– Senedd Cymru am 6:06 pm ar 23 Chwefror 2021.
Eitem 13 ar ein hagenda yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â'r holl Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Gair arbennig o ddiolch hefyd i glercod y pwyllgorau, cyfreithwyr y Senedd a staff cymorth eraill sydd wedi gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r llenni i helpu i gael y Bil hwn drwy'r broses graffu yn ystod cyfnod mor gythryblus, ac yn arbennig am eu hymagwedd adeiladol dros yr wythnosau diwethaf, a'n galluogodd i gynnwys diwygiadau hanfodol bwysig i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019 yn y Bil. Estynnaf yr un diolch i swyddogion Llywodraeth Cymru sydd hefyd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ni gyrraedd y pwynt hwn. Rwyf i a fy ngyd-Aelodau yn y Cabinet yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich ymdrechion.
Yn olaf, diolch diffuant i bob un ohonoch, gan gynnwys ein rhanddeiliaid a'n partneriaid allanol, y rhai a ymatebodd i'n hymgynghoriad ar y Bil, y rhai a gyfrannodd dystiolaeth drwy gydol y broses graffu, a'r rhai a weithiodd yn ddiflino a gyda chymaint o ymroddiad ac ymrwymiad i'r sectorau a'r unigolion y maen nhw'n eu cynrychioli ac yn eu cynorthwyo o ddydd i ddydd. Byddwn yn dal i ddibynnu ar y gefnogaeth a'r proffesiynoldeb hynny yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni symud ymlaen at y gwaith sydd ei angen i weithredu'r newid mwyaf sylfaenol i'r sector rhentu ers degawdau.
Mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Mae gennym ni lu o is-ddeddfwriaeth a chanllawiau i'w rhoi ar waith cyn i Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan y Bil hwn, ddod i rym y flwyddyn nesaf, ond rwy'n hyderus, gyda'r gefnogaeth barhaus a'r her adeiladol a ddarperir gan ein partneriaid a'n rhanddeiliaid, y byddwn yn cyrraedd y nod. Bydd y Bil hwn, ochr yn ochr â'n deddfwriaeth rhentu cartrefi arall, yn sefydlu trefniadau tecach a mwy tryloyw ar gyfer rhentu yng Nghymru, ac anogaf bob Aelod i gefnogi'r Bil. Diolch.
Diolch. Laura Anne Jones. Ddim yn bresennol. Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae llawer o waith caled wedi'i wneud ar y ddeddfwriaeth hon. Rwyf i yn cymeradwyo tîm y Bil a staff y pwyllgorau. Cafwyd llawer o sgyrsiau cadarnhaol am y posibiliadau a gyflwynwyd gan y Bil. Rwy'n credu ein bod ni wedi dechrau gweld egin newid i ailgydbwyso'r hawliau o blaid tenantiaid, ond—ac mae yna 'ond', mae arnaf ofn—mae wedi bod yn drueni mawr nad yw'r Llywodraeth wedi gallu symud yn fwy ar y cyfnod rhybudd yn y ddeddfwriaeth. Mae cyfle wedi ei golli yn wirioneddol yn y fan yma.
Cyflwynodd fy ngrŵp gyfres o welliannau i'r ddeddfwriaeth a oedd yn cynnig ystod eang o opsiynau ar gyfer cyfaddawdu ar y mater hwn. Bydd yr Aelodau yn gwybod ei bod yn rhestr hir oherwydd bu'n rhaid i ni bleidleisio ar bob un, ond cafodd pob opsiwn ei drechu, ac roedd hynny'n destun siomedigaeth. Mae'n rhaid i gryfhau hawliau tenantiaid fod o'r pwys mwyaf, a byddem ni wedi hoffi gweld cynnydd mwy radical. Rydym yn byw mewn cyfnod pan fo bod yn radical yn wirioneddol bosibl, ac nid dyna'r amser i ganiatáu i gyfleoedd fynd. Felly, mae hwn yn faes yr wyf i'n credu y byddwn yn ei weld yn cael ei ailystyried ar ddechrau'r tymor Senedd nesaf. Mae arnaf i ofn y byddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth gan nad yw'n mynd yn ddigon pell ac oherwydd y ffaith nad ydym ni wedi gweld y cyfaddawd hwnnw, fel yr oeddwn i wedi ei egluro yn ystod y camau cynharach. Diolch.
Diolch. Rwy'n credu yr oedd Laura Jones yn cael problemau gyda'r dechnoleg, ac felly rwy'n ei gweld hi yn awr. Felly, rwy'n eich galw chi nawr i siarad, Laura.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Do, cefais fy nhaflu allan gan y cyfrifiadur ar yr eiliad waethaf posibl.
