– Senedd Cymru am 3:52 pm ar 9 Mawrth 2021.
Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar drydedd gyllideb atodol 2020-21, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.
Cynnig NDM7622 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:
1. Yn cymeradwyo'r Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021.
2. Yn nodi bod y categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021.
3. Yn nodi ymhellach yr addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000.
Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'n adolygu'r cynlluniau ariannu a gwariant a gafodd eu cymeradwyo gan y Senedd yn yr ail gyllideb atodol ym mis Tachwedd. Mae cynnydd o £2 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae hwn yn gynnydd pellach o 8 y cant ar y sefyllfa a nodwyd yn yr ail gyllideb atodol a hynny'n adlewyrchu'r holl gynnydd o fwy na 32 y cant ar ben y cynlluniau gwariant a bennwyd ar ddechrau'r flwyddyn.
Yn y gyllideb atodol hon, mae cynlluniau gwariant cyllidol Llywodraeth Cymru wedi cynyddu £2.13 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £318 miliwn ar gyfer y pecyn ailadeiladu a gyhoeddwyd ym mis Hydref, ynghyd â dyraniadau allweddol sy'n parhau i gefnogi ymateb y Llywodraeth i effaith y pandemig coronafeirws. Darparwyd cyfanswm o £660 miliwn ar gyfer cymorth busnes hyd at ddiwedd mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys £134.5 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer cyfnod atal byr mis Hydref, £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, a chymorth a anelir o £220 miliwn ar gyfer cronfa cyfyngiadau busnes y Gronfa Cadernid Economaidd, a chymorth sy'n benodol i'r sector. Felly, cafodd £12.2 miliwn ei ddyrannu ar gyfer y gronfa adferiad diwylliannol i roi cymorth hanfodol i theatrau, safleoedd cyngherddau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau a sinemâu annibynnol, ac yn cynnwys y gronfa gyntaf yn y DU ar gyfer gweithwyr llawrydd.
Rydym wedi dyrannu £32 miliwn i roi taliad o £500 i gefnogi pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu, neu rieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy wasanaethau profi, olrhain a diogelu, a dyrannwyd £16.7 miliwn i ychwanegu at dâl salwch statudol i weithwyr gofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â'n hymdrechion ni o ran olrhain cysylltiadau a chymorth ar gyfer hunanynysu, rydym ni'n cyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf a welodd Cymru erioed. I sicrhau llwyddiant y rhaglen, rydym wedi dyrannu £27 miliwn ar gyfer gweinyddu brechlynnau, ac fe roddir y rhan fwyaf ohono i'r byrddau iechyd. Rhoddwyd £69 miliwn ar gyfer cymorth caledi i addysg uwch ac addysg bellach i gefnogi'r nifer fawr o fyfyrwyr sydd wedi wynebu trafferthion yn sgil y pandemig, ac rydym ni'n parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda £30.7 miliwn ychwanegol ar gyfer cynllun lleihau'r dreth gyngor a cholledion gyda chasglu'r dreth gyngor.
Yn ogystal â'r mesurau hyn i ymateb i'r pandemig, fe ddyrannwyd tua £825 miliwn yn y gyllideb atodol hon i gefnogi meysydd eraill, fel £62 miliwn ar gyfer bargeinion dinas a thwf, gan roi £36 miliwn i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, £16 miliwn i fargen twf y gogledd a £10 miliwn i fargen dinas-ranbarth Caerdydd. Fe ychwanegwyd £30 miliwn i fynd i'r afael â'r gost a welwyd wrth ymdrin â'r atgyweirio oherwydd effaith y llifogydd ym mis Chwefror 2020, ac ar gyfer diogelwch tomennydd glo. Fe ychwanegwyd estyniad o £270 miliwn i gronfa fuddsoddi hyblyg Cymru, yn ogystal â £50 miliwn i gefnogi costau cyfalaf cynnal a chadw ysgolion i awdurdodau lleol.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y drydedd gyllideb atodol hon, ac fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth ac yn ymateb yn llawn i'w chwe argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru maes o law. Ond gallaf i ddweud nawr fy mod i'n bwriadu eu derbyn nhw. Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o'r heriau sy'n ein hwynebu eleni o ran ymgysylltu a chyfathrebu â Llywodraeth y DU, o ran yr angen am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu, ac o ran materion penodol megis seilwaith ar gyfer porthladdoedd Cymru a'r diffyg manylion ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU. Rwy'n cydnabod argymhelliad y pwyllgor hefyd i gynnal tryloywder gwariant Llywodraeth Cymru yn ei adroddiad alldro blynyddol, a'r ymrwymiad i'n protocol cytûn ni a oedd yn sefydlu'r elfen bwysig hon o'n fframwaith adrodd.
Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Diolch. A gaf i nawr alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mi gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 24 Chwefror i drafod trydydd cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Fel y bydd y Siambr yn gwybod, mae cael trydedd cyllideb atodol yn beth anghyffredin iawn, wrth gwrs, ond mae'n adlewyrchu efallai’r effaith y mae COVID-19 yn ei chael o hyd. Felly, rŷn ni yn diolch i'r Gweinidog am ddwyn y gyllideb atodol yma ymlaen a’r tryloywder y mae hyn yn ei gynnig i'r Senedd.
Mae'r gyllideb hon yn cydgrynhoi addasiadau sy'n deillio o amcangyfrifon atodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethom ni glywed bod hyn yn rheoleiddio dyraniadau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, a throsglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios. Mae hefyd yn cynnwys addasiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilio Cymru.
Yn ystod yr ail gyllideb atodol, roedd llawer o argymhellion y pwyllgor yn ymwneud â’r mater o dryloywder. Dyw'r sefyllfa hon ddim wedi newid, ac er ein bod ni'n cydnabod bod y pandemig yn parhau i roi straen ar y fframwaith cyllidol, mae wedi bod yn anodd i'r pwyllgor a'r Senedd hon gael darlun clir o'r cyllid sy’n cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru. Ein hargymhelliad cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu mewn perthynas â strwythur digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig.
Fe gafwyd cynnydd o £244.5 miliwn ym mhrif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o'i gymharu â'r ail gyllideb atodol, a rŷn ni'n credu bod hyn yn ddoeth o ystyried yr ansicrwydd a fydd yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'r pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar incwm awdurdodau lleol a bydd hyn yn parhau, wrth gwrs, tan ddiwedd y flwyddyn ariannol o leiaf a'r flwyddyn ariannol nesaf hefyd wrth gwrs, o leiaf. Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid brys i awdurdodau lleol, gyda'r mwyafrif yn dod drwy'r gronfa caledi awdurdodau lleol. Hoffem ni gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y cyllid sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i’r effaith wahaniaethol y mae COVID-19 yn ei chael ar incwm awdurdodau lleol.
Mae’r sefyllfa hefyd wedi cael effaith ar allu'r trydydd sector i godi refeniw. Mae'r trydydd sector yn chwarae rhan allweddol o ran darparu cymorth a gwasanaethau sy'n cefnogi gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a lleol. Er ein bod ni'n croesawu'r cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn y drydedd gyllideb atodol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol a chronfa ymateb y trydydd sector, mae lefel y cyllid ychwanegol yn gymedrol o'i chymharu â'r cymorth sy’n cael ei roi i'r gwasanaethau iechyd. Dylai Llywodraeth Cymru felly gadarnhau bod y cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn adlewyrchu'n llawn yr effaith ar wahanol feysydd a sefydliadau y trydydd sector.
Y gyllideb atodol hon yw'r un gyntaf ers cytuno ar fargen fasnach yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth y Gweinidog ddweud wrthym ni fod trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau ynghylch ariannu'r costau seilwaith i ddiweddaru porthladdoedd. Rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad am y trafodaethau hyn pan fydd modd gwneud hynny.
