11. Dadl Fer: Addasu tai Cymru nawr ar gyfer pobol sydd yn byw gyda Clefyd Motor Niwron: sut allwn ni wneud yn sicr fod pobl sydd yn byw gyda MND yn cael cartrefi diogel a hygyrch, gan gadw eu annibyniaeth, urddas ag ansawdd bywyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:51, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn, unwaith eto, o allu codi mater clefyd niwronau motor—MND—yn y Senedd, ac rwyf wedi cytuno i Mark Isherwood a Dai Lloyd gael munud o fy amser. 

Yn 2014, cynhaliais ddadl fer ar drafferthion pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor a galwais ar Lywodraeth Cymru i gydnabod rhai o'r heriau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu ac edrych ar ffyrdd y gall gefnogi'r gymuned MND yn well. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ac am hynny gwn fy mod i a phobl sy'n byw gydag MND yn ddiolchgar iawn, mae llawer mwy y gellir ac y dylid ei wneud o hyd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud yn benodol â'r angen i gefnogi pobl sy'n byw gydag MND drwy addasu'r broses bresennol a'i gwneud yn haws iddynt hwy a'u teuluoedd addasu eu cartrefi mewn ymateb i fyw gyda'r cyflwr.

Yn ddiau, mae MND yn glefyd creulon. Mae'n un sy'n amddifadu pobl o'u hurddas ac yn anffodus, mae'n llythrennol yn ddedfryd o farwolaeth. Ac felly os llwydda'r ddadl hon i gyfleu un neges, y ffaith bod amser yn hollbwysig i bobl sy'n byw gydag MND yw honno. Credir bod MND yn lladd traean o bobl o fewn blwyddyn a mwy na hanner o fewn dwy flynedd, ac felly mae amser mor bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn gallu byw mewn cartref diogel ac addas. Mae angen i addasiadau tai a'r broses o'u gwneud fod yn gyflymach, yn fwy cydgysylltiedig ac yn y pen draw mae angen cydnabod pwysigrwydd gweithredu cyflym i sicrhau bod pobl sy'n byw gydag MND yn gallu byw mor gyfforddus â phosibl. 

Nawr, yn 2018, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad pwysig iawn ar addasiadau tai yn fwy cyffredinol, a thynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at nifer o faterion arwyddocaol. Yn wir, mae'r adroddiad hwnnw'n datgan bod boddhad defnyddwyr ag addasiadau tai yn celu system adweithiol ac anghyfartal hynod gymhleth nad yw'n cyflawni ar gyfer pawb y gallai fod ei hangen, ac nad yw cyrff cyhoeddus yn manteisio ar gyfleoedd i wella gwerth am arian. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod y system bresennol ar gyfer cyflawni addasiadau yn atgyfnerthu anghydraddoldebau i rai pobl anabl a phobl hŷn, ac mae mynd i'r afael ag angen yn cael ei gymhlethu gan y gwahanol ffynonellau cyllid. Ac mae pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn sicr yn dod o dan ymbarél pobl sy'n byw gyda phroblemau niwrolegol cymhleth sy'n ei chael hi'n anodd addasu eu cartrefi'n ddigon cyflym. 

Nawr, yn dilyn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a gadeirir gennyf fi, ymchwiliad byr i addasiadau tai er mwyn canolbwyntio ar rai o'r themâu a'r ffyrdd sefydledig y gallem helpu i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i wella ei phrosesau. Yr hyn a ganfu'r pwyllgor oedd bod cynifer o ffynonellau cyllid a pholisïau ar gyfer addasiadau fel bod pobl anabl a phobl hŷn yn cael gwasanaeth o safon wahanol ac felly roedd angen i Lywodraeth Cymru osod safonau ar gyfer pob addasiad er mwyn sicrhau bod pobl anabl a phobl hŷn yn cael yr un safon o wasanaeth ni waeth ble maent yn byw, pwy yw perchennog eu heiddo, ac a ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain yn wir. 

Nawr, er clod i Lywodraeth Cymru, mae peth gwaith pwysig iawn wedi'i wneud i adolygu a gweithredu newidiadau i'r broses o gyflawni addasiadau, ac rwy'n llawn sylweddoli, ac mae'r Gymdeithas MND yn llawn sylweddoli, fod hon yn broses a fydd yn cymryd amser. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu safonau gwasanaeth sy'n berthnasol i bob addasiad ni waeth beth fo'r math o ddeiliadaeth, y darparwr neu'r ffynhonnell ariannu, ac mae hynny wedi bod mewn grym ers mis Ebrill 2019. Yn ail, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio adolygu'r polisi ar brofion modd a gweithredu newidiadau, a gwn fod peth gwaith wedi'i wneud gyda'r grŵp llywio ar addasu tai, a edrychai ar sut na ddylid cymhwyso profion modd ar gyfer addasiadau bach a chanolig llai cymhleth neu unigolion sy'n derbyn gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Yna, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddatblygu hyn, gan gynnwys ymgysylltu'n sylweddol ag awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae'r pandemig COVID-19 presennol wedi golygu bod y gwaith wedi'i ohirio, ac nid yw'r ymchwil a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi gallu symud ymlaen yn ôl y bwriad. Yn y cyfamser, mae pobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor a chyflyrau niwrolegol eraill yn parhau i'w chael hi'n anodd cael addasiadau wedi'u gwneud i'w cartrefi'n gyflym, ac o ganlyniad, mae rhai'n byw mewn cartrefi nad ydynt yn ddiogel nac yn addas ar eu cyfer. Ac mae hyn yn cael effaith uniongyrchol iawn ar iechyd a llesiant, a all arwain at unigedd, diffyg gweithgarwch corfforol, ymddieithrio oddi wrth deulu a chymuned, ac amgylcheddau anniogel sy'n cyfrannu at ddamweiniau a chwympiadau.