– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 3 Mawrth 2021.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar ddeisebau ynghylch rhaglen frechu COVID-19. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7608 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â’r rhaglen frechiadau COVID-19:
a) Deiseb P-05-1117 'Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth' a gasglodd 10,879 o lofnodion;
b) Deiseb P-05-1119 'Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19' a gasglodd 16,288 o lofnodion.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i'r ceisiadau am ddadleuon y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'u gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'n deg dweud eu bod wedi cael gwaith anodd iawn, o ystyried nifer y dadleuon sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer gwneud ceisiadau a nifer y deisebau a ddaeth i law gyda niferoedd mawr iawn o lofnodion.
Nawr, bydd y ddadl hon, y gyntaf o ddwy i'w cynnal gan ein pwyllgor y prynhawn yma, yn ymdrin â dwy ddeiseb fawr yn ymwneud â blaenoriaethu proffesiynau allweddol yn ystod rhaglen frechu COVID-19. Mae'r gyntaf yn gofyn am roi'r brechiad COVID-19 i swyddogion yr heddlu fel blaenoriaeth, tra bo'r ail ddeiseb yn galw am roi blaenoriaeth i athrawon a staff ysgolion a gofal plant.
Dwy yw'r rhain o nifer o ddeisebau a gyflwynwyd i'r Senedd ynghylch materion o'r fath, deisebau sydd hefyd wedi cynnwys rhai'n galw am ystyried blaenoriaethu eraill, megis staff manwerthu, peirianwyr telathrebu, gwasanaethau brys gwirfoddol—i bob un ohonynt gael eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer brechu. Mae pwysigrwydd cael y rhaglen frechu'n iawn yn glir i bob un ohonom, ac mae gan bob un o'r grwpiau hyn achos dilys pam y gellid cynnig y brechlyn iddynt yn gynnar.
Rwyf am gyflwyno'n fyr yr achosion sydd wedi'u cyflwyno yn y ddwy ddeiseb benodol sydd dan sylw heddiw. Cyflwynwyd y gyntaf, 'Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth', gan Graham Bishop gyda 10,879 o lofnodion. Er iddi gael cefnogaeth ehangach gan ffederasiwn yr heddlu ac eraill, roedd y rhesymau dros y ddeiseb hon yn bersonol.
Mae mab y deisebydd yn swyddog heddlu a ddaliodd COVID. Cafodd hyn effaith ganlyniadol ar ei deulu, wrth i'r feirws gael ei drosglwyddo i'w wraig, a oedd yn feichiog ac a esgorodd ar efeilliaid yn gynnar tra oedd yn yr ysbyty oherwydd y feirws. Wedi hynny, mae ei fab hefyd wedi profi effeithiau gwanychol COVID hir. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi ein dymuniadau gorau i'r deisebydd a'i deulu yn dilyn y set anodd iawn hon o amgylchiadau.
Aelodau, mae pob un o'n gweithwyr brys rheng flaen yn peryglu eu hunain bob dydd wrth gyflawni eu dyletswyddau, rhywbeth y mae COVID-19 wedi'i amlygu a'i ddwysáu. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi parhau i gyflawni eu swyddogaethau drwy'r pandemig ofnadwy hwn, weithiau ar gost bersonol sylweddol, gan gynnwys ein swyddogion heddlu, sydd, wrth gwrs, yn gwasanaethu'r cyhoedd mor ardderchog.
Nawr, cyflwynwyd yr ail ddeiseb, 'Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19', gan Jonathan Môn Hughes gyda chyfanswm o 16,288 o lofnodion. Mae'r ddeiseb hon yn tynnu sylw at risgiau mewn perthynas â lledaeniad asymptomatig COVID-19 mewn ysgolion a'r risg y gallai rhai athrawon ei wynebu o ddal y feirws, yn ogystal â nifer y diwrnodau addysgu a gollir oherwydd cau ysgolion a chyfnodau o hunanynysu.
