaeth ganolog yn y broses o adfer ar ôl y pandemig' a
'Rhaid i gyd-gynhyrchu chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ataliol.'
Aeth eu hymateb i gynigion y gyllideb ddrafft ymhellach, gan ddweud:
'Mae'r sector gwirfoddol yn parhau i fod angen mwy o adnoddau i ymateb i'r galw cynyddol ar ei wasanaethau' a
'Mae gan y sector lawer o grwpiau a sefydliadau sydd wedi datblygu i ddatrys problemau penodol neu eu hatal rhag gwaethygu.'
Maent hefyd yn atal pwysau ariannol ychwanegol enfawr ar wasanaethau iechyd a gofal. Sut y byddwch yn ymateb yn ariannol felly i'w pryder fod elusennau yng Nghymru wedi colli tua 24 y cant o'u hincwm eleni, neu £1.2 biliwn i elusennau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, er bod y gyllideb ddrafft yn datgan y bydd £700,000 ychwanegol yn cael ei ddarparu ar ben y £3 miliwn i gefnogi'r sector yn ei ymateb i COVID-19 a chronfa adfer COVID-19 trydydd sector Llywodraeth Cymru, sy'n werth £24 miliwn? Mewn geiriau eraill, heb y buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen, bydd yn costio llawer mwy o arian i'r Trysorlys yng Nghymru nag y byddai ei angen arnynt fel arall i atal y galw hwnnw rhag cael ei greu.
Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r sector elusennau a'r trydydd sector yma yng Nghymru drwy gydol y pandemig. Rwyf wedi cyfarfod â'r sector fy hun er mwyn clywed am yr heriau y maent yn eu hwynebu, ac maent yn sicr yn ymwneud â methu cyflawni eu gweithgareddau codi arian arferol, er enghraifft, fel y disgrifiodd Mark Isherwood. Dyna pam ein bod wedi rhoi cymorth ar waith sy'n benodol i'r sector, ond hefyd rydym wedi ceisio rhoi rhyw fath o sicrwydd iddynt ynglŷn â dyfodol yr ymateb i'r pandemig hefyd. Byddaf yn archwilio'r materion sydd wedi'u codi ym mhob un o'r pwyllgorau gyda fy nghyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru wrth i ni symud tuag at y gyllideb derfynol, gan wrando hefyd ar y sylwadau a wnaed yn y ddadl ddoe a chael trafodaethau pellach ynghylch pa gymorth y gallai fod ei angen.
Rwy'n eich annog i edrych ar y gwasanaethau hanfodol sy'n cael eu darparu gan y sector, y byddai gwaith pawb yn y Llywodraeth yn anos hebddynt, ond hefyd byddai ein gwaith yn yr wrthblaid yn anos, a byddai bywydau pawb yn llawer anos hefyd. Un o'r rheini, wrth gwrs, yw hosbisau. Er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn i gronfa argyfwng yr hosbisau ar y cychwyn, roedd hyn yn llai hael na chronfeydd cyfatebol ym mhob gwlad arall yn y DU, fel y mae'r dystiolaeth yn dangos, ac mae'n sylweddol is na'r cyfanswm a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru mewn cyllid canlyniadol o gymorth Llywodraeth y DU i hosbisau yn Lloegr.
Fodd bynnag, mae ein sector hosbisau a gofal lliniarol cymunedol wedi parhau i ddarparu gofal hollbwysig a gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig. Ychwanegwyd hyd at £125 miliwn at y pecyn cyllid argyfwng gwreiddiol i hosbisau ar gyfer 2020-21 yn Lloegr, ond ni ychwanegwyd rhagor o arian yng Nghymru. Mae hosbisau yng Nghymru yn wynebu diffyg cyfunol o £4.2 miliwn erbyn mis Mawrth, ond ar ôl i mi arwain y ddadl ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yma yr wythnos diwethaf, dim ond £3 miliwn yn ychwanegol a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru i'w cefnogi yn y flwyddyn ariannol hon. At hynny, nid oedd unrhyw arwydd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 o gymorth parhaus i hosbisau allu cynnal eu gwasanaethau hanfodol, er gwaethaf eu hamcangyfrif o ddiffyg cyfunol o £6.1 miliwn yn ystod 2021-22. Felly, ble mae gweddill yr arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r cynnydd yn y cyllid i hosbisau yn Lloegr y flwyddyn ariannol hon i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol? A sut y byddwch yn ymateb i anghenion ariannu dwys hosbisau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?
Wel, fel y dywed Mark Isherwood, mae hosbisau'n darparu gwasanaeth eithriadol o bwysig i bobl Cymru ac rydym yn llwyr gydnabod y cyfraniad enfawr a wnânt. Buom yn gweithio ochr yn ochr â'r sector hosbisau yma yng Nghymru i ddeall y cymorth ariannol penodol y byddai ei angen arnynt, a dyna'r rheswm pam ein bod wedi dyrannu £9.3 miliwn â chyllid brys i gefnogi'r hosbisau hynny drwy gydol y pandemig, ac mae hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu gwasanaethau clinigol a chryfhau cymorth profedigaeth hosbisau.
Ac mae yna ateb eithaf syml, mewn gwirionedd, sef bod y sector hosbisau yma yng Nghymru yn llai na'r hyn ydyw dros y ffin, felly dyma un o'r meysydd hynny lle nad oedd y symiau canlyniadol yn cyfateb i'r angen a nodwyd sydd gennym yma yng Nghymru. A dywedaf, 'angen a nodwyd' oherwydd gwnaethom weithio gyda'r sector i nodi'r cyllid y byddai ei angen arno. Ac mae yna feysydd, wrth gwrs, lle cawn symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU nad ydynt yn diwallu ein hangen a lle mae ein hangen yn llawer mwy nag ar draws y ffin. Felly, ni allwn weithredu fel blwch post ar gyfer cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, mae'n rhaid inni weithio gyda'r sectorau unigol i ddeall yr angen a nodir. Ac fel y dywedaf, pan oeddem yn gweithio gyda'r sector, yr angen a nodwyd yw'r angen rydym wedi'i ddiwallu, ond yn amlwg, os oes trafodaeth bellach i'w chael, byddwn yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny gyda'r sector.