Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 24 Chwefror 2021.
Wel, rŷn ni wedi gwneud yn siŵr bod y mynediad yna ar gael, ei fod yn dal i gael ei weld fel rhywbeth sydd yn essential service ar gyfer yr NHS. Wrth gwrs, mae'r galw ar gyfer gwasanaethau wedi cynyddu yn ystod y cyfnod yma a dyna pam rŷn ni wedi rhoi lot mwy o arian i mewn i'r ardal yma. Rŷn ni wedi rhoi £1.5 miliwn yn ychwanegol i rili anelu'r help at help yn y gymuned, trwy'r trydydd sector. Dwi'n meddwl fod hwnna, i fi, yn bwyslais newydd y mae'n rhaid inni ei roi ar sicrhau ein bod ni'n cymryd y pwysau, os ŷn ni'n gallu, oddi wrth yr NHS a rhoi'r gofal lle bydd hi'n fwy cynaliadwy yn y tymor hir, y tu fewn i'r gymuned.