– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 3 Mawrth 2021.
Symudwn yn awr at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef y ddadl fer, a galwaf ar Nick Ramsay i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn, unwaith eto, o allu codi mater clefyd niwronau motor—MND—yn y Senedd, ac rwyf wedi cytuno i Mark Isherwood a Dai Lloyd gael munud o fy amser.
Yn 2014, cynhaliais ddadl fer ar drafferthion pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor a galwais ar Lywodraeth Cymru i gydnabod rhai o'r heriau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu ac edrych ar ffyrdd y gall gefnogi'r gymuned MND yn well. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ac am hynny gwn fy mod i a phobl sy'n byw gydag MND yn ddiolchgar iawn, mae llawer mwy y gellir ac y dylid ei wneud o hyd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud yn benodol â'r angen i gefnogi pobl sy'n byw gydag MND drwy addasu'r broses bresennol a'i gwneud yn haws iddynt hwy a'u teuluoedd addasu eu cartrefi mewn ymateb i fyw gyda'r cyflwr.
Yn ddiau, mae MND yn glefyd creulon. Mae'n un sy'n amddifadu pobl o'u hurddas ac yn anffodus, mae'n llythrennol yn ddedfryd o farwolaeth. Ac felly os llwydda'r ddadl hon i gyfleu un neges, y ffaith bod amser yn hollbwysig i bobl sy'n byw gydag MND yw honno. Credir bod MND yn lladd traean o bobl o fewn blwyddyn a mwy na hanner o fewn dwy flynedd, ac felly mae amser mor bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn gallu byw mewn cartref diogel ac addas. Mae angen i addasiadau tai a'r broses o'u gwneud fod yn gyflymach, yn fwy cydgysylltiedig ac yn y pen draw mae angen cydnabod pwysigrwydd gweithredu cyflym i sicrhau bod pobl sy'n byw gydag MND yn gallu byw mor gyfforddus â phosibl.
Nawr, yn 2018, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad pwysig iawn ar addasiadau tai yn fwy cyffredinol, a thynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at nifer o faterion arwyddocaol. Yn wir, mae'r adroddiad hwnnw'n datgan bod boddhad defnyddwyr ag addasiadau tai yn celu system adweithiol ac anghyfartal hynod gymhleth nad yw'n cyflawni ar gyfer pawb y gallai fod ei hangen, ac nad yw cyrff cyhoeddus yn manteisio ar gyfleoedd i wella gwerth am arian. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod y system bresennol ar gyfer cyflawni addasiadau yn atgyfnerthu anghydraddoldebau i rai pobl anabl a phobl hŷn, ac mae mynd i'r afael ag angen yn cael ei gymhlethu gan y gwahanol ffynonellau cyllid. Ac mae pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn sicr yn dod o dan ymbarél pobl sy'n byw gyda phroblemau niwrolegol cymhleth sy'n ei chael hi'n anodd addasu eu cartrefi'n ddigon cyflym.
Nawr, yn dilyn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a gadeirir gennyf fi, ymchwiliad byr i addasiadau tai er mwyn canolbwyntio ar rai o'r themâu a'r ffyrdd sefydledig y gallem helpu i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i wella ei phrosesau. Yr hyn a ganfu'r pwyllgor oedd bod cynifer o ffynonellau cyllid a pholisïau ar gyfer addasiadau fel bod pobl anabl a phobl hŷn yn cael gwasanaeth o safon wahanol ac felly roedd angen i Lywodraeth Cymru osod safonau ar gyfer pob addasiad er mwyn sicrhau bod pobl anabl a phobl hŷn yn cael yr un safon o wasanaeth ni waeth ble maent yn byw, pwy yw perchennog eu heiddo, ac a ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain yn wir.
Nawr, er clod i Lywodraeth Cymru, mae peth gwaith pwysig iawn wedi'i wneud i adolygu a gweithredu newidiadau i'r broses o gyflawni addasiadau, ac rwy'n llawn sylweddoli, ac mae'r Gymdeithas MND yn llawn sylweddoli, fod hon yn broses a fydd yn cymryd amser. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu safonau gwasanaeth sy'n berthnasol i bob addasiad ni waeth beth fo'r math o ddeiliadaeth, y darparwr neu'r ffynhonnell ariannu, ac mae hynny wedi bod mewn grym ers mis Ebrill 2019. Yn ail, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio adolygu'r polisi ar brofion modd a gweithredu newidiadau, a gwn fod peth gwaith wedi'i wneud gyda'r grŵp llywio ar addasu tai, a edrychai ar sut na ddylid cymhwyso profion modd ar gyfer addasiadau bach a chanolig llai cymhleth neu unigolion sy'n derbyn gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Yna, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddatblygu hyn, gan gynnwys ymgysylltu'n sylweddol ag awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae'r pandemig COVID-19 presennol wedi golygu bod y gwaith wedi'i ohirio, ac nid yw'r ymchwil a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi gallu symud ymlaen yn ôl y bwriad. Yn y cyfamser, mae pobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor a chyflyrau niwrolegol eraill yn parhau i'w chael hi'n anodd cael addasiadau wedi'u gwneud i'w cartrefi'n gyflym, ac o ganlyniad, mae rhai'n byw mewn cartrefi nad ydynt yn ddiogel nac yn addas ar eu cyfer. Ac mae hyn yn cael effaith uniongyrchol iawn ar iechyd a llesiant, a all arwain at unigedd, diffyg gweithgarwch corfforol, ymddieithrio oddi wrth deulu a chymuned, ac amgylcheddau anniogel sy'n cyfrannu at ddamweiniau a chwympiadau.
Nawr, rwy'n siŵr bod y Gweinidog a'r Aelodau sy'n gwrando heno yn deall y gall addasiadau i'r cartref helpu i liniaru'r risgiau hyn a sicrhau bod gofynion hygyrchedd yn cael eu bodloni. I bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor, mae'r addasiadau hyn yn amrywio o gymhorthion llai, megis addasiadau sylfaenol iawn, rheiliau neu rampiau, sy'n gyffredin, i newidiadau drutach, mwy cymhleth, megis ystafelloedd gwlyb, lifftiau grisiau neu hyd yn oed lifftiau o un llawr i'r llall y dyddiau hyn.
Wrth gwrs, gall cynlluniau fel y grantiau cyfleusterau i'r anabl, sy'n cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol, roi cymorth hanfodol i bobl sydd angen addasu eu cartrefi ond na allant fforddio gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'r pandemig COVID-19 wedi golygu bod gwaith bellach wedi'i ohirio ac mae'r cynnydd a wnaed ar hyn cyn y pandemig wedi'i atal. Nawr, wrth gwrs, rwy'n derbyn yn llawn—mae'n ddealladwy—fod coronafeirws wedi cael effaith aruthrol ar waith Llywodraeth Cymru, ond y realiti yw bod pobl ledled Cymru, yn y cyfamser, yn byw gyda chlefyd niwronau motor mewn eiddo nad yw wedi'i gyfarparu i'w helpu i fyw eu dyddiau olaf yn gyfforddus ac yn ddiogel, ac wrth gwrs, rydym yn sôn yma am salwch terfynol, felly gall yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth yn yr wythnosau a'r misoedd olaf o oes rhywun wneud gwahaniaeth anhygoel i ddioddefwyr a'u teuluoedd.
Wrth i raglen frechu Llywodraeth Cymru barhau i fynd o nerth i nerth ledled Cymru, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddechrau dychwelyd at ei gwaith ar y materion hyn, fel na chollir y cynnydd a wnaed cyn y pandemig. Nid oes gan bobl sy'n byw gydag MND amser i aros. Oherwydd bod MND yn datblygu'n gyflym, nid oes gan bobl sy'n byw gyda'r cyflwr amser i aros misoedd diddiwedd i addasiadau gael eu gwneud. Yn fwy na hynny, gall diffyg gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael, beth i'w ddisgwyl o'r broses a phwy i siarad â hwy, ychwanegu anawsterau i bobl ag MND, eu teuluoedd a'u gofalwyr, wrth iddynt geisio rheoli eu bywydau sy'n aml yn newid yn gyflym.
Dair blynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol, gyda'r nod o sicrhau gwelliannau yn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'r cyfeiriadau at dai yn amwys yn gyffredinol, ac yn dweud y dylai pobl allu cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio eu gwasanaethau eu hunain. Yn anffodus, nid oes dim am yr angen i weithredu drwy ddarparu addasiadau fel y gall pobl fyw'n fwy cyfforddus gydag MND a chyflyrau niwrolegol eraill. A daw hynny â mi at wraidd fy nadl fer heno, sy'n cefnogi ymgyrch y Gymdeithas MND dros addasu cartrefi Cymru nawr ar gyfer MND, a gafodd ei lansio yng Nghymru yn gynharach heddiw, a gobeithio y bydd yr Aelodau o'r Senedd yn ymuno â mi i gefnogi'r ymgyrch honno. Mae'n galw am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, fel bod mwy o bobl sydd ag anghenion hygyrchedd yn cael eu cynorthwyo i fyw mor ddiogel ac annibynnol â phosibl. Ar lefel leol, rhaid i gynghorau sefydlu proses llwybr carlam nad yw'n seiliedig ar brawf modd i helpu i sicrhau bod addasiadau effeithiol, cost isel, yn cael eu darparu mewn modd amserol i bobl sy'n byw gydag MND.
Mae manteision cymdeithasol ac economaidd buddsoddi mewn tai hygyrch yn glir i bawb eu gweld: mae Gofal a Thrwsio Cymru, sy'n darparu mân addasiadau yng Nghymru, yn amcangyfrif, am bob £1 a werir, yr arbedir cost o £7.50 i iechyd a gofal, felly mae hynny'n rhywbeth y dylem anelu tuag ato. Ond yn ogystal ag addasu cartrefi sy'n bodoli eisoes, mae angen adeiladu mwy o gartrefi newydd gyda safonau hygyrchedd uwch yn ddiofyn, a rhaid adeiladu o leiaf 10 y cant sy'n cydymffurfio â safonau uwch o ran hygyrchedd cadeiriau olwyn, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2018.
Gan y gallai mwy o bobl fyw'n hwy gyda chyflyrau niwrolegol—er bod y dyfodol yn dal i fod yn eithaf llwm o ran MND—mae angen inni sicrhau bod mwy o gartrefi'n cael eu hadeiladu'n barod i gefnogi'r rheini yr amharwyd ar eu symudedd. Yn 2019, sefydlodd Llywodraeth Cymru safon gwasanaeth addasu tai i nodi lefel y gwasanaeth y gall defnyddwyr gwasanaethau ei disgwyl ar gyfer cyflawni a gosod addasiadau tai, ni waeth beth fo'u lleoliad na'u math o ddeiliadaeth.
Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ddatblygu mesurau o ganlyniadau priodol ar gyfer ymarfer da, i amseru'r broses o osod addasiadau, ac i fonitro ac adrodd ar ganlyniadau yn erbyn yr offeryn cyflawni hwn. Mae honno'n ffordd gymhleth iawn o ddweud ein bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu hyn fel bod addasiadau'n fwy hygyrch, yn fwy amserol a bod pobl sy'n byw gyda gofal diwedd oes, a thuag at ddiwedd eu hoes, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywyd yn fwy cyfforddus. Os yw'r safonau gwasanaeth i fod yn ystyrlon o gwbl, mae angen i ni allu barnu cynnydd o ran sicrhau'r hyn sydd ei angen ar bobl. Mae gan bobl sy'n byw gydag MND a'u gofalwyr ddigon i boeni amdano heb orfod llywio drwy systemau cymhleth i sicrhau'r addasiadau hyn, felly mae gennym ddyletswydd i ddarparu atebion tai yn gyflym i'r rhai sydd fwyaf o'u hangen.
Wrth gloi, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn didwylledd y ddadl heddiw ac yn cyfleu'r neges fod amser yn hollbwysig a bod taer angen gweithredu i gefnogi pobl sy'n byw gydag MND yng Nghymru. Gadewch inni wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn, a chyflyrau niwrolegol eraill yn wir, yn byw misoedd ac wythnosau olaf eu bywydau mor gyfforddus ac mor ddiogel â phosibl. Diolch.