Mae cronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig yn parhau i fod o ddiddordeb i'r Pwyllgor ers 2017, pan gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyntaf y byddai'n disodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Bryd hynny, ychydig iawn o fanylion oedd yn hysbys a dyw'r sefyllfa hon ddim wedi gwella ryw lawer er gwaethaf ymdrechion y pwyllgor a Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth ar sut y bydd y gronfa hon yn cael ei dyrannu neu ei gweinyddu. Yfory, mi fydd y Pwyllgor Cyllid, ynghyd ag aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yn cymryd tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac mi fyddwn ni'n mynd ar drywydd y newidiadau ariannu hyn. Rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau setliad cyllido teg i Gymru ac nad yw Cymru yn colli allan ar yr un geiniog.
Fel y soniwyd ar y dechrau, mae'r cynnig hwn ar y gyllideb hefyd yn cynnwys addasiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilio Cymru, ac mae'r pwyllgor yn fodlon â'r amrywiad yn y cyllidebau hyn.
Yn olaf, rŷn ni’n falch bod Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru gario cyllid o £650 miliwn drosodd, a ddarparwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, a hynny ar ben y cyfyngiadau cyfredol i gronfa wrth gefn Cymru. Hoffwn bwysleisio bod y pwyllgor o blaid hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Byddai cael hyblygrwydd, hefyd, ynghylch terfynau benthyca, a chronfeydd wrth gefn, yn helpu gwaith cynllunio Llywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol. Diolch.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid y mis hwn, fel y clywsoch chi, ar drydedd gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn nodi bod hyn yn dyrannu bron i £1.3 biliwn o adnoddau cyllidol ychwanegol a bron i £837 miliwn mewn cyfalaf, gyda'r prif gynnydd yn yr economi a thrafnidiaeth, tai a llywodraeth leol, ac addysg. Y cefndir yw'r £5.2 biliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru er mwyn brwydro yn erbyn pandemig COVID-19 yn 2020. Mae'r £650 miliwn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon yn dod â hyn i £5.85 biliwn, ar ben £1.4 biliwn yn fwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn dilyn mwy o wariant ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Mae Canghellor Trysorlys y DU eisoes wedi cadarnhau y bydd gan Lywodraeth Cymru o leiaf £1.3 biliwn ychwanegol i'w wario yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, ac ychwanegodd ei gyllideb yr wythnos diwethaf £740 miliwn pellach o gyllid i Lywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu mewn cysylltiad â strwythur digwyddiadau cyllidol y DU.
At hynny, dywedodd y Gweinidog wrthym fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran bwrw ymlaen ag unrhyw symiau canlyniadol a gynhyrchwyd drwy weithredu fformiwla Barnett yn ychwanegol at y £5.2 biliwn o gyllid gwarantedig a gadarnhawyd yn flaenorol ar 23 Rhagfyr. Felly, mae'r gyllideb atodol yn manylu ar y £660 miliwn a ddygir ymlaen i'r flwyddyn nesaf, ac mae hynny oherwydd yr hysbysiad hwyr iawn. Fodd bynnag, nid yw'n cydnabod bod yr esgus a roddir yn gyson gan Lywodraeth Cymru am ei hymatebion araf i bopeth bron iawn, pandemig COVID-19, hefyd yn berthnasol i Lywodraethau eraill, a bod Trysorlys y DU, er gwaethaf hyn, wedi gweithio'n agos gyda phob un o'r tair Llywodraeth ddatganoledig yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Fel y dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ei lythyr ar 23 Chwefror at y Pwyllgor Cyllid, mae swyddogion wedi ymgysylltu'n amlach fyth; darparwyd dadansoddiad llawn o gyllid 2021-22 yn adolygiad gwariant 2020 fis Tachwedd diwethaf, a byddant hefyd yn cyhoeddi'r iteriad nesaf o dryloywder y grant bloc yn ddiweddarach eleni, a fydd, unwaith eto, yn cynnwys dadansoddiad llawn a manwl o'r cyllid. Mewn gwirionedd, felly, mae'r Gweinidog yn ymdrechu'n rhy galed i gyfiawnhau dwyn cymaint o arian ymlaen i'w wario yn ddiweddarach.
