Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 3 Mawrth 2021.
Mae busnes yn licio sicrwydd. Mae'r un erthygl hefyd yn sôn am y costau ychwanegol sy'n bodoli rŵan sy'n effeithio ar fusnesau a'u cwsmeriaid. Mi wnaeth un cwmni o Fiwmares ddweud wrthyf i y byddai'r gost o fewnforio gwerth £1,500 o nwyddau £200 yn fwy rŵan nag y byddai wedi bod. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn trafodaethau â Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Iwerddon hefyd i geisio dylanwadu—y cyfan y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud, mewn difri—ar lefel y gwaith papur a'r costau sy'n gysylltiedig â mewnforion ac, yn allweddol, allforion ar draws Môr Iwerddon, ac i annog gwell llif o fasnach, eto a fyddai'n dda i Gaergybi?