Y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y UE a'r DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:32, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. A fyddech yn cytuno felly fod ymffrost Boris Johnson am ei gytundeb Brexit heb ddim tariffau, cwotâu na rhwystrau heblaw am dariffau bellach yn groes i brofiad busnesau gweithgynhyrchu bach yn y Cymoedd, ac mae'r hyn a arferai fod mor syml â masnachu gyda Bryste neu Birmingham, dyweder, bellach yn fwy cymhleth na masnachu gyda Japan neu Ganada? Weinidog, heddiw lansiais arolwg o gwmnïau lleol yn fy etholaeth i gasglu tystiolaeth fanylach. Ac er y gallai fod yn rhy gynnar o hyd i wybod y canlyniad terfynol, a fyddech yn cytuno bod y trefniadau masnachu newydd yn llyffethair ar economi Cymoedd de Cymru ar hyn o bryd?