3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 23 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:00, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch yn fawr i chi am eich datganiad heddiw. Newydd da yw hwn yn amlwg. Nid wyf i'n defnyddio'r gair 'gwyrthiol' yn aml iawn, ond rwy'n credu bod cyflwyniad y brechlyn drwy'r holl DU, ym mhob un o'r pedair gwlad sydd ynddi, ac yng Nghymru, wedi bod yn gwbl wyrthiol. Rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud y credwch y gallwch fynd ar yr un cyflymder â'r rhaglen frechu yn Lloegr, ac rwy'n awyddus iawn i ddweud diolch o galon, fel y gwnaethoch chi, wrth bawb sydd â rhan yn y rhaglen hon. Rwyf i o'r farn ei bod yn tystiolaethu i allu'r ddynolryw i wrthsefyll feirws sy'n awyddus  iawn i achosi cymaint o niwed ag sy'n bosibl, ac rwy'n llongyfarch pawb sy'n gysylltiedig â hyn.

Dim ond ychydig o gwestiynau sydd gennyf i, a hynny mewn tri maes. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ail ddos. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw gysondeb o ran rhoi dyddiadau ar gyfer ail bigiadau. Fe gaiff rhai gynnig apwyntiad yn syth ar ôl cael y pigiad cyntaf, fe ddywedir wrth eraill y bydd rhywun yn cysylltu â nhw, ac mae'n ymddangos bod gwahaniaethau nid yn unig rhwng byrddau iechyd, ond o fewn byrddau iechyd unigol. Tybed a wnewch chi daflu rhywfaint o oleuni ar hynny. A beth sy'n digwydd pe bai rhywun yn methu ei ail ddos oherwydd iddyn nhw gael eu rhwystro ar ddiwrnod yr apwyntiad, ac mae wedi mynd yn hwyrach na'r cyfnod byr hwnnw o amser a bennwyd ar ein cyfer ni? A yw hynny'n broblem? A fyddai'n rhaid iddyn nhw ddechrau o'r dechrau? Cwestiynau yw'r rhain y mae nifer o bobl wedi eu codi gyda mi, a phe byddai gennych chi unrhyw eglurder y gallech chi ei gynnig yn hyn o beth, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn.

Mae ail faes fy ymholiadau yn ymwneud â thegwch. Mae gennym system eglur iawn o flaenoriaethau, ac rydym ni'n gweld dosau weithiau nad ydynt wedi eu defnyddio ar derfyn dydd, ac felly mae'r sefydliadau sy'n gweinyddu'r rhain yn ceisio dod o hyd i bobl i ddod i mewn i gael y dosau hynny. Wel, da iawn hynny wir. Eto i gyd, mae swyddogion yn heddlu Dyfed-Powys wedi dweud wrthyf i eu bod wedi cael e-bost mewnol gan eu heddlu nhw'n dweud nad oes hawl ganddynt i gael y brechlyn os nad ydyn nhw yn y grŵp priodol yn ôl y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, hyd yn oed pe bydden nhw'n cael eu galw i sesiwn lle mae'r dosau dros ben yn cael eu rhannu. Tybed a wnewch chi ymchwilio i hyn, oherwydd rwyf wedi clywed sawl adroddiad gan luoedd eraill yr heddlu yn mynegi safbwyntiau sy'n wahanol. Felly tybed a gawn ni rywfaint o eglurder, oherwydd fe wn i fod swyddogion yr heddlu'n teimlo eu bod nhw ar y rheng flaen, ac nid ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn iawn. Nid gofyn am flaenoriaeth y maen nhw—gofyn am degwch, ac os wyf i'n cael cerdded i mewn i ganolfan a chael cynnig dos sydd dros ben, pam na chaiff swyddog yn yr heddlu wneud hynny?

Yn olaf, mae'n rhaid imi ddychwelyd at fater gofalwyr, oherwydd mae'r sefyllfa'n un ddryslyd. Ddoe, roeddech chi'n dweud y gellid rhoi gofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau dysgu yng ngrŵp blaenoriaeth 6 ar gyfer brechlynnau, ond ar 2 Chwefror fe gawsoch chi eich dyfynnu gan BBC Wales yn dweud y byddai gofalwyr di-dâl yng ngrŵp blaenoriaeth 6, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Nawr, mae'r ansicrwydd hwn yn peri pryder i bobl sy'n agored i niwed neu sy'n gofalu am bobl sy'n agored i niwed. Rwy'n sylwi bod y GIG yn Lloegr a'r Alban yn amlinellu canllawiau eisoes ar frechu gofalwyr di-dâl yng ngrŵp 6. Fe ysgrifennodd y GIG yn Lloegr at yr ymddiriedolaethau lleol ynglŷn â sut i'w hadnabod nhw ar 20 Chwefror, ac mae'r GIG yn yr Alban wedi diwygio eu canllawiau nhw yn ystod y 24 awr ddiwethaf. Rydych chi'n ymwybodol bod y llyfr gwyrdd ar imiwneiddio rhag clefydau heintus yn nodi y dylai brechu gofalwyr di-dâl yng ngrŵp blaenoriaeth 6 gynnwys

Y rhai sy'n gymwys i gael lwfans gofalwr, neu'r rhai sy'n unig ofalwr neu'n brif ofalwr i unigolyn oedrannus neu anabl sydd mewn mwy o berygl o farwolaeth oherwydd COVID-19.

Mae hwn yn egluro hefyd fod y rhai sy'n glinigol agored i niwed oherwydd COVID yn cynnwys plant â niwro-anableddau difrifol, y rhai a gaiff eu dynodi yn Glinigol Eithriadol o Agored i Niwed (CEV), oedolion sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, a'r rhai sydd ag angen gofal oherwydd oedran mawr.

Felly, mae gofalwyr yn dweud wrthyf i fod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn dweud yn glir iawn eisoes, os ydych chi'n cael lwfans gofalwr, mae yna ganiatâd ichi fod yng nghategori 6. Mae gofalwyr yn dweud, pan fyddan nhw'n mynd i ofyn i'r bwrdd iechyd, neu eu meddyg teulu lleol a allan nhw gael y brechiad, yr ateb yw, 'Na chewch, mae'n rhaid i ni aros am arweiniad, mae'n rhaid i chi aros am benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru'. Fe wn i fod y Prif Weinidog wedi sôn y byddai rhywbeth yn dod i'r amlwg yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, ond mae gofalwyr, a dweud y gwir, yn teimlo eu bod wedi cael addewid, ac yna mae'r amodau wedi newid eto. A wnewch chi heddiw roi eglurder i ofalwyr—gofalwyr di-dâl sy'n cyflawni swyddogaeth mor hanfodol yn ein cymdeithas ni—a chynnig neges wirioneddol, gyson a chlir iddyn nhw o ran pryd y byddan nhw'n gallu cael eu brechu? Fe fyddwn i'n falch iawn pe byddech chi'n taflu rhywfaint o oleuni ar y pwnc hwn. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.