Hoffwn innau hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i nodi fy niolch i'r holl staff mewn unrhyw leoliad addysg, a chynnwys hefyd ein lleoliadau gofal plant, sydd wedi parhau i ddarparu cymorth ac addysg hanfodol i'n plant ifanc drwy gydol y pandemig anodd hwn.
Mae mater brechiadau wedi cael llawer o sylw wrth gwrs, ac mae undebau athrawon ac eraill wedi'i godi dro ar ôl tro, yn enwedig yng nghyd-destun disgyblion yn dychwelyd i ysgolion. Mae dadleuon dros fabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at frechu staff ysgolion wedi cynnwys, yn gyntaf, darparu mwy o amddiffyniad i staff sy'n dod i gysylltiad agos â disgyblion ac yn ail, y budd posibl o leihau faint o amser addysgu a gollir gan ddisgyblion.
Gan fod amser yn brin, rwyf am adael i gyfranwyr eraill drafod rhinweddau, neu fel arall, yr achosion a gyflwynir gan y deisebau hyn. I gloi, mae'n bwysig cyfeirio at y penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ddiwedd yr wythnos diwethaf, sy'n berthnasol iawn i'r trafodion hyn. Ar ôl parhau i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynghylch y rhaglen frechu, daethant i'r casgliad y dylid parhau i'w chyflwyno ar sail oedran a ffactorau meddygol eraill, yn hytrach na blaenoriaethu ar sail galwedigaeth. Rwy'n tybio y bydd y Gweinidog am ddweud mwy am y penderfyniad hwn a'r goblygiadau i gyflwyno brechlynnau yng Nghymru ar ddiwedd y ddadl hon. Rwyf am gydnabod, wrth gwrs, y bydd hon yn ergyd i'r rheini a gyflwynodd y deisebau hyn. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau eraill yn ystod gweddill y ddadl hon. Diolch yn fawr.
Fel y dywed y ddeiseb ar swyddogion yr heddlu, maent mewn swyddi risg uchel. Wrth siarad yma ym mis Ionawr, tynnais sylw at alwadau gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru i blismona gael ei ystyried ar gyfer rhywfaint o flaenoriaeth ar raglen frechu COVID-19. Fel y dywedasant,
O ddydd i ddydd, mae swyddogion yr heddlu'n peryglu eu diogelwch, eu hiechyd a'u lles eu hunain wrth iddynt ein diogelu ni i gyd. Yn anffodus, yng Ngogledd Cymru, rydym wedi gweld llawer o gydweithwyr yn mynd yn sâl gyda Covid-19, a rhai angen triniaeth yn yr ysbyty, a llawer mwy yn gorfod hunanynysu.
Ac roeddent yn mynegi pryder fod pobl mewn grwpiau nad ydynt yn cael blaenoriaeth yn cael y brechlyn cyn swyddogion rheng flaen yr heddlu. Pan godais hyn gyda'r Gweinidog iechyd, fe wnaeth osgoi'r cwestiwn drwy gyfeirio'n hytrach at yr effaith ar grwpiau blaenoriaeth. Dywedodd e-bost dilynol gan un o swyddogion rheng flaen Heddlu Gogledd Cymru:
Mae yna bob amser ymdeimlad o sioc a dryswch pan fyddaf yn siarad â phobl ac yn eu hysbysu nad yw'r Heddlu'n cael eu hystyried yn grŵp blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn.
Gofynnaf i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi blaenoriaeth i blismona— lle—
Mae'n rhaid i ni ddiogelu'r diogelwyr sy'n ein diogelu ni i gyd yn y pen draw.
A dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wrthyf eu bod wedi clywed gan ffynonellau dibynadwy iawn sy'n gweithio yn y canolfannau brechu yn dweud bod ysgrifenyddion ysbytai a hyd yn oed gweithwyr cymdeithasol—sy'n gweithio gartref—yn cael y brechlyn ond nid ystyrir bod plismona rheng flaen yn creu risg o hyd ac nid ydynt yn cael defnyddio unrhyw frechlynnau sbâr/nas defnyddiwyd hyd yn oed— ac ychwanegodd—
Hyd yn oed pe gallem gael swyddogion heddlu rheng flaen ar restr wrth gefn, fel sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Loegr.
