Porthladd Caergybi

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:15, 3 Mawrth 2021

Rŷn ni wedi bod yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun pum pwynt sydd wedi ffocysu ar y gallu i gymryd camau penodol i geisio ateb rhai o'r problemau hynny y mae'r cludwyr wedi bod yn eu disgrifio wrthym ni i gyd. Rŷn ni'n gobeithio gallu cyhoeddi'r cynllun hwnnw ar y cyd cyn diwedd y mis, felly gobeithio y bydd camau ymlaen yn digwydd yn sgil hynny. Fel y mae'r cwestiwn yn ei ddisgrifio, mae llawer o'r camau penodol yma wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth San Steffan, ond mae'n bosib i ni geisio—ac rŷn ni wedi llwyddo—dylanwadu ar hynny. Lle mae gennym ni ein penderfyniadau a'n cyfrifoldebau ein hunain sydd, efallai, ddim yn uniongyrchol yn rhan o'r sialens hon—er enghraifft, ynglŷn â lleoli canolfannau gwirio rheoliadol ar gyfer y dyfodol—rŷn ni'n sicr fel Llywodraeth ein bod ni'n moyn gwneud hynny mewn ffordd sydd ddim yn mynd i gynyddu'r ansicrwydd a chynyddu'r anghyfleustra i bobl sy'n cludo drwy Gaergybi. Felly, rŷn ni'n sicr eisiau lleoli'r rheini mor agos i'r porthladd ag sydd yn bosib i wneud y siwrnai yn haws i'r cludwyr hynny, ac rwy'n gobeithio dweud mwy am hynny yn y dyddiau nesaf.