3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth iechyd meddwl? OQ56299
Diolch. Ein blaenoriaeth gyntaf yw gweithio gyda phartneriaid i ymateb i anghenion iechyd meddwl sy'n newid oherwydd y pandemig. Mae ein cynllun cyflawni diwygiedig 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2019-22 yn nodi ystod o gamau gweithredu penodol, wedi'u hategu gan y £42 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl yn ein cyllideb ddrafft i gefnogi hyn.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, gwyddom y gall digwyddiadau trawmatig difrifol gael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl hirdymor, ac rwyf wedi nodi fy mhryderon o'r blaen nad ydym yn cyrraedd pobl nad ydynt o bosibl yn gofyn am gymorth drwy'r llwybrau rhagnodedig arferol, a dylwn ddweud nad oes unrhyw fai arnynt hwy am hynny. Felly, gyda hynny mewn golwg, sut yr awn ati'n rhagweithiol i gefnogi pobl yn fy etholaeth sydd wedi dioddef trawma llifogydd yn ddiweddar, ac na fyddant o bosibl yn adnabod nac yn sylwi hyd yn oed ar yr arwyddion fod angen cymorth arnynt?
Diolch yn fawr iawn, Jack, a hoffwn ddweud yn glir fy mod yn ymwybodol iawn fod y mathau hynny o drawma sy'n effeithio ar fywydau pobl yn rhywbeth sydd wedi dod i'm rhan yn glir iawn yn ystod fy amser yn y swydd hon. Ac mae'n rhywbeth na fydd yn ymddangos ac yna'n diflannu; mae'n rhywbeth a all bara am amser hir. Felly, mae dull o ymdrin ag iechyd meddwl wedi'i lywio gan drawma yn gwbl ganolog i'r hyn y mae angen inni fod yn ei wneud. Gwn fod Mick Antoniw wedi ysgrifennu adroddiad ar y llifogydd yn ardal Pontypridd, ac roeddwn yn falch iawn o allu dod i gysylltiad ynglŷn â'r mater hwnnw gyda'r awdurdod iechyd i sicrhau eu bod yn darparu cymorth yno. Gwneuthum yr un peth i Dai Rees pan gafwyd llifogydd yn ei ardal ef. Ac wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i wneud yr un peth i chi.
Ond rwy'n credu ei bod yn werth nodi, mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod wedi anfon cylchlythyr at bob cymuned, ac maent wedi rhoi rhif canolfan alwadau yn y cylchlythyr hwnnw—ein llinell gymorth—a rhif iddynt gysylltu â Mind, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n iau efallai, y dylent fod yn cysylltu â Meic, sef ein canolfan gymorth i bobl iau. Felly rydym wedi annog byrddau iechyd hefyd i sicrhau eu bod yn gweithio gydag asiantaethau lleol i sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael. Ond os oes unrhyw faterion penodol rydych am i mi fynd ar eu trywydd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny, Jack, fel rwyf wedi'i wneud dros eraill.
Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, a ydych yn credu ei bod yn bosibl i ni wneud mwy—i Lywodraeth Cymru wneud mwy—i gyrraedd pobl sy'n dioddef, neu sydd o bosibl yn dioddef, o broblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig? Wrth imi eistedd yma yn awr, drwy ryfeddod Zoom, gallaf weld pobl yn cerdded heibio'r ffenest yn fy mhentref. Ond siaradais ag etholwr yn gynharach sy'n byw yn un o ardaloedd mwy gwledig fy etholaeth, ac nid yw wedi gweld unrhyw un yn cerdded heibio ers misoedd, oherwydd cyfyngiadau'r pandemig. Felly, mae'n ymddangos i mi fod yna bobl nad ydynt efallai'n cael eu cyrraedd i'r graddau y gallent fod. Gwn fod eich strategaeth ar iechyd meddwl wedi bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyrraedd y bobl hyn, felly a allech chi roi pwyslais arbennig ar iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig?
Diolch yn fawr iawn, Nick. A byddaf yn gwneud araith ar yr union fater hwn yng ngŵyl Dewi Sant a fydd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnosau nesaf. Felly, rwy'n hapus iawn i roi sylw i'r mater hwn, oherwydd rwy'n credu bod yna broblemau ychydig yn wahanol gyda iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig i ddynion canol oed. Felly, yn aml iawn, yr hyn a welwn yw nad ydynt yn arbennig o awyddus i fynd at feddygon teulu, er enghraifft, oherwydd bod pawb yn adnabod ei gilydd yn yr ardaloedd hyn. Felly, er mai'r broblem mewn dinasoedd yn aml iawn yw'r diffyg cysylltiad, mae yna gysylltiad, yn aml iawn, mewn ardaloedd gwledig lle mae pawb yn gwybod busnes ei gilydd ac weithiau nid ydynt eisiau i bobl ddod i wybod am y pethau hynny.
Y peth arall rwyf wedi bod yn ei wneud yw cysylltu'n helaeth iawn â llawer o'r cymunedau ffermio. Rwy'n ymwybodol iawn fod problem arbennig yn y gymuned ffermio, lle mae llawer o bobl wrth gwrs wedi arfer gweithio ar eu pen eu hunain—ac wrth gwrs rydym i gyd yn mynd drwy lawer o'r profiadau y mae ffermwyr wedi gorfod eu dioddef ers blynyddoedd lawer. Ond mae problem benodol yno y credaf fod angen i ni ganolbwyntio arni hefyd. Ond rwy'n cytuno'n llwyr fod angen i ni sicrhau bod y mesurau hynny ar waith. Wrth gwrs, maent yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau y gall pawb arall eu defnyddio, o ran canolfannau galwadau, cymorth ar-lein, ond rwy'n ymwybodol iawn fod yna gymuned hŷn a allai fod eisiau'r cymorth wyneb yn wyneb hwnnw. Ac wrth gwrs, byddwn yn ceisio sicrhau, pan fydd y cyfyngiadau symud llym iawn hyn yn dod i ben, y bydd cyfleoedd ar gael, drwy ein cynnydd yn y cyllid i'r trydydd sector, ac y bydd cyfleusterau iddynt eu defnyddio yno.
Cwestiwn 2, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ac i'w ofyn gan Huw Irranca-Davies.