Yn gyntaf, hoffwn i gofnodi fy niolch i'r clerc a'r staff cyfreithiol am eu cymorth. Hoffwn i hefyd gadarnhau y byddwn yn pleidleisio o blaid y Bil hwn heddiw. Mae methiant y Gweinidog hwn i dderbyn ein gwelliannau yn destun gofid, gan y byddai'r rhain wedi diogelu'r tenantiaid a'r landlordiaid ac wedi sicrhau cyflenwad da o dai yn y sector rhentu. Fodd bynnag, rydym ni'n cefnogi nod cyffredinol y ddeddfwriaeth hon, sef darparu mwy o sicrwydd deiliadaeth i rentwyr.
Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd tai ac, yn arbennig, cartref. Yn ystod y pandemig, mae pob un ohonom ni wedi treulio llawer mwy o amser gartref o ganlyniad i'r cyfyngiadau a osodwyd arnom. Mae wedi dod yn fan gwaith, yn fan astudio, yn lle i gymdeithasu ac yn lle o gefnogaeth. Felly, ni fu diogelwch cartref erioed yn bwysicach, ac rwy'n cydnabod y bydd darpariaethau'r Bil hwn yn helpu i roi sicrwydd ychwanegol i rentwyr, yn enwedig yn ystod cyfnod ansicr. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod deddfwriaeth yn gytbwys ac yn diwallu anghenion y rhai sydd wedi eu cynnwys yn ei darpariaethau. Mae'r farn hon wedi llywio'r dull y mae fy nghyd-Aelod Mark Isherwood a mi wedi ei ddefnyddio yn ystod hynt y Bil hwn. Heb ailadrodd y dadleuon yr ydym wedi eu gwneud, rydym ni wedi ceisio ymateb i bryderon landlordiaid, y sector rhentu ehangach a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â chanlyniadau anfwriadol posibl y Bil. Mae'r Gweinidog eisoes wedi cydnabod y pryderon ynglŷn â'r effaith ar aelodau'r lluoedd arfog sy'n byw mewn llety gwasanaeth, yn ogystal ag ar weinidogion crefydd a chynrychiolwyr cymunedau ffydd. Unwaith eto, hoffwn i bwyso ar y Gweinidog i sicrhau yr ymdrinnir â'r materion hyn cyn yr etholiad, os oes modd. Byddai wedi bod yn fwy buddiol i'n gwelliannau sy'n ymwneud â gweinidogion crefydd a'r lluoedd arfog fod ar wyneb y Bil.
Mae pryderon dilys hefyd gan y sector rhentu ynglŷn â'r effaith y gallai'r Bil hwn ei chael ar nifer y cartrefi sydd ar gael, yn ogystal ag ar y cylch busnes blynyddol yn y sector rhentu i fyfyrwyr. Mae'r sector rhentu yn rhan graidd o'r dirwedd dai yng Nghymru, gan ddarparu dros 400,000 o gartrefi. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tenantiaid a landlordiaid, yn enwedig gan y byddai unrhyw gam sy'n gyrru landlordiaid da allan o'r sector ac yn lleihau'r stoc dai sydd ar gael i'w rhentu yn niweidiol i denantiaid yng Nghymru yn y tymor hir. Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut yr ydych yn bwriadu adolygu effaith y ddeddfwriaeth, gan gynnwys unrhyw effaith ar nifer yr eiddo sydd ar gael i'w rhentu, er mwyn lleddfu'r pryderon hyn a sicrhau na fydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl yn dwyn ffrwyth?
Yn olaf, rydym ni hefyd wedi clywed bod llawer o landlordiaid yn cael anawsterau wrth adennill meddiant o'u heiddo pan fetho popeth arall. Mae ffigurau Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl yn dangos ei bod yn cymryd 22.6 wythnos ar gyfartaledd i gael meddiant o'u heiddo, er gwaethaf y rheolau presennol sy'n nodi y byddai hyn yn cymryd tua naw wythnos. Gweinidog, a wnewch chi roi manylion unrhyw drafodaethau yr ydych chi a swyddogion wedi eu cael ynghylch sut i leihau'r ôl-groniad hwn, yn ogystal ag unrhyw waith archwiliadol ar lys neu dribiwnlys tai yng Nghymru yn y dyfodol, i sicrhau bod landlordiaid yn gallu cael eu hawl i gael proses effeithiol? Diolch, Gweinidog. Unwaith eto, byddwn yn cefnogi'r Bil hwn heddiw.
