Gyrwyr Tacsis

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 23 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:08, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Gallaf, diolch. Felly, gan edrych i'r dyfodol a'n hangen i sicrhau bod gennym ni system cludiant cyhoeddus lân, wedi'i datgarboneiddio, pa gymorth ariannol ellid ei ddarparu i yrwyr tacsis i ganiatáu iddyn nhw uwchraddio eu cerbydau i'r safonau aer glân y byddwn yn eu gwneud yn ofynnol yn y dyfodol, fel y byddan nhw'n gallu parhau i wasanaethu'r cymunedau y mae'n amlwg bod ganddyn nhw gymaint o feddwl ohonyn nhw?