Wrth siarad yma ym mis Chwefror, gofynnais i'r Prif Weinidog pam nad oedd hyn yn digwydd yng Nghymru. Unwaith eto, roedd yr ymateb yn ymwneud â grwpiau blaenoriaeth, gan gyfuno dau fater gwahanol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Chwefror:
Ni fydd unrhyw frechlynnau'n cael eu gwastraffu gan ein bod yn defnyddio rhestr wrth gefn a grëwyd yn unol â'r grwpiau blaenoriaeth cenedlaethol.
Fel y dywedais yma, pan glywn am yr enghreifftiau niferus o bobl nad ydynt yn y grwpiau blaenoriaeth sy'n cael brechlynnau dros ben, does bosibl na ddylai unrhyw restr wrth gefn flaenoriaethu pobl fel swyddogion heddlu rheng flaen ac athrawon. O ystyried bod pobl nad oeddent mewn grwpiau blaenoriaeth yn cael y brechlyn, pam na fyddai Llywodraeth Cymru yn cyfaddef hynny ac yn hytrach yn blaenoriaethu ar restrau wrth gefn y rhai y mae eu gwaith yn golygu eu bod yn wynebu'r risg o ddod i gysylltiad â phobl sydd wedi'u heintio â COVID pan fyddai brechlynnau'n cael eu gwastraffu fel arall?
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod bellach wedi cwblhau a chytuno ar restr wrth gefn o staff y gelwir arnynt os bydd unrhyw frechlynnau'n dod ar gael ar ddiwedd dydd, gan gynnwys staff Heddlu Gogledd Cymru, yn dilyn cyngor ac arweiniad cenedlaethol. Ond fel y dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wrthyf wedyn, 'Mae'n dal i fod ymhell o fod yn berffaith, ond rydym yn cyrraedd yno'n araf.'
Mae gennym ni ddwy ddeiseb o'n blaenau ni heddiw—y naill yn apêl am flaenoriaeth i swyddogion yr heddlu am frechiad COVID, y llall am flaenoriaethu staff ysgolion a gofal plant. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi codi y materion hyn efo fo ar sawl achlysur erbyn hyn. Rhyw gwyno oedd o yn y pwyllgor iechyd y bore yma fy mod i wedi codi'r mater dair gwaith mewn ychydig ddyddiau. Ond mae'n ddrwg gen i, fel yna mae scrutiny yn gweithio. Dwi'n falch o gael codi rhai o'r cwestiynau y prynhawn yma eto wrth gefnogi a chydymdeimlo efo'r deisebwyr. Y rheswm dwi'n cefnogi a chydymdeimlo efo'r alwad yma i sicrhau bod yna drefn yn cael ei rhoi mewn lle i frechu pobl mewn swyddi sy'n wynebu'r cyhoedd—ac mi allwn i ychwanegu eraill hefyd—ydy nid mod i'n amau rhestr flaenoriaeth y JCVI fel y cyfryw; mae'n gwneud perffaith synnwyr mai'r hynaf neu'r mwyaf bregus ydy rhywun, y mwyaf tebyg ydy eu bod nhw yn mynd yn sâl neu yn waeth. Ond dwi'n dal yn grediniol bod exposure yn cyfrannu at y risg hefyd, beth bynnag ydy oed rhywun. Mi gafodd gweithwyr iechyd a gofal eu blaenoriaethu—wrth gwrs eu bod nhw wedi cael eu blaenoriaethu. Maen nhw wedi rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd o risg ryfeddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein diolch ni iddyn nhw yn fawr iawn, iawn.
