Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 23 Chwefror 2021.
Wel, Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn atodol pwysig yna, ac rwy'n credu bod rhywfaint o newyddion da yn dod i'r teuluoedd hynny sy'n bryderus, a hynny'n gwbl ddealladwy. Rwyf i wedi gweld y cyngor y bydd y Gweinidog yn ei ystyried heddiw ar y mater hwn o ran blaenoriaethu grŵp 6. Bydd Helen Mary Jones yn gwybod mai cyflyrau iechyd sylfaenol yw categori eang rhif 6, ac o fewn hynny mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn nodi pobl ag anableddau dysgu difrifol a dwys. Ond mae'r cyngor yr wyf i wedi ei weld yn mynd at y Gweinidog yn argymell dull cynhwysol, lle mae'r dull yn canolbwyntio llai ar borthgadw nag ar sicrhau nad oes neb sydd â hawl i gael brechiad yn cael ei fethu.
Felly, y cynnig yw defnyddio cofrestrau meddygon teulu o bobl ag anabledd dysgu fel y sail i nodi unigolion cymwys, ac y dylai hynny gael ei ategu gan farn broffesiynol a gwybodaeth leol ehangach, a ddelir, er enghraifft, gan sefydliadau trydydd sector neu gan awdurdodau lleol. Ac mae'r cyngor yn mynd y tu hwnt i nodi syml i greu'r amodau cywir i bobl ag anabledd dysgu allu dod ymlaen yn gyfforddus, i deimlo'n hapus i dderbyn brechiad ac felly i sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio arno. Felly, bydd y Gweinidog yn ystyried y cyngor hwnnw heddiw, ond rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn fwy tawel ei meddwl nad yw'r dull y mae'n ei fabwysiadu yn un lle'r ydym ni'n cymryd 'difrifol a dwys' fel diffiniad sydd â'r bwriad o sicrhau y gall cyn lleied â phosibl o bobl ddod drwodd yn y grŵp hwnnw, ond i fabwysiadu dull mwy cynhwysol, gan wneud yn siŵr nad oes neb sydd â hawl yn cael eu methu. Dyna'r dull y byddwn ni eisiau ei fabwysiadu yng Nghymru.
A, Llywydd, efallai y dylwn i ddweud bod y ffaith bod gennym ni gofrestrau meddygon teulu o bobl ag anabledd dysgu, wrth gwrs, yn ganlyniad i benderfyniad cynnar iawn a wnaed yn nhymor cyntaf un datganoli, pan gyflwynodd David Melding gynnig o archwiliad iechyd blynyddol i bobl ag anableddau dysgu, a gefnogwyd ym mhob rhan o'r Siambr ar y pryd , ac, o ganlyniad, mae gennym ni'r cofrestrau hyn ac rydym ni bellach yn gallu eu defnyddio, gwneud gwaith da gyda nhw, i wneud yn siŵr bod pobl ag anableddau dysgu yn gallu cael eu brechu yn unol â'r flaenoriaeth grŵp 6 honno.