Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch. Mae'r data sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn dangos ein bod ni dim ond jest wedi methu ein targed ni o 80 y cant o asesiadau yn cael eu gwneud—78 y cant wnaethom ni gyrraedd. Felly, dwi yn meddwl ei fod yn dda ein bod ni wedi gallu cyrraedd y lefel yna er bod y gofyn wedi cynyddu yn aruthrol. Yr un peth sydd yn fy mhoeni i yw bod y data yn cyfeirio at y rheini sydd o dan 18 islaw'r targed ac mae hynny'n rhywbeth rŷn ni'n poeni amdano, ond wrth gwrs rŷn ni wedi rhoi lot o fesurau mewn lle nawr i roi lot mwy o gefnogaeth y tu fewn i'n hysgolion ni. Ac, wrth gwrs, mi fyddwn ni, yn yr haf, yn rolio allan system newydd lle bydd yna ymyrraeth yn gynnar er mwyn cynnal a helpu pobl ifanc. Felly, dwi yn gobeithio y byddwn ni'n canolbwyntio ar y rheini, yn arbennig pobl ifanc, oherwydd mae 80 y cant o broblemau, rŷn ni'n gwybod, o ran iechyd meddwl, yn dechrau pan fo pobl o dan 18.