Ond, ar lefel is, mae yna swyddi eraill lle mae pobl yn wynebu risg o ddod i gyswllt â'r feirws, lawer mwy na phobl fel chi a fi. Dwi wedi bod yn falch iawn o allu chwarae rôl fach iawn fel gwas cyhoeddus dros y flwyddyn ddiwethaf, yn dal y Llywodraeth i gyfrif, ond dwi wedi gwneud hynny o fan hyn. Y rheswm dwi wedi bod yn gweithio o adref ydy i drio atal lledaeniad y feirws ac i fy nghadw i a fy nheulu'n ddiogel, ond dydy eraill ddim yn gallu gweithio o adref.
Rydym ni i gyd eisiau i ysgolion allu ailagor, ond mae hynny'n golygu mwy o risg i rai o'r bobl sydd yn gysylltiedig â hynny, yn cynnwys staff mewn ysgolion. Dwi'n deall bod yna ddigwyddiad wedi bod yn y dyddiau diwethaf yn Ynys Môn, lle gwnaeth rywun boeri ar heddwas a phrofi yn bositif maes o law. Mae angen adfer hyder pobl bod popeth posib yn cael ei wneud i ymateb i'r gwahanol lefelau o risg. A gwnaf, mi wnaf i gefnogi yn llwyr y Gweinidog a'i ymdrech i fynd drwy'r rhestr flaenoriaethau, fel mae o wedi cael ei nodi gan y JCVI, yn ôl oedran cyn gynted â phosib. Ond siawns bod yna fodd, ochr yn ochr â hynny, i sicrhau bod gweision cyhoeddus eraill, pobl mewn swyddi allweddol sydd yn wynebu risg o ddydd i ddydd, yn gallu cael eu blaenoriaethu hefyd. Dydy hynny ddim yn golygu dadflaenoriaethu eraill, er fy mod i, fel dwi wedi'i ddweud o'r blaen, oherwydd fy mod i'n gweithio yn fan hyn, yn fodlon i gael fy nadflaenoriaethu er mwyn i bobl sydd yn wynebu'r cyhoedd allu cael eu brechu o fy mlaen i.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth gwrs, nid oes amheuaeth ym meddwl unrhyw un ynglŷn â chyfraniad gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig. Y bobl sydd wedi ein cadw i fynd drwy gydol y pandemig ar ei waethaf yn y gwahanol ffyrdd rydym wedi'u profi—gweithwyr nid yn unig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ond ym maes gweithgynhyrchu, yr heddlu, y lluoedd arfog, addysg, trafnidiaeth, cyfleustodau, Llywodraeth leol a chenedlaethol, gweithwyr post, manwerthu hanfodol, cynhyrchu a darparu bwyd, mae'r holl bobl hyn wedi ein bwydo, gofalu amdanom, ein haddysgu, ein cadw mewn cysylltiad ac yn ddiogel. Ac maent yn haeddu ein diolch a'n cydnabyddiaeth, nid yn unig nawr ond y tu hwnt i'r pandemig, ac mae brechu yn rhan o'r ffordd allan o'r cyfnod anodd hwn a'r cyfyngiadau angenrheidiol sydd wedi'u gosod ar ein bywydau bob dydd. Ac mae'r arwyddion yn galonogol, gyda'r ymchwil a gyhoeddwyd gan Public Health Scotland yr wythnos diwethaf, a Public Health England, yn dangos effaith gadarnhaol sylweddol o frechu, ac astudiaeth AstraZeneca-Rhydychen hefyd ar arwydd calonogol fod y brechlyn yn lleihau trosglwyddiad.
