Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ymhen tair wythnos, fe fydd y Senedd lawn yn trafod y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). O'i basio, fe fydd y ddeddfwriaeth yma yn gosod cyfeiriad addysgol ein cenedl am flynyddoedd lawer. Mae dysgu am gydberthynas a rhywioldeb yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil fel elfen orfodol i'w chynnwys yng nghwricwlwm pob ysgol. Mae dysgu am lesiant meddyliol bellach wedi'i ychwanegu i wyneb y Bil yn ystod Cyfnod 2. Fedrwch chi egluro pam fod angen i'r ddwy elfen yma fod ar wyneb y Bil?