2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 3 Mawrth 2021.
2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU? OQ56363
8. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin? OQ56370
Llywydd, dwi'n deall eich bod chi wedi rhoi'ch caniatâd i gyfuno cwestiynau 2 ac 8.
Nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw fanylion o hyd am y gronfa ffyniant gyffredin, bedair blynedd ar ôl ei chrybwyll am y tro cyntaf. Ond yr hyn sy'n amlwg yw ei bod yn bwriadu anwybyddu datganoli, yn ogystal ag anwybyddu gwaith caled rhanddeiliaid ledled Cymru yn creu ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Rwy'n deall trwy Twitter fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi heddiw y bydd rhywbeth tebyg i £4.8 biliwn o gyllid ar gael, ond nid yw'n dweud a yw hynny ar gyfer Cymru; mae'n awgrymu ei fod ar gyfer Cymru, ond nid yw'n dweud a yw ar gyfer Cymru neu'r DU, ac nid yw'n rhoi amserlen ar gyfer y gwariant hwnnw.
Weinidog, mae pobl ym Mlaenau Gwent yn poeni'n fawr y byddwn yn colli mynediad at y cyllid hwn. Addawyd inni, cawsom addewid go iawn gan Lywodraeth Geidwadol y DU, na fyddai Brexit yn golygu colli unrhyw gyllid—na fyddem yn colli unrhyw fuddsoddiad, na fyddem yn colli buddsoddiad mewn seilwaith, mewn pobl, mewn cymunedau. Mae cyllid Ewropeaidd wedi bod yn achubiaeth i gymunedau fel Blaenau Gwent, lle mae wedi helpu i gefnogi gwaith, pan gaeodd y gwaith dur yng Nglynebwy, ac i greu dadeni, os hoffwch, ar y safle hwnnw; buddsoddiad ym mhrosiect deuoli'r A465; buddsoddiad mewn prentisiaethau; buddsoddiad mewn pobl ac addysg ledled y fwrdeistref.
Weinidog, rwy'n pryderu ein bod yn mynd i golli mynediad at hyn. Rwy'n pryderu y byddwn yn gweld prosiectau'n cael eu dewis a'u dethol er mwyn bodloni uchelgeisiau'r Blaid Geidwadol yn hytrach nag anghenion Cymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sefyll dros Gymru yn hytrach na chaniatáu i'r Torïaid gael rhwydd hynt i ganu clodydd Llundain?
Wel, mae'r Aelod yn iawn. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn mynd ati'n fwriadol i danseilio'r math o ddull cynlluniedig, strategol, wedi'i gyd-ddatblygu o weithredu datblygu rhanbarthol a ffafriwyd gennym yma yng Nghymru o blaid disgresiwn gwleidyddol i bob pwrpas. Ac rydym wedi gweld effaith hynny yng nghronfa'r trefi yn Lloegr, sydd wedi cael ei beirniadu'n llym am amrywiaeth o ddiffygion gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd, boed yn ddiffyg tryloywder neu ragfarn wleidyddol neu ddiffyg gallu i gyflawni. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am yr holl heriau hyn yn sgil ei dull o weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin, a, mentraf ddweud, yr hyn y mae wedi'i galw'n gronfa codi'r gwastad hefyd, maes o law.
Nid yw'r cynigion, yn y ffordd y mae cwestiwn yr Aelod yn awgrymu, wedi'u datblygu gyda rhanddeiliaid o Gymru, nac yn adlewyrchu buddiannau busnesau Cymru a chymunedau Cymru, naill ai ledled Cymru neu ar sail ranbarthol. Maent yn brin o dryloywder. Nid oes modd eu hintegreiddio â ffynonellau cyllid eraill, ac rwy'n gobeithio'n fawr na fydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y profiad ofnadwy o reoli'r gronfa drefi, yn dilyn yr un trefniadau gyda'r cronfeydd hyn.
Yn y pen draw, nid dadl gyfansoddiadol syml yw'r rheswm pam ein bod yn galw am ymdrin â'r rhain yn unol â'r setliad datganoli, ond yn hytrach, am fod hynny'n arwain at ganlyniadau gwell, tecach i Gymru, ac yn adlewyrchu blaenoriaethau busnesau Cymru, cymunedau Cymru a phobl Cymru yn well.
