Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mi gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 24 Chwefror i drafod trydydd cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Fel y bydd y Siambr yn gwybod, mae cael trydedd cyllideb atodol yn beth anghyffredin iawn, wrth gwrs, ond mae'n adlewyrchu efallai’r effaith y mae COVID-19 yn ei chael o hyd. Felly, rŷn ni yn diolch i'r Gweinidog am ddwyn y gyllideb atodol yma ymlaen a’r tryloywder y mae hyn yn ei gynnig i'r Senedd.
Mae'r gyllideb hon yn cydgrynhoi addasiadau sy'n deillio o amcangyfrifon atodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethom ni glywed bod hyn yn rheoleiddio dyraniadau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, a throsglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios. Mae hefyd yn cynnwys addasiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilio Cymru.
Yn ystod yr ail gyllideb atodol, roedd llawer o argymhellion y pwyllgor yn ymwneud â’r mater o dryloywder. Dyw'r sefyllfa hon ddim wedi newid, ac er ein bod ni'n cydnabod bod y pandemig yn parhau i roi straen ar y fframwaith cyllidol, mae wedi bod yn anodd i'r pwyllgor a'r Senedd hon gael darlun clir o'r cyllid sy’n cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru. Ein hargymhelliad cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu mewn perthynas â strwythur digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig.
Fe gafwyd cynnydd o £244.5 miliwn ym mhrif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o'i gymharu â'r ail gyllideb atodol, a rŷn ni'n credu bod hyn yn ddoeth o ystyried yr ansicrwydd a fydd yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'r pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar incwm awdurdodau lleol a bydd hyn yn parhau, wrth gwrs, tan ddiwedd y flwyddyn ariannol o leiaf a'r flwyddyn ariannol nesaf hefyd wrth gwrs, o leiaf. Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid brys i awdurdodau lleol, gyda'r mwyafrif yn dod drwy'r gronfa caledi awdurdodau lleol. Hoffem ni gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y cyllid sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i’r effaith wahaniaethol y mae COVID-19 yn ei chael ar incwm awdurdodau lleol.
Mae’r sefyllfa hefyd wedi cael effaith ar allu'r trydydd sector i godi refeniw. Mae'r trydydd sector yn chwarae rhan allweddol o ran darparu cymorth a gwasanaethau sy'n cefnogi gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a lleol. Er ein bod ni'n croesawu'r cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn y drydedd gyllideb atodol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol a chronfa ymateb y trydydd sector, mae lefel y cyllid ychwanegol yn gymedrol o'i chymharu â'r cymorth sy’n cael ei roi i'r gwasanaethau iechyd. Dylai Llywodraeth Cymru felly gadarnhau bod y cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn adlewyrchu'n llawn yr effaith ar wahanol feysydd a sefydliadau y trydydd sector.
Y gyllideb atodol hon yw'r un gyntaf ers cytuno ar fargen fasnach yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth y Gweinidog ddweud wrthym ni fod trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau ynghylch ariannu'r costau seilwaith i ddiweddaru porthladdoedd. Rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad am y trafodaethau hyn pan fydd modd gwneud hynny.
Mae cronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig yn parhau i fod o ddiddordeb i'r Pwyllgor ers 2017, pan gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyntaf y byddai'n disodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Bryd hynny, ychydig iawn o fanylion oedd yn hysbys a dyw'r sefyllfa hon ddim wedi gwella ryw lawer er gwaethaf ymdrechion y pwyllgor a Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth ar sut y bydd y gronfa hon yn cael ei dyrannu neu ei gweinyddu. Yfory, mi fydd y Pwyllgor Cyllid, ynghyd ag aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yn cymryd tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac mi fyddwn ni'n mynd ar drywydd y newidiadau ariannu hyn. Rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau setliad cyllido teg i Gymru ac nad yw Cymru yn colli allan ar yr un geiniog.
Fel y soniwyd ar y dechrau, mae'r cynnig hwn ar y gyllideb hefyd yn cynnwys addasiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilio Cymru, ac mae'r pwyllgor yn fodlon â'r amrywiad yn y cyllidebau hyn.
Yn olaf, rŷn ni’n falch bod Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru gario cyllid o £650 miliwn drosodd, a ddarparwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, a hynny ar ben y cyfyngiadau cyfredol i gronfa wrth gefn Cymru. Hoffwn bwysleisio bod y pwyllgor o blaid hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Byddai cael hyblygrwydd, hefyd, ynghylch terfynau benthyca, a chronfeydd wrth gefn, yn helpu gwaith cynllunio Llywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol. Diolch.