Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch, Weinidog, ac rwy'n cymeradwyo'r flaenoriaeth honno. Tybed a allech hefyd ddweud a gyfrannodd Llywodraeth Cymru at ymateb Llywodraeth y DU i seithfed ymgynghoriad UNESCO ar addysg er dealltwriaeth ryngwladol? Rwy'n sylweddoli bod hyn yn benodol iawn, felly os ydych yn barod i ysgrifennu ataf gyda'r wybodaeth honno, a rhoi rhai manylion am yr ymateb efallai, oherwydd credaf fod hwn yn faes allweddol o ystyried yr hinsawdd newydd yn y Deyrnas Unedig gan ein bod bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae gofynion byd-eang ychwanegol newid hinsawdd a'r pandemig yn gwneud hwn yn faes gwirioneddol bwysig ar gyfer addysg.