Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:56, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y soniais yn gynharach, rydym wedi mynegi gweledigaeth wahanol iawn ar gyfer sut y dylai cyllid rhanbarthol weithio yng Nghymru, ac mae honno'n ddadl rydym yn parhau i'w gwneud. Credwn fod honno'n ffordd lawer mwy rhesymegol o gefnogi economi Cymru ar lefel Cymru gyfan ond rhanbarthau Cymru hefyd, a datganoli'r broses o wneud penderfyniadau mewn ffordd gynhyrchiol a mwy effeithiol. Bydd yn gwybod, o ystyried y rhestr o eitemau a ddarllenodd ar ddechrau ei gwestiwn cyntaf, ein bod wedi cymryd pob cam a allwn i sefyll dros Gymru fel Llywodraeth, gan gynnwys dwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â'r Ddeddf. Er nad oes modd herio'r eitem hon ynddi ei hun, mae'r Ddeddf yn destun adolygiad barnwrol ar hyn o bryd, neu rydym yn ceisio adolygiad barnwrol yn y llysoedd. Felly, fe fydd yn gwybod ein bod, fel Llywodraeth, yn rhoi pob cam sy'n agored inni ar waith er mwyn amddiffyn hawliau'r Senedd a hawliau pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at ddiwrnod pan fydd gennym Lywodraeth yn San Steffan sydd â diddordeb go iawn mewn sicrhau bod pob rhan o'r DU yn ffynnu mewn undeb diwygiedig, a gorau po gyntaf y cawn hynny drwy ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan.