Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 23 Chwefror 2021.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod angen rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiad cyfalaf mewn cyfleusterau acíwt modern? Mae'n dal yn wir bod rhai yn hen ffasiwn, yn anaddas, yn rhy fawr, gyda phobl ifanc, er enghraifft, mewn cyfleusterau oedolion, a gall unrhyw un sy'n dioddef trallod meddwl acíwt a/neu seicosis ganfod bod eu trawma yn cael ei gynyddu gan gyfleusterau anaddas iawn weithiau, gan gynnwys cael eu cadw mewn celloedd carchar wrth chwilio am leoliadau. Mae hyn yn annerbyniol yn yr oes fodern.