Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 23 Chwefror 2021.
Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r safbwyntiau yr oedd Bethan Sayed yn eu mynegi ar ddiwedd ei chwestiwn atodol. Nid wyf i erioed wedi defnyddio'r mantra 'ailgodi'n gryfach' fy hun; rwyf i bob amser yn dweud 'ailgodi'n decach', oherwydd os nad yw'n decach, nid yw'n mynd i fod yn well. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae'r 12 mis diwethaf wedi ei chael ar fenywod yng Nghymru, fel y mae ar bobl ifanc, fel y mae ar bobl o gymunedau BAME. Mae Llywodraeth Cymru yn lobïo Llywodraeth y DU drwy'r amser pan ei bod wedi cymryd camau nad ydym ni'n eu cymeradwyo ac nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'n dymuniad i greu Cymru fwy cyfartal, fel y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ni ei wneud. Pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein penderfyniadau gwario a'r penderfyniadau yr ydym ni wedi eu gwneud yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym ni'n eu hategu gydag asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, gan ein bod ni'n ceisio gweld yr holl benderfyniadau hynny drwy lens yr effaith ar gydraddoldeb y mae'r penderfyniadau hynny yn ei chael ar bobl. Rydym ni'n cyhoeddi'r effeithiau hynny ar gydraddoldeb ochr yn ochr â'r penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud.
Rwy'n falch iawn yn wir ein bod ni'n cael dadl ffrwythlon yma yng Nghymru drwy'r amser ynglŷn â sut y gallwn ni wneud mwy a gwneud yn well i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn ystod y pandemig, ac yn enwedig wrth i ni ddod allan ohono, yn canolbwyntio ar y bobl hynny y mae eu hanghenion fwyaf, lle mae'r effaith niweidiol wedi bod y mwyaf dwys, a lle y gallwn ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn yr ystyr hwnnw, mae fy man cychwyn i a man cychwyn yr Aelod yr un fath. Efallai y byddwn ni'n dod i wahanol gasgliadau ynghylch gweithrediad ymarferol rhai o'r pethau hynny, ond nid wyf am funud yn anghydweld â byrdwn sylfaenol yr hyn y mae hi wedi ei ddweud y prynhawn yma.