Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 24 Chwefror 2021.
Dwi'n falch, wrth gwrs, o glywed y Gweinidog yn dweud bod gwasanaethau a mynediad atyn nhw yn gwbl, gwbl hanfodol. Rydyn ni i gyd yn gytûn ar hynny, ond mae'n glir bod llawer o bobl yn cael trafferth cael mynediad at y gefnogaeth y maen nhw ei hangen. Os edrychwch ar ddata gan Stats Wales, rydyn ni'n gweld bod y nifer a gafodd eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl lleol wedi gostwng dros chwarter yn y naw mis at fis Rhagfyr o'i gymharu efo'r flwyddyn gynt. Mi wnaeth niferoedd asesiadau ostwng o ryw chwarter hefyd ac mi wnaeth niferoedd yr ymyriadau therapiwtig ostwng ryw 10 y cant yn yr un cyfnod. Felly, er ein bod ni'n clywed bod y rhain yn wasanaethau hanfodol, mae yna ormod o bobl sy'n methu â chael mynediad atyn nhw. Felly, pa gamau ychwanegol gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wneud yn siŵr bod y bobl sydd angen y gefnogaeth yna yn gallu ei chael hi?