Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch, Weinidog. Mae ffigurau diweddar wedi dangos mai Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer fwyaf o ddisgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o'r holl ardaloedd cyngor yn ardal Consortiwm Canolbarth y De, gydag ychydig o dan 19 y cant o ddysgwyr. Gwneir llawer iawn o waith i wella'r cynnig cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon ymhellach eto drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru, gydag Ysgol Gyfun Rhydywaun yn cael £12.1 miliwn ar gyfer ehangu, a fydd yn ei galluogi i ddarparu ar gyfer 187 o ddisgyblion ychwanegol, a £4.5 miliwn i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr i'w galluogi i gynnig 48 o leoedd ychwanegol. Weinidog, sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru a'n partneriaid mewn llywodraeth leol i wella'r ddarpariaeth a'r nifer sy'n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg?