1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 3 Mawrth 2021.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau lletygarwch yng ngogledd Cymru yn ystod y pandemig? OQ56345
Mae ein cronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros 22,000 o grantiau i fusnesau gogledd Cymru, gwerth cyfanswm o dros £69.5 miliwn, ac mae ein cronfa lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n benodol i'r sector hefyd wedi darparu £12.7 miliwn hyd yma i bron i 1,500 o fusnesau. Yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cyhoeddais £30 miliwn arall ar gyfer y gronfa honno.
Bob tro y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth ariannol i helpu busnesau lletygarwch i oroesi'r pandemig, mae wedi eithrio busnesau gwely a brecwast nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach oherwydd rheolau y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â hwy. Maent wedi'u heithrio rhag grantiau busnesau bach, yn wahanol i'w cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban, ac wedi’u heithrio o bob cylch o'r gronfa cadernid economaidd. Ar bob achlysur, mae busnesau gwely a brecwast bach pryderus wedi cysylltu â mi i ddweud nad ydynt yn gallu deall pam eich bod wedi gwrthod cymorth i'r rhan hanfodol hon o economïau twristiaeth lleol. Ar bob achlysur, rwyf wedi codi hyn gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys chi eich hun, ond mae pob ymdrech wedi bod yn ofer. Sut felly y gwnewch chi ymateb i'r negeseuon e-bost dilynol a ddaeth i law eleni gan fusnesau gwely a brecwast sy'n cael trafferth yng ngogledd Cymru, ac sy'n dweud, 'Mae'n ymddangos, unwaith eto, fod cyllid diweddaraf y Llywodraeth wedi'i wrthod i fusnesau fel ein busnes ni', 'Unwaith eto, mae meini prawf y gronfa cadernid economaidd yn nodi nad ydym yn gymwys' a 'Beth rydym i fod i'w wneud am gyllid yn awr? A allwch chi gysylltu â Llywodraeth Cymru i ddarganfod pam nad yw busnesau fel ein busnes ni'n gallu cael cymorth grant er bod gofyn i ni gau?'
Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn a hoffwn atgoffa'r Aelodau eto ein bod yn buddsoddi mwy na £2 biliwn mewn busnesau yng Nghymru. Dyna £400 miliwn yn fwy nag a gawsom mewn symiau canlyniadol sy'n gysylltiedig â busnes, ac mae'n dangos ein bod yn cynnal y pecynnau cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Ond wrth gwrs, mae'r pecyn cymorth hwnnw'n ychwanegol at gynlluniau Llywodraeth y DU—y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig a'r cynllun cadw swyddi—a ddylai fod yn berthnasol i lawer o'r busnesau sydd wedi cysylltu â Mark Isherwood. Dylent fod yn cael arian drwy'r llwybr hwnnw.
Ein rôl ni yw sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth a sicrhau bod costau gweithredu'n cael eu talu i fusnesau. I'r rhai y mae Mark Isherwood wedi'u nodi wrth gwrs, mae'r gronfa grant dewisol ar gael i awdurdodau lleol ei defnyddio i gefnogi busnesau lleol, ac mae'r gronfa cymorth dewisol hefyd, sydd wedi'i chwyddo'n sylweddol iawn yn ystod y pandemig hwn, gan gydnabod bod llawer o unigolion yn dioddef o ganlyniad i golli incwm neu golli cyflogaeth. Dyna'r union fath o gronfa y byddwn yn annog Mark Isherwood i gyfeirio'r busnesau hynny tuag ati.
Weinidog, rydym wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am y modd y mae'r diwydiant lletygarwch yn un o'r rhai mwyaf diogel rhag COVID yn ôl pob tebyg. Mae ffigyrau'n dangos bod pobl yn fwy tebygol o ddal COVID mewn ysbyty nag mewn tafarn neu fwyty. Weinidog, cafwyd buddugoliaeth i synnwyr cyffredin pan gollodd Llywodraeth y DU achos a gyflwynwyd gan ddiwydiant lletygarwch Manceinion mewn perthynas â'r cyfyngiadau a osodwyd ar y diwydiant. Sut y bydd y dyfarniad hwnnw'n effeithio ar eich dull chi o ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn a dweud bod gennym broses ar waith, proses adolygu 21 diwrnod, sy'n ein galluogi i benderfynu sut y gallwn ailagor yr economi'n ddiogel? Ac rydym yn awyddus i sicrhau y gall lletygarwch, twristiaeth a hamdden ailagor cyn gynted â phosibl, ond mae'n rhaid iddynt wneud hynny yn y ffordd fwyaf diogel sy'n bosibl hefyd. Ni waeth pa mor fach ydyw, mae gan bob sector, yn anffodus, ffactor sy'n cyfrannu at gyfraddau trosglwyddo. Felly, er eu bod yn gweithredu mewn ffordd sy'n ddiogel iawn rhag COVID, mae perygl o hyd ar hyn o bryd, pe baent yn ailagor yn rhy gynnar, y gallai busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden gyfrannu at gynnydd sylweddol yn nifer y derbyniadau posibl i ysbytai, a fyddai yn ei dro yn rhoi ysbytai dan bwysau aruthrol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau'n gallu agor mewn ffordd ddiogel cyn gynted ag y gallant, ac mae gennym drefn reolaidd yr adolygiadau 21 diwrnod i sicrhau y gallwn agor y gymdeithas a'r economi yn y ffordd fwyaf diogel sy'n bosibl.