Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 10 Chwefror 2021.
Mae'r penderfyniad i roi addysg cydberthynas a rhywioldeb ar wyneb y Bil yn deillio o argymhelliad yr adolygiad annibynnol a sefydlais fel y Gweinidog. Mae cynnwys sicrhau bod ysgolion, wrth osod y cwricwlwm, yn ystyried iechyd meddwl a llesiant yn cyd-fynd yn llwyr â chyfeiriad polisi'r Llywodraeth hon er mwyn sicrhau dull ysgol gyfan. Felly, yr hyn rydym yn ei newid a'r hyn rydym yn ei ddiwygio yw sicrhau, wrth fynd ati i gynllunio cwricwlwm, fod iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr yn ystyriaeth allweddol. O ran cynnwys y cwricwlwm, bydd iechyd meddwl a llesiant, wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig iawn o'r maes dysgu a phrofiad, sy'n rhan statudol o'r cwricwlwm.