Nawr, byddai'n wych pe gallwn roi'r amddiffyniad hwn i bawb dros nos, ond gwyddom na allwn wneud hynny a'n bod yn wynebu'r angen i flaenoriaethu. Ac fel y gwyddom i gyd, roedd cam cyntaf y broses o gyflwyno'r brechlyn yn galw am frechu'n bennaf yn ôl oedran a gwendid clinigol. Erbyn diwedd cam 1, ymhen tua saith wythnos, byddwn wedi diogelu'r grwpiau lle mae 99 y cant o'r holl farwolaethau wedi digwydd hyd yma. Gwn fod llawer o alwadau wedi bod am flaenoriaethu'r brechlyn ar gyfer grwpiau galwedigaethol penodol yn y cam nesaf, yn enwedig yr heddlu ac athrawon, ond eraill hefyd, fel y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cydnabod. A deallaf y rhesymau pam y mae achos yn cael ei wneud dros frechu'r grwpiau hynny neu weithwyr allweddol eraill. Yn ddiweddar, dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol ac arbenigol:
Mae brechiadau'n atal pobl rhag marw a'r strategaeth bresennol yw blaenoriaethu'r rhai sy'n fwy tebygol o gael canlyniadau difrifol a marw o COVID-19.
Dyna yw prif nod ein rhaglen frechu COVID o hyd. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—y JCVI—wedi adolygu'r dystiolaeth er mwyn deall y cysylltiad rhwng galwedigaeth a risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 a niwed yn sgil hynny, a cheir ffactorau risg penodol ar gyfer mwy o risg o niwed difrifol, ac maent yn cynnwys oedran hŷn, gorgynrychiolaeth o rai cyflyrau iechyd isorweddol mewn rhai mathau o swyddi, amddifadedd economaidd-gymdeithasol, maint aelwydydd ac anallu i weithio gartref. Mae risg alwedigaethol sy'n gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth gyda COVID-19 wedi effeithio'n bennaf, yn y dystiolaeth a ystyriodd JCVI, ar ddynion rhwng 40 a 49 oed, o blith yr holl bobl y tu allan i'r naw grŵp blaenoriaeth presennol. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cyfuniad o ffactorau, nid galwedigaeth yn unig, yn arwain at ganlyniadau gwaeth mewn rhai grwpiau. Dylem atgoffa ein hunain fod y canlyniadau gwaeth hynny'n cynnwys pobl yn marw; rydym wedi gweld lefelau marwolaeth sylweddol hyd yma.
Tynnodd cyngor y JCVI sylw hefyd at y ffaith y byddai darparu rhaglen sy'n targedu grwpiau galwedigaethol yn gymhleth. Mae'r GIG yn gwybod pa mor hen ydych chi, ond nid yw'n debygol o wybod pa swydd rydych chi'n ei gwneud gyda'r un lefel o gywirdeb. Mae'r JCVI wedi dod i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i gynghori pedair Llywodraeth y DU i flaenoriaethu rhai grwpiau galwedigaethol yng ngham nesaf y rhaglen frechu. Nodwyd mai model sy'n seiliedig ar oedran oedd y cyflymaf ar gyfer cyflwyno'r brechlyn a diogelu'r nifer fwyaf o bobl yn y cyfnod byrraf. A'n dealltwriaeth gyffredinol yw bod tua hanner y gweithwyr allweddol nad ydynt wedi cael eu brechu eto yn y grŵp oedran 40 i 49. Mae'n anodd anghytuno'n wrthrychol â rhaglen sydd wedi'i chynllunio i frechu'r nifer fwyaf o bobl yn y cyfnod byrraf er mwyn sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu diogelu. A'r hyn na ddylem ei anghofio yw bod y JCVI, ar gyfer cam cyntaf y rhaglen, eto wedi cynghori y dylid blaenoriaethu yn seiliedig ar oedran a gwendid clinigol. Mabwysiadwyd y cyngor hwnnw gan bob un o bedair gwlad y DU—pedair Llywodraeth wahanol yn y DU, pedwar Gweinidog iechyd gwahanol, ag iddynt gefndir a theyrngarwch gwleidyddol gwahanol iawn, ond rydym i gyd wedi