Llifogydd

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:17, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ar 27 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid pellach o £6.5 miliwn i gynorthwyo awdurdodau lleol i ymateb i ddigwyddiadau tywydd garw. Mae hyn yn cynnwys cymorth i aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi neu sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi, gyda thaliadau o hyd at £1,000 wedi'u gweinyddu gan awdurdodau lleol.