Diolch. Nid oes unrhyw Aelod wedi nodi ei fod yn dymuno ymyriad. Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno mai dull o feddiannu yn seiliedig ar seiliau yw'r un iawn i Gymru ar hyn o bryd, ac ailadroddaf unwaith eto y bydd gan denantiaid yng Nghymru, o dan ein Bil, fwy o sicrwydd deiliadaeth o ran hysbysiad dim bai nag yn unrhyw le arall yn y DU. Mae ein cyfnod rhybudd o chwe mis yn cynrychioli cydbwysedd rhesymol rhwng buddiannau landlordiaid a deiliaid contractau—safbwynt a gefnogwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil. Mae chwe mis yn rhoi amser priodol i sicrhau bod rhywun yn gallu dod o hyd i gartref addas os yw'n cael hysbysiad. Bydd amgylchiadau bob amser lle y gallai rhywun fod eisiau mwy o amser, ond mae'n rhaid i ni ystyried yr effaith y byddai hyn yn ei chael ar hawliau'r landlord. Felly, unwaith eto, rwy'n ailadrodd, mae hwn yn gydbwysedd addas rhwng y ddau. Byddai cyfnodau rhybudd hirach neu fyrrach yn peri gofid i'r cydbwysedd rhwng hawliau deiliad y contract a'r landlord.
Nid ydym yn cefnogi cyflwyno seiliau gorfodol newydd o fewn Bil sydd â'r nod o gynyddu diogelwch deiliadaeth. Sail y Bil yw darparu o leiaf chwe mis o rybudd i ddeiliad contract nad yw wedi gwneud dim o'i le yn ystod ei feddiannaeth. Rwy'n deall y gallai fod gan landlord reswm da dros ddymuno gwerthu ei eiddo neu fyw ynddo'i hun, ond nid bai deiliad y contract yw hyn ac yn sicr ni ddylai hyn gael blaenoriaeth dros ei allu i ddod o hyd i gartref addas arall. Dylai pob Aelod ddymuno diogelu hawliau deiliaid contractau o dan yr amgylchiadau hyn, ac felly rwyf i'n gobeithio yn wirioneddol y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r Bil hwn heddiw er mwyn rhoi'r hawliau hynny iddyn nhw.
Rwy'n hapus i roi sicrwydd i Laura ein bod yn ymchwilio i'r eithriad ar gyfer personél y lluoedd arfog sy'n gwasanaethu. Fel yr eglurais yng Nghyfnod 3, nid yw'n bosibl rhoi hynny ar wyneb y Bil heb greu rhai canlyniadau anfwriadol, ac mae gennym ni eisoes y pwerau rheoleiddio sydd eu hangen i wneud hynny ac rydym yn cael y drafodaeth honno. Rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi hi ac Aelodau eraill am hynny wrth i ni symud ymlaen. O ran eiddo yr eglwys, trafodwyd hyn yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3, ac rwyf wedi gwneud safbwynt y Llywodraeth yn glir. Rydym yn parhau i adolygu'r mater ac yn ceisio defnyddio'r pwerau is-ddeddfwriaeth sydd ar gael i fynd i'r afael ag unrhyw faterion yma os oes angen. Rydym yn awyddus i glywed barn yr holl bartïon y gallai'r trefniadau effeithio arnyn nhw, a bydd hyn yn rhan o'n gwaith ymgysylltu wrth symud ymlaen.
Rwy'n ddiolchgar i glercod y pwyllgorau ac aelodau'r pwyllgorau, yn enwedig o ran diben Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019, sef gwahardd landlordiaid ac asiantau gosod tai yn y sector masnachol rhag gofyn am daliadau gan ddeiliaid contractau a thenantiaid o dan gontractau meddiannaeth safonol oni bai fod ganddyn nhw ganiatâd i wneud hynny o dan y Ddeddf. Fel yr eglurais yng Nghyfnod 3, mae'n gwahardd talu taliadau gwasanaeth mewn cysylltiad â lleiafrif o denantiaethau yn y sector tai cymdeithasol, sydd wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol, ac rwy'n falch iawn y bydd y Senedd yn manteisio ar y cyfle i bleidleisio i gywiro hynny ac amddiffyn y tenantiaid hynny yn benodol.
Yn gyffredinol, Dirprwy Lywydd, rwyf i'n credu bod gennym ni gyfaddawd rhesymol yma rhwng hawliau'r landlordiaid a'n hangen i sicrhau bod deiliaid contractau yng Nghymru yn cael yr amddiffyniad gorau sydd ar gael unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Ar y sail honno, cymeradwyaf y Ddeddf hon i'r Senedd. Diolch.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn i'r cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod cyn symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r cyfarfod wedi'i atal.