cytuno ar natur y cyngor a gawn a sut i ddarparu'r effaith fwyaf ar gadw ein poblogaethau'n ddiogel. Ac mae llwyddiant y rhaglen frechu yn anwadadwy ac yn amlwg yn nata Public Health Scotland a Public Health England a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Nawr, rwy'n cydnabod rhai o'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn sylwadau. Nid oeddwn yn cytuno'n llwyr â'r modd y cyflwynodd Mr Isherwood ei fersiwn o'r hyn sydd wedi digwydd, oherwydd mewn gwirionedd, mae swyddogion yr heddlu wedi bod ar restrau diwedd dydd ar gyfer darparu brechlyn. Yn wir, rwyf wedi cael sgyrsiau gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu mewn rhannau eraill o Gymru sydd wedi nodi bod gan Heddlu Gogledd Cymru niferoedd uwch o bobl wedi eu brechu yn y cyflenwad diwedd dydd hwnnw. Ac rydym wedi egluro'r sefyllfa i'w gwneud yn glir y gall cyflenwad diwedd dydd—i sicrhau nad yw'r brechlyn yn cael ei wastraffu, y gall heddlu a gweithwyr allweddol eraill wrth gwrs gael hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n fater dadleuol nawr. Ac mae—. Bydd Mr Isherwood, wrth gwrs, yn ffurfio'i farn ei hun, ond nid wyf yn credu bod y ffeithiau'n cefnogi ei fersiwn ef o bethau.
Hefyd, mae angen imi wneud y pwynt hwn yn gyffredinol. Nid mater o ofyn i bobl flaenoriaethu rhywfaint yw hyn, oherwydd os ydych yn blaenoriaethu unrhyw grŵp, rydych yn dadflaenoriaethu pobl eraill. Ac mae swyddog heddlu yn eu 20au mewn llai o berygl yn gyffredinol na heddwas yn eu 40au, yn union yr un fath ag athro yn eu 20au, o'u cymharu ag athro yn eu 40au, neu weithiwr swyddfa bost yn eu 20au neu yn eu 40au. Rydym yn ymdrin â'r dystiolaeth ar sut i ddiogelu pobl rhag niwed, a byddai angen tystiolaeth gref a diamheuol arnaf i wyro rhag cyngor y JCVI annibynnol ac arbenigol. Credaf fy mod yn gwneud yr hyn y dylai ac y byddai unrhyw Weinidog iechyd cyfrifol yn ei wneud i gadw eu gwlad yn ddiogel ynghanol pandemig sy'n dal i fod gyda ni: dilyn y dystiolaeth, y wyddoniaeth a'r cyngor iechyd cyhoeddus i achub cynifer o fywydau â phosibl. Dyna'n union y byddaf yn parhau i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda thîm rhagorol o bobl ledled y wlad i helpu i gadw Cymru'n ddiogel a chyflawni'r rhaglen frechu hon cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad, felly gofynnaf i Janet Finch-Saunders ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, ac Aelodau, am eich sylwadau yma heddiw. Fel y nodwyd eisoes, bydd y cyngor diweddar gan y JCVI wedi bod yn siomedig i lawer o bobl sydd wedi ymgyrchu dros roi blaenoriaeth i swyddogion yr heddlu, athrawon, staff gofal plant ac eraill, oherwydd y gwaith a wnânt. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd yr ymrwymiad sy'n cael ei ddangos yng Nghymru a ledled y DU i ddarparu'r rhaglen frechu'n gyflym, a'r cynnydd sy'n cael ei wneud i ddiogelu pobl, yn gysur mawr hefyd.
Rwyf am gloi'r ddadl hon drwy longyfarch pawb sy'n rhan o'r rhaglenni hynny am yr ymdrechion anhygoel sydd ar y gweill ar hyn o bryd i frechu ein poblogaeth cyn gynted ag sy'n bosibl. Yn olaf, hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebwyr am ddefnyddio ein proses ddeisebau i dynnu sylw at y materion pwysig hyn? Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r deisebau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, nodwyd y deisebau.