Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr, Vikki. Ers lansio 'Cymraeg 2050', mae'r naratif sy'n gysylltiedig â'r iaith wedi newid yn sylweddol. Mae angen inni adeiladu ar y momentwm newydd yma er mwyn sicrhau mwy o fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae angen inni agor mwy o leoliadau blynyddoedd cynnar ar ben y 40 sydd wedi'u cynllunio i agor. Mae angen inni barhau hefyd i gynnig cyfleoedd cyffrous i bobl i glywed ac i ddefnyddio'r iaith.