Yn ogystal â chartrefi diogel a hygyrch, mae gofalwyr yn allweddol i gynnal annibyniaeth, urddas ac ansawdd bywyd pobl sy'n byw gydag MND. Fel y nodwyd gan Gofalwyr Cymru, mae gofalwyr di-dâl yn arbed £33 miliwn i Lywodraeth Cymru bob dydd o'r pandemig, ond daw hyn ar gost bersonol ac economaidd uchel. Canfu adroddiad gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor fod traean o ofalwyr MND yn treulio mwy na 100 awr bob wythnos yn darparu gofal, mwy na dwbl yr wythnos waith gyfartalog. Ni chafodd 45 y cant ohonynt unrhyw fudd-daliadau o gwbl, ac mae lleihau neu gau llawer o wasanaethau lleol oherwydd y pandemig wedi gwneud sefyllfa wael yn llawer gwaeth. Mae gofalwyr di-dâl o dan bwysau cynyddol i ddarparu mwy o ofal gyda llai o seibiant a chymorth ffurfiol. Felly, rhaid inni gydnabod a buddsoddi mewn sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau cymorth allweddol i ofalwyr di-dâl, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Pan fydd dyletswyddau awdurdodau lleol wedi eu hadfer yn llawn, mae'n bwysig eu bod yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn cefnogi hawliau gofalwyr drwy gynnig asesiad i bob gofalwr di-dâl i weld pa becynnau cymorth a allai fod ar gael iddynt, gan gynnwys gofal seibiant. Diolch.
A gaf fi ganmol Nick Ramsay a chefnogi popeth y mae wedi'i ddweud am addasiadau tai amserol? Gydag MND, mae amser yn hanfodol. Ac rwy'n llongyfarch y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor ar ei holl waith, yn enwedig eu hymgyrch Adapt Now yn y cyd-destun hwn.
Yn gyffredinol, mae angen cryn dipyn o ofal cymhleth ar unigolyn sy'n byw gydag MND, yn enwedig o ran gofal iechyd parhaus. Rhan o hynny yw'r addasiadau, ond mae'n fwy na hynny hefyd. Gall gofal iechyd parhaus tuag at ddiwedd eu hoes wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ond i ormod o bobl, nid yw'r system gofal iechyd parhaus yn gweithio. Dyna oedd canlyniad adroddiad gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor yn 2019. Felly, mae'r heriau mewn perthynas â staffio i alluogi'r pecyn gofal iechyd parhaus i lwyddo yn parhau, fel sy'n amlwg yn wir am amseroldeb addasiadau i'r cartref. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Nick Ramsay, yr Aelod dros Fynwy, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heno. Fel y dywedodd, mae clefyd niwronau motor yn glefyd dinistriol. Yn y math mwyaf cyffredin o glefyd niwronau motor, mae disgwyliad oes fel arfer yn ddwy i bum mlynedd o ddechrau'r symptomau, felly cytunaf yn llwyr ag ef fod angen inni wneud rhywbeth yn gyflym iawn i alluogi pobl i fyw gyda salwch mor wanychol. Fel y dywedodd hefyd, ar hyn o bryd ni ellir atal na gwrthdroi clefyd niwronau motor, ond gall therapïau, offer a meddyginiaeth helpu i reoli symptomau ochr yn ochr ag addasiadau i gartrefi pobl i'w gwneud mor ddiogel a hygyrch â phosibl.
Mae tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gydag MND ar unrhyw un adeg. Diolch byth, nid yw'n glefyd cyffredin, ond i bobl sy'n cael diagnosis o MND, wrth gwrs, nid yw hyn yn gysur o gwbl. Yn gwbl briodol, mae pobl sy'n dioddef o MND, eu partneriaid, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn disgwyl i ni wneud ein gorau glas i'w helpu i gadw'n annibynnol a byw eu bywydau gydag urddas. Er bod y ffocws heddiw ar bobl ag MND, ceir cyflyrau gwanychol a dirywiol eraill hefyd, fel y dywedodd Nick Ramsay. Os gallwn wella'r ffordd y mae'r system yn gweithio i bobl ag MND, bydd hynny'n amlwg o fudd i'r grŵp ehangach hwnnw o bobl hefyd.
