Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 23 Chwefror 2021.
Diolch. Rwyf am ddechrau gyda'r cwestiwn olaf oherwydd bydd gofalwyr di-dâl yn cael eu rhoi yng ngrŵp 6. Rwyf wedi ateb llawer o gwestiynau ynglŷn â hynny, ac rwy'n hapus iawn i ailddatgan y sefyllfa i geisio ymgodymu â rhywfaint o'r pryder a fydd gan rai, yn ddealladwy iawn. Felly, fe fu'n rhaid inni weithio trwy—ac rydym wedi gwneud hyn yn fwriadol gyda gofalwyr a sefydliadau cenedlaethol—ddull o ddiffinio gofalwyr di-dâl yn y fath fodd fel y gallwn sicrhau gwahoddiad i'r bobl hynny. Ac un o'r enghreifftiau a roddais i yw fy mod i'n mynd â nwyddau o'r siop at fy mam yn rheolaidd, felly rwy'n mynd â'r nwyddau i'w thŷ hi, ond ni fyddwn i'n ystyried bod y weithred honno'n golygu fy mod yn cael fy nghyfrif yn grŵp blaenoriaeth 6. Fe fyddaf i yng ngrŵp blaenoriaeth 6, ond y rheswm am hynny yw bod gennyf gyflwr cronig sylfaenol ar yr arennau. Felly, dyna'r rheswm pam y byddaf i'n cael fy ngwahodd yng ngrŵp blaenoriaeth 6. Felly, rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau gofalwyr i geisio cytuno ar ddull sy'n gwneud synnwyr.
Nawr, yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr yw ceisio nodi pobl yn ôl rhestrau'r meddygfeydd. Roedd hwnnw'n ddull a ystyriwyd gennym ni ond, yn y pen draw, rwyf wedi penderfynu peidio â gwneud hynny oherwydd fe fyddai'n golygu, yn ei hanfod, wrth edrych ar restrau meddygon teulu—gofynion ychwanegol ar feddygon teulu wedyn, ac fe allwch chi ragweld y galwadau ychwanegol niferus y byddai'r meddygon teulu yn eu cael. Nid wyf i o'r farn y byddai honno wedi bod yn ffordd synhwyrol ac effeithlon o gynnwys gofalwyr yn y grŵp. Felly, rwy'n disgwyl gallu cadarnhau rhywfaint o arweiniad yn fuan i ofalwyr di-dâl a'r byrddau iechyd ar gyfer cyflawni hynny, a mater o ychydig ddyddiau yw hynny, yn llythrennol, ac rwy'n disgwyl y caiff canllawiau eu cyhoeddi, ac fe ddylai hynny roi'r eglurder wedyn yn gyhoeddus i bawb sy'n gofyn amdano. Ond rwy'n ei gwneud hi'n eglur iawn : mae gofalwyr di-dâl yng ngrŵp 6, ac mae'n ymwneud â sut yr ydym am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwahodd i'w hapwyntiadau yn hytrach nag os ydyn nhw'n cael eu gwahodd, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â thegwch o ran brechiadau sydd ar ôl ar derfyn dydd, wel, gwn eich bod wedi dweud, pe byddech chi'n cael cynnig brechlyn ar derfyn dydd, pam ddim un o swyddogion yr heddlu? Y rheswm am hynny yw eich bod chi, rwy'n amau, ryw ychydig bach dros eich hanner cant, felly rydych chi o fewn grwpiau blaenoriaeth o un i naw, Angela, ac ni fydd llawer iawn o swyddogion yr heddlu yn yr un sefyllfa. Yr hyn a wnaethom ni, er hynny, yw bod yn eglur iawn yn y canllawiau a ddosbarthwyd yn fewnol. Ac rwy'n credu bod Gill Richardson, yr uwch swyddog sy'n gyfrifol am y rhaglen frechu wedi dweud hynny'n gyhoeddus hefyd, ac wedi anfon nodyn yn fwy cyffredinol i ddweud ein bod ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae grwpiau 5 i 9 yn gyfran helaeth o'n poblogaeth ni. Fe fyddem ni'n disgwyl i fyrddau iechyd allu rheoli'r garfan honno ac, yn sicr, ar hyn o bryd wrth fynd drwy grwpiau 5 i 9, i fod â grwpiau dros ben o bobl ar ddiwedd y dydd y gellir galw arnyn nhw, oherwydd, mewn gwirionedd, i bobl dros 50 oed, fe fydd llawer o'r rhain yn hyblyg ac yn gallu mynd i mewn ar fyr rybudd.
