4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn dilyn y llifogydd diweddar sydd wedi effeithio cymunedau ar draws Cymru? TQ541
Diolch. Ar 27 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid pellach o £6.5 miliwn i gynorthwyo awdurdodau lleol i ymateb i ddigwyddiadau tywydd garw. Mae hyn yn cynnwys cymorth i aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi neu sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi, gyda thaliadau o hyd at £1,000 wedi'u gweinyddu gan awdurdodau lleol.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb. Ydy'r Gweinidog hefyd yn gallu dweud a ydy'r busnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd mwyaf diweddar yma yn gallu cael mynediad at y gronfa o'r cynllun grant cymorth llifogydd i fusnesau a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni? O edrych ar y cymunedau hynny sydd wedi cael eu heffeithio yn ddiweddar gan y llifogydd, yn fy etholaeth i ac etholaethau cyfagos, a fyddan nhw nawr yn cael mwy o fuddsoddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn adeiladu amddiffynfeydd a chynlluniau atal llifogydd?
Yn benodol, o ran blaenori'r cymunedau hynny, rwy'n deall bod yna drothwy, onid oes, Gweinidog, ar gyfer yr hyn a elwir yn adroddiadau adran 19, lle mae llifogydd wedi bod? Ac mae'r trothwy tua 20 adeilad wedi cael eu heffeithio. Mewn sawl cymuned wledig, nifer fechan sydd yna, ond maen nhw'n cael eu heffeithio'n gyson. Felly, rwy'n ymwybodol yn fy etholaeth i ym Mhontargothi, er enghraifft, o wyth adeilad wedi cael llifogydd nawr tair gwaith mewn tri mis. Felly, oes modd edrych ar effaith cronnus llifogydd mewn cymunedau eithaf gwledig lle mae yna lai o adeiladau, ond wrth gwrs, allwch chi ddychmygu fel mae'r trigolion yn yr adeiladau hynny yn teimlo ar ôl wynebu y fath ddifrod mewn amser cymharol fyr.
Diolch, Adam Price, ac os cawn ganolbwyntio ar Bontargothi, yn gyntaf oll, fel y gwyddoch, cyfarfuom ag amrywiaeth o bartneriaid yng nghyswllt y llifogydd anffodus a ddigwyddodd yn eich etholaeth. A dylwn ddweud nad oes trothwy wedi'i osod mewn statud mewn perthynas ag adroddiad adran 19. Pe bai 20 o dai wedi dioddef llifogydd byddem yn disgwyl y byddai'r awdurdod lleol hwnnw, neu'r awdurdod rheoli perygl llifogydd hwnnw, wedyn yn cyflwyno adroddiad adran 19, ond gallent ddewis cael trothwy is ac asesu hynny mewn perthynas â phob digwyddiad. Felly, byddwn yn sicr yn trafod hynny gyda'r awdurdod lleol mewn perthynas â'ch etholaeth eich hun.
Rydym wedi gweld llifogydd digynsail dros y flwyddyn ddiwethaf, fel y gwyddoch, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn nid yn unig wrth CNC ond wrth bob awdurdod rheoli risg bod cyllid ar gael, a dylent gyflwyno cynlluniau i ni eu hystyried. Mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli ac ymateb yn rhagweithiol i berygl llifogydd ledled Cymru ac mae'n parhau i wneud hynny. Erbyn diwedd tymor y Llywodraeth, sydd yn amlwg ond ychydig wythnosau i ffwrdd yn awr, rydym wedi buddsoddi £390 miliwn yn ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd. Felly, mae'r cyllid ar gael—mae cyllid ar gael o hyd—a phryd bynnag y ceir digwyddiad, mae angen i'r awdurdod lleol neu CNC edrych ar y digwyddiad hwnnw, fel y dywedais, ac mae'r cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw ynglŷn ag amddiffynfeydd rhag llifogydd. Fel y gŵyr pob Aelod, rwy'n credu, mae'r llifogydd wedi achosi heriau mawr mewn cymunedau gwledig, gan gynnwys y rhai yn fy etholaeth i, a hoffwn dalu teyrnged i'r rheini yn y cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd ac wedi cefnogi'r rhai a gafodd eu heffeithio waethaf gan y llifogydd. A gaf fi eich holi ynglŷn â phentrefi yn Sir Fynwy, lle mae'r llifogydd eisoes wedi gwaethygu problemau capasiti sylfaenol yn y rhwydwaith draenio a charthion, ac rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Dŵr Cymru mewn perthynas â nifer o achosion yn yr etholaeth? Maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn. A ydych chi fel Llywodraeth yn cysylltu ag awdurdodau lleol a Dŵr Cymru hefyd i sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei fonitro'n iawn, a'i fod yn cael ei uwchraddio yn ôl yr angen fel ei fod yn addas i'r diben, fel na fydd y problemau lawn mor wael pan fydd llifogydd yn taro yn y dyfodol?
Yn sicr. Mae Dŵr Cymru yn bartner gwerthfawr mewn perthynas â'r gwaith hwn, a phryd bynnag y cawn—. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Adam Price fy mod wedi cyfarfod ag ef ac amrywiaeth o bartneriaid, ac roedd Dŵr Cymru yn rhan o hynny. Ond mae'n bwysig iawn, ar ôl unrhyw lifogydd, ein bod yn gwybod pa mor dorcalonnus—. Os yw eich cartref yn dioddef llifogydd, mae'n drawmatig iawn ac yn achosi straen mawr. Felly, pryd bynnag y bydd unrhyw lifogydd, mae'n bwysig iawn ein bod yn darganfod achos y llifogydd hynny, ac weithiau gall fod yn rhywbeth y gellir ei gywiro ar unwaith yn amlwg, weithiau mae'n galw am ateb mwy hirdymor, ac mae'n bwysig iawn fod ein partneriaid yn gweithio gyda ni, gydag awdurdodau lleol, yr holl bartneriaid gyda'i gilydd, i edrych ar yr atebion posibl hynny. A gallai ateb fod yn llawer mwy hirdymor, a gallai fod yn amddiffynfeydd rhag llifogydd newydd, felly rhywle rhwng rhywbeth syml ac fel y dywedaf, gwaith adeiladu newydd. Felly, mae'n bwysig iawn fod pawb yn gweithio gyda'i gilydd, a gwn fod hynny wedi digwydd yn Nhrefynwy.
Diolch i chi, Weinidog.