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Mae pryder cynyddol ynglŷn ag agwedd Gweinidog Torïaidd Llywodraeth y DU tuag at fater y £4.8 biliwn i sbarduno adfywiad ledled y DU a weinyddir gan Whitehall. Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru barhau i sefyll yn rymus dros ddatganoli yng Nghymru, pwysigrwydd Senedd Cymru fel corff democrataidd, ac mai ni fel gwleidyddion a etholwyd yn uniongyrchol yng Nghymru a ddylai oruchwylio sut y caiff arian a glustnodwyd ar gyfer Cymru ei wario er budd pobl Cymru? Mae'r pandemig byd-eang wedi dangos yn glir beth yw canlyniadau peryglus y tlodi endemig sy'n bodoli ledled y DU—tlodi endemig sy'n ganlyniad i bolisïau creulon, ideolegol y Blaid Geidwadol ers i Thatcheriaeth ddinistrio cymunedau ledled Cymru ar ôl 1979. Weinidog, beth yw'r peryglon a welwch i Gymru ar y llwybr y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei ddilyn ar gyfer Cymru?
A gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn hwnnw? Fe fydd yn cofio, wrth gwrs, fel finnau, pan ddigwyddodd yr adolygiad o wariant ym mis Tachwedd, fod swm canlyniadol Barnett wedi'i addo i Gymru mewn perthynas â'r gronfa codi'r gwastad, fel y gellid ei gweinyddu yn y ffordd y mae hi'n ei disgrifio, yn unol ag atebolrwydd democrataidd Llywodraeth Cymru i'r Senedd hon. Nid dyna sydd wedi digwydd, ac yn y ffordd y mae hi'n awgrymu, mae hyn yn gwbl groes i drefniadau cyfansoddiadol y setliad datganoli, ond mae i hyn ganlyniad ymarferol ym mywydau pobl yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio'n dda iawn â'r trydydd sector, y sector preifat, busnesau, prifysgolion, llywodraeth leol ac eraill ledled Cymru i ddatblygu dull sy'n gweithio i Gymru, ac yn ein barn ni, dyna'r ffordd orau ymlaen, nid cronfa ddewisol ganolog. Y mathau o flaenoriaethau y mae pobl ledled Cymru wedi dangos eu bod am eu gweld yw cymorth i fusnesau cystadleuol, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd, mynd i'r afael â'r newid i economi ddi-garbon, a chymunedau iachach, tecach a mwy cynaliadwy. Dyna'r math o raglen, wedi'i datganoli i'r rhanbarthau yng Nghymru, y credwn ei bod er lles gorau Cymru, a galwn ar Lywodraeth y DU i barchu'r cydweithio hwnnw ledled Cymru a sicrhau bod arian ar gael drwy'r fframwaith hwnnw.
[Anghlywadwy.]—ar gyfer rhaglenni peilot yn unig y rhoddwyd cyllid y Trysorlys a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin y DU, a nodwyd yn glir o'r cychwyn cyntaf y byddai mwy o gyllid i ddilyn. Fel y dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin fis diwethaf:
Rydym eisoes wedi'i gwneud yn glir iawn ac wedi dangos y bydd y swm o arian a gaiff ei wario yng Nghymru pan ddaw'r gronfa ffyniant gyffredin i fodolaeth yn union yr un fath â'r swm o arian a gâi ei wario yng Nghymru o'r Undeb Ewropeaidd, neu fwy na hynny.
Mae wedi'i gofnodi'n dweud yn Nhŷ'r Cyffredin hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth i ni ddatblygu fframwaith buddsoddi'r gronfa ar gyfer ei gyhoeddi.
Pa gam, felly, y mae ei hymgysylltiad wedi'i gyrraedd erbyn hyn? Ac o ystyried y newyddion y bydd y gronfa ffyniant gyffredin hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda chynghorau Cymru, y deellir eu bod wedi croesawu hyn, pa ymgysylltiad sydd rhyngoch a hwy ynglŷn â hyn?
Diolch i'r Aelod am roi cyfle arall imi ddisgrifio diffygion y gronfa, ond mae'n disgrifio parhad ymgysylltiad fel pe bai ymgysylltu o sylwedd wedi bod. Holl bwynt y broses hon yw na fu unrhyw ymgysylltiad o'r fath. A phan ofynnwch—. Pan fo'r Aelod yn gofyn imi beth a wnawn gyda llywodraeth leol yng Nghymru, byddwn yn parhau â'r gwaith partneriaeth cydweithredol sydd wedi arwain at gynllunio'r fframwaith, rhywbeth nad yw'n nodwedd o ymagwedd Llywodraeth y DU. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrtho ei fod i'w weld yn hynod o ddigyffro ynglŷn â Chymru'n colli gwerth blwyddyn gyfan o gyllid o'r gronfa ffyniant gyffredin, ac os yw'n credu bod hynny'n ganlyniad derbyniol i'r broses hon, rwy'n anghytuno'n sylfaenol ag ef, ac nid wyf yn credu bod ei sicrwydd a'i ddibyniaeth ar weniaith amhenodol ynglŷn â chamau gweithredu yn y dyfodol yn adlewyrchu buddiannau pobl yng Nghymru.