Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Mae'r ffaith bod pobl ifanc wedi bod yn rhan o'r broses yma o weithio ar welliannau ac edrych ar y Bil, dwi'n meddwl, yn rhywbeth sydd wedi bod yn rhan bwysig o'r broses yma o safbwynt pweru'r bobl ifanc hynny a'u harfogi nhw â set newydd o sgiliau gobeithio fydd yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny'n effeithiol yn y dyfodol, felly mae'n dda bod Caroline Jones wedi cydnabod hynny.