Mae gennym eisoes raglen addasiadau gynhwysfawr iawn yng Nghymru. Mae'n cynnwys llywodraeth leol, cymdeithasau tai lleol, ac asiantaethau gofal a thrwsio ledled Cymru. Gyda'i gilydd, cyfanswm ein gwariant blynyddol yw tua £60 miliwn. Mae'n ofynnol i bob darparwr gadw at safonau gwasanaeth addasiadau tai a gyhoeddwyd gennym yn 2019. Mae'r rhain yn cynnwys amseroedd aros targed ar gyfer gwahanol fathau o addasiadau. Rydym bellach yn adrodd yn flynyddol ar berfformiad darparwyr hefyd, a chyn bo hir byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad ar gyfer 2019-20, a fydd yn cynnwys cymariaethau â blynyddoedd blaenorol am y tro cyntaf.
Rwyf am ddweud ar y pwynt hwn fy mod yn deall, wrth gwrs, fod y pandemig wedi arafu hyn, fel y dywedodd Nick. Ond i fod yn glir, rydym wedi bod yn annog pobl lle bo hynny'n bosibl o gwbl i barhau ag addasiadau gofal ac atgyweirio drwy gydol y pandemig. Wrth gwrs, cafwyd mannau lle mae rhywun yn hunanynysu neu os nad yw'r unigolyn wedi bod yn hapus i waith ddigwydd yn ei gartref, ond i fod yn glir, rydym wedi bod yn annog y gwaith i barhau yr holl ffordd drwodd.
Rydym yn parhau i fireinio a gwella'r gwaith o fonitro data. Rwyf wedi cyfarfod â Gofal a Thrwsio yn bersonol nifer o weithiau i drafod pa ddata rydym yn ei gasglu, ac o'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd gennym ddigon o ddata i symud at ddangosfwrdd, a fydd yn amlygu tueddiadau allweddol yn glir, gan gynnwys amseroedd aros.
Unwaith eto, fel y dywedodd Nick, mae addasiadau'n fach ar y cyfan. Y grŵp mwyaf sylweddol o addasiadau yn ôl eu gwerth yw addasiadau canolig eu maint. Mae'r rhain yn cynnwys yr addasiadau mwyaf cyffredin a grybwyllwyd hefyd—lifftiau grisiau, cawodydd cerdded i mewn, ystafelloedd gwlyb ar y llawr isaf a rampiau mawr, neu gyfuniadau o'r mathau hynny o addasiadau. Ar gyfartaledd, mae addasiad canolig yn cymryd tua phedwar mis i'w gwblhau.
Dim ond nifer fach o addasiadau mawr iawn a wneir bob blwyddyn. Maent yn cynnwys newidiadau sylweddol i'r eiddo, gan gynnwys estyniadau y mae angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Nid yw'n syndod, felly, fod y rhain yn cymryd mwy o amser i'w cwblhau oherwydd y cymhlethdod, a'r cyfartaledd yw tua 40 wythnos. I lawer o bobl, mae hon yn amserlen dderbyniol ar gyfer newidiadau mawr i'w cartref, ond gallaf ddeall yn iawn, yn achos unigolyn sydd wedi cael diagnosis o MND, y gall 40 wythnos fod yn amser hir iawn wir.
Darperir y rhan fwyaf o addasiadau canolig a mawr ar hyn o bryd drwy'r grant cyfleusterau i'r anabl gorfodol, a weinyddir, fel y dywedodd Nick, gan awdurdodau lleol o'u setliad cyllid cyfalaf. Yn 2018-19, gwariodd awdurdodau lleol tua £22 miliwn ar grantiau cyfleusterau i'r anabl, gan ddarparu gwelliannau i ychydig dros 4,000 eiddo. Mewn dros 90 y cant o'r achosion, roedd y grant yn talu cost y gwaith yn llawn. Mae grantiau cyfleusterau i'r anabl yng Nghymru yn fwy hael nag yng ngweddill y DU. Yng Nghymru, y terfyn uchaf y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol ei ariannu yw £36,000. Mae hyn yn cymharu â £30,000 mewn rhannau eraill o'r DU. Os yw'r addasiad yn costio mwy na £36,000, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn eisoes i ddarparu arian ychwanegol o'u harian eu hunain. Yn 2018-19, gwnaeth dwy ran o dair ohonynt hynny, gan wario dros £2 filiwn. Gall awdurdodau lleol wneud taliadau ychwanegol hefyd o grant Hwyluso Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi £4 miliwn ychwanegol o hyblygrwydd iddynt bob blwyddyn.