Os nad yw'n bosibl gwneud felly, yna rydym ni o'r farn ei bod hi'n briodol cynnig y brechlyn i bobl eraill ar derfyn y dydd i sicrhau nad oes dosau yn mynd yn wastraff. Nid wyf yn credu y gwelwn ni niferoedd uchel, ond ar gyfer ymdrin â chwe brechlyn o bosibl, i ddiffoddwr tân neu i swyddog heddlu neu i rywun arall, yna yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru am ddweud, 'Nid yw'r brechlyn hwn ar eich cyfer chi—mae'n rhaid ei daflu i ffwrdd'. Mae'n amlwg nad yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr, ac nid ydym yn gwneud y safiad hwnnw. Ac, fel y dywedais, rydym wedi anfon nodyn allan i egluro hynny o fewn y system hefyd. Felly, nid wyf i o'r farn fod her y neges yr ydych chi'n cyfeirio ati yn adlewyrchiad cywir o'n safbwynt ni, ac ni ddylai hynny fod yn arfer ar lawr gwlad. Gobeithio bod hynny'n helpu i ddatrys y mater hwnnw, nid yn unig yn ardal Dyfed Powys ond yn fwy cyffredinol; rwyf wedi clywed chwedlau a phryderon o'r fath yn cael eu mynegi mewn mannau eraill hefyd.
Ynglŷn â'r ail ddos, rwy'n hapus i gadarnhau ein bod ni'n disgwyl y gellir parhau i weinyddu dosau'n hwyr. Felly, rydym ni i gyd yn deall y ceir gwahanol resymau mewn bywyd am golli apwyntiad am ail ddos; fe all rhywun fod yn sâl, efallai y bydd rheswm da arall pan na allan nhw fod yn bresennol ar yr amser penodedig. Fe ellir aildrefnu'r ail ddos hwnnw, a'm dealltwriaeth i yw nad oes unrhyw werth i'r unigolyn orfod dechrau eto gyda dos 1 ac ymlaen wedyn i ddos 2. Mewn gwirionedd, mae data cadarn ar gael bod cyfnod hwy rhwng dosau yn beth da mewn gwirionedd o ran lefel yr amddiffyniad a'i hirhoedledd. Felly, os bydd rhywun yn cael ei ail ddos yn ystod wythnos 13 yn hytrach nag wythnos 11 neu 12, ni ddylai hynny ynddo'i hun achosi problem o ran ei ddiogelu yn yr hirdymor. Yn yr un modd, pe byddech chi'n colli eich ail apwyntiad a bod angen ichi ad-drefnu, nid yw hynny'n golygu y bydd rhywun yn dweud wrthych chi am fynd yn ôl i ddechrau'r gêm—nid hwnnw yw ein dull ni o weithredu.
Ac yna, o ran cysondeb, fe gafodd nifer o apwyntiadau eu had-drefnu er mwyn cyflymu'r gwaith o gyflwyno'r dosau, yn arbennig felly i'r bobl hynny sy'n cael y pigiad Pfizer. Rwy'n disgwyl y bydd yna ddull cyson o weithredu ac y caiff pawb wybod yn uniongyrchol pa bryd y bydd eu hapwyntiad nhw. Mae rhai pobl wedi cael rhyw syniad o'u hail ddyddiad wrth gael eu brechlyn cyntaf. Yn gynyddol, serch hynny, rydym ni'n disgwyl rhoi gwybod i bobl, ar ôl iddyn nhw gael eu dos cyntaf, pryd y gweinyddir eu hail ddos. Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yw sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl. Rwy'n cytuno â chi: mae hon wedi bod yn ymdrech aruthrol yng Nghymru. Mae'n hyfryd bod ar y blaen i wledydd eraill y DU, ond fe all pob un o bedair gwlad y DU ymfalchïo'n fawr yn y ffordd y mae ein gwasanaethau iechyd gwladol cyfunol ni wedi cyflwyno'r rhaglen hon.