Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch ichi am hynny, Weinidog, ac yn amlwg, mae eich datganiad mewn ymateb, pan gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, yn ogystal â'r hyn rydych wedi'i ddweud heddiw, eich ymateb i'r llanast diweddaraf hwn, wedi'i eirio'n gryf ac yn condemnio'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Ond unwaith eto, mae ychydig yn brin o nodi camau ymarferol ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddiogelu buddiannau Cymru yn awr, oherwydd rydym yn wynebu brwydr yma braidd o ran colli arian a cholli pwerau, ac nid dyma'r enghraifft gyntaf, fel yr awgrymais ar ddechrau'r cwestiwn cyntaf. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa gamau ymarferol rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw Cymru'n cael ei thanseilio ac ar ei cholled unwaith eto gyda'r gronfa codi'r gwastad hon?