Mae'n bosibl mai'r achosion mwyaf cymhleth a chostus fydd y rhai mwyaf dwys, lle ceir y brys mwyaf, megis adeiladu estyniad i alluogi rhywun ag MND i barhau i fyw'n annibynnol. Fodd bynnag, oherwydd y symiau mawr o arian sydd ynghlwm wrth hynny a'r pwysau ariannol ar deuluoedd mewn angen, gall yr achosion hyn fod yn anodd hefyd a chymryd llawer o amser i'w datrys. Fel y dywedodd Nick yn gywir, mae hyn yn erbyn yr hyn rydym i gyd yn ceisio'i gyflawni. Felly, oherwydd hynny, diwygiais ganllawiau rhaglen gyfalaf y gronfa gofal integredig ar gyfer 2021-22 a gyhoeddais ym mis Ionawr. Bellach, gall y byrddau partneriaeth rhanbarthol ddefnyddio'u disgresiwn i dalu costau ychwanegol addasiadau sy'n costio mwy na £36,000.
Byddaf yn monitro faint o ddefnydd a wneir o'r hyblygrwydd hwn wrth i ni symud ymlaen ond fel y gŵyr pawb ohonom, nid yw grantiau cyfleusterau i'r anabl bob amser yn rhedeg mor llyfn ag y gallent, ac mae hyn wedi bod yn destun pryder parhaus. Er enghraifft, gwyddom y gall y prawf modd arwain at oedi, er mai dim ond 307 o dros 4,000 o grantiau cyfleusterau i'r anabl yn 2018-19 a arweiniodd at ddeiliaid tai yn gwneud unrhyw gyfraniad. Mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn ag a oes cyfiawnhad dros gynnal prawf modd yn y mwyafrif llethol o achosion. Felly, mae'r ymchwil a gomisiynais wedi dod i law yn ddiweddar ar y prawf modd a'r grant cyfleusterau i'r anabl y soniodd Nick amdano. Bydd yr ymchwil yn cael ei chyhoeddi'n fuan iawn, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn am y camau y gallwn eu cymryd o ganlyniad i'r ymchwil i fynd i'r afael â'r mater hwnnw.
Dywedir bod cynllunio hefyd yn peri oedi, ond dim ond ar gyfer yr addasiadau mwyaf nad ydynt yn dod o dan hawliau datblygu a ganiateir y bydd angen caniatâd cynllunio. Ar gyfer y rhan fwyaf o addasiadau mawr, dylid rhoi caniatâd cynllunio fel arfer o fewn wyth wythnos, ond gwyddom y gall gymryd mwy o amser ac mae rhai cynghorau'n perfformio'n well nag eraill. Felly, os yw pobl sy'n dioddef o MND yn cael problemau penodol gyda chynllunio ar hyn o bryd, byddwn yn croesawu rhagor o wybodaeth am hynny. Felly, Nick, os oes gennych unrhyw wybodaeth am achosion o'r fath, rhowch wybod imi ar unwaith i ni gael gweld a allwn eu symud yn eu blaenau ar gyfer yr achosion penodol hynny. Rydych yn llygad eich lle, nid yw'r canllawiau i awdurdodau lleol ar grantiau cyfleusterau i'r anabl wedi'u diweddaru ers peth amser, a byddaf yn ymgynghori ar ganllawiau diwygiedig cyn bo hir i sicrhau eu bod yn ymdrin â'r materion rydych wedi'u codi ar gyfer y dyfodol.
A gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn hynod ddiolchgar i Nick am ddod â'r pwnc pwysig hwn, unwaith eto, i lawr y Senedd? Hoffwn anfon fy nymuniadau gorau at yr holl bobl yng Nghymru sydd â chlefyd niwronau motor ac at eu teuluoedd, a dweud ein bod yn ddiolchgar iawn fod hyn wedi'i godi heno, ac rydym yn llawn fwriadu sicrhau bod pobl ag MND yn gallu byw gweddill eu bywydau mewn cysur a diogelwch gyda'r addasiad gorau y gallwn ei wneud. Felly, diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.