Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 24 Chwefror 2021.
Weinidog, rwyf am fod yn glir ar y mater hwn, rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru, ond ni chredaf mai dyma ydyw. Gan gydnabod yr angen i ddiogelu ein hamgylchedd, ar ddechrau hyn oll, cefnogais y galwadau am gyfres gymysg o ddulliau i ffermwyr allu eu defnyddio i leihau lefelau nitradau ar ffermydd. Roeddwn yn cydnabod nad un ateb addas i bawb fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen yn amgylcheddol na'r fwyaf sefydlog yn ariannol, ac rwy'n ei chael yn rhyfeddol eich bod wedi penderfynu cyflwyno parth perygl nitradau ar gyfer Cymru gyfan, er gwaethaf y dystiolaeth gymhellol a ddaeth ger eich bron. Hoffwn dynnu sylw'r siaradwr blaenorol at y ffaith bod gennym barthau perygl nitradau eisoes mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae fy ardal i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn un, ac nid oes angen i chi ei gael dros y wlad gyfan.
Dangosodd ymatebion gan ffermwyr a rheolwyr tir na fyddent yn gallu fforddio'r parth perygl nitradau Cymru gyfan arfaethedig, ac nid yw'r mwyafrif helaeth o ffermwyr yn defnyddio fawr iawn o wrtaith nitradau mewn gwirionedd. Nid oes gan 73 y cant o ffermydd sy'n cynhyrchu slyri ddigon o le storio ar eu ffermydd sy'n gallu bodloni'r gofynion arfaethedig i gael lle storio am ddau fis a hanner. Nid yn unig y bydd cost y gofyniad hwn yn golygu y bydd rhai ffermydd yn methu, bydd hyd yn oed y rhai a fydd yn penderfynu y gallant ei gyflawni yn wynebu problemau gyda chyllid, gyda chynllunio—ceisiwch gael caniatâd cynllunio—a'r gwaith ffisegol o'i wneud yn y cyfnod pontio byr. A chofiwch, Weinidog, mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar ffermwyr sydd eisoes dan bwysau ac sy'n ymdopi â cholli arian oherwydd COVID-19 ac ansicrwydd ynghylch y cynlluniau ôl-Brexit.
Wedyn ceir y cyfnodau gwaharddedig ar gyfer gwasgaru. Fel y bydd unrhyw ffermwr yn dweud wrthych, ni allwch ffermio yn ôl y calendr, rydych yn ffermio yn ôl yr amodau tywydd. Felly, er enghraifft, dyma ni ar ddiwedd mis Chwefror ac yn ddamcaniaethol gallai ffermwyr fod yn gwasgaru slyri mewn tywydd gwlyb iawn, ond ni fyddant wedi gallu manteisio ar yr holl gyfnodau sych rhwng 15 Hydref a 15 Ionawr. Canlyniad terfynol y gofyniad hwn fydd risg uchel iawn o lygredd cyn ac ar ôl y cyfnod gwaharddedig, rhywbeth sy'n gyffredin iawn yn Iwerddon.
Credaf mai'r prif faes arall rwyf am ei grybwyll yn fyr yw mater dim rhanddirymiadau ar gyfer terfyn N a gynhyrchir ar y fferm. Mae ffermwyr yn dweud wrthyf mai dyma'r broblem fwyaf gyda'r rheoliadau. Mae'r rheoliad yn pennu na all fferm fynd dros 170 kg N N/h. Ym mhob un o wledydd eraill y DU, cynigir rhanddirymiad sy'n codi'r ffigur hwn i 250 kg i ffermydd lle mae 80 y cant o'r fferm yn seiliedig ar borfa. Roedd yn y rheoliadau drafft, ond mae wedi mynd ar goll.
Gallwn sôn am y ffaith fy mod yn credu mai cwota ar gynhyrchu fesul hectar yw hyn ac y bydd yn effeithio ar bris tir a chanlyniadau i fusnesau yn y gadwyn sy'n deillio o ffermydd. Hoffwn i ni siarad am y materion iechyd meddwl, hoffwn siarad am anawsterau cadw cofnodion, ond rwy'n credu fy mod am orffen gyda fy rhwystredigaeth llwyr, oherwydd rwyf wedi eich lobïo chi a Gweinidogion blaenorol ar fynd i'r afael â'r pechaduriaid. Gallech fod wedi defnyddio ffon dafl a chael y bobl sy'n chwerthin, yn mynd i'r banc, yn chwerthin ar ben CNC, yn anwybyddu CNC, yn talu eu dirwyon, yn sathru ar eu cymunedau lleol a dal ati i wneud yr un peth. Yn hytrach, rydych wedi defnyddio gordd i dorri cneuen. Nid wyf yn credu mai dyma'r ffordd ymlaen, Weinidog, a chredaf y dylech wrthdroi eich penderfyniad.