Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 24 Chwefror 2021.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb. Ydy'r Gweinidog hefyd yn gallu dweud a ydy'r busnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd mwyaf diweddar yma yn gallu cael mynediad at y gronfa o'r cynllun grant cymorth llifogydd i fusnesau a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni? O edrych ar y cymunedau hynny sydd wedi cael eu heffeithio yn ddiweddar gan y llifogydd, yn fy etholaeth i ac etholaethau cyfagos, a fyddan nhw nawr yn cael mwy o fuddsoddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn adeiladu amddiffynfeydd a chynlluniau atal llifogydd?
Yn benodol, o ran blaenori'r cymunedau hynny, rwy'n deall bod yna drothwy, onid oes, Gweinidog, ar gyfer yr hyn a elwir yn adroddiadau adran 19, lle mae llifogydd wedi bod? Ac mae'r trothwy tua 20 adeilad wedi cael eu heffeithio. Mewn sawl cymuned wledig, nifer fechan sydd yna, ond maen nhw'n cael eu heffeithio'n gyson. Felly, rwy'n ymwybodol yn fy etholaeth i ym Mhontargothi, er enghraifft, o wyth adeilad wedi cael llifogydd nawr tair gwaith mewn tri mis. Felly, oes modd edrych ar effaith cronnus llifogydd mewn cymunedau eithaf gwledig lle mae yna lai o adeiladau, ond wrth gwrs, allwch chi ddychmygu fel mae'r trigolion yn yr adeiladau hynny yn teimlo ar ôl wynebu y fath ddifrod mewn amser cymharol fyr.