Fel y dywed ein hadroddiad hefyd, mae angen sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod yr arian a ddarperir i awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith wahaniaethol COVID-19 ar incwm awdurdodau lleol. Ac mae'r pwyllgor yn cydnabod yr effeithiwyd hefyd ar swyddogaeth y trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau sy'n cefnogi gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a lleol, o ran y gallu i godi refeniw. Mae lefel y cyllid ychwanegol y mae'r sector hwn yn ei gael yn fach o'i gymharu, fel y dywedodd y Cadeirydd, â'r cymorth a roddir i'r gwasanaeth iechyd, a bydd hynny'n costio'n ddrud i'r gwasanaeth iechyd.
Does dim ond eisiau ichi ddarllen y nodiadau esboniadol efo'r drydedd gyllideb atodol yma ac rydych chi'n gweld blwyddyn mor ddigynsail mae hon wedi bod. Dwi'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno ar hynny. Dydy dyraniadau enfawr fel hyn o fewn blynyddoedd ariannol ddim yn rhywbeth yr ydym wedi'i weld fel rhan o brosesau cyllidebol arferol dros y blynyddoedd.
Gaf i gymeradwyo sylwadau Llyr Gruffydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a gwneud ychydig o sylwadau pellach fy hun? Dwi'n deall y demtasiwn i'r Ceidwadwyr ddweud, cyn gynted ag y mae unrhyw arian yn dod ar gael, 'Gwariwch o yn syth', ond dwi yn credu, yn gyffredinol, bod pwyll a dal rhywfaint yn ôl wedi bod yn bwysig, yn enwedig pan rydych chi, ar un llaw, yn ystyried bod y tirwedd wedi bod yn esblygu lot o fis i fis dros y flwyddyn diwethaf, ond hefyd bod yna symptom fan hyn o'r ffaith nad yw system ffisgal Cymru ddim yn un sy'n gweithio i ni, yn enwedig ar amser mor heriol â hyn.
Mi wnaf i gyfeirio at ddau fater. Yn gyntaf, mae'r fformiwla Barnett wedi profi i fod yn arf hynod aneffeithiol—ffordd llawer rhy simplistig o ddosbarthu cyllid o Whitehall i Lywodraethau datganoledig. Gallaf fynd â chi'n ôl at un o'r papurau cyntaf a gafodd ei ysgrifennu gan y tîm Dadansoddi Cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddechrau'r pandemig, a oedd yn awgrymu efallai na fyddai dyrannu arian ar sail poblogaeth yn adlewyrchu'r heriau penodol y mae COVID wedi golygu i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ac roeddent yn iawn; mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn a phobl sydd â phroblemau iechyd nag sydd gan Loegr, rhywbeth sydd ddim yn cael ei ystyried gan beth sy'n cael ei alw'n 'needs-based factor'. Mi awgrymodd y papur hefyd, er i Lywodraeth Cymru roi ymrwymiad i roi'r un gefnogaeth i fusnesau drwy ryddhad ardrethi busnes ac ati ag sydd yn cael ei roi yn Lloegr, na fyddai'r gost o ddarparu'r gefnogaeth honno ddim yn angenrheidiol yn rhywbeth mae arian canlyniadol Barnett yn ddigon i dalu amdano fo. Dwi'n dyfynnu o'r papur:
'Er enghraifft, mae gan Gymru gyfran uwch o eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch (43%) o'i gymharu â Lloegr (38%)—er bod hyn yn debygol o gael ei wrthbwyso gan eu gwerthoedd ardrethol cyfartalog is. Roedd eu gwerthoedd ardrethol is yn golygu bod cyfran gymharol fwy o safleoedd Cymru (75%) yn gymwys ar gyfer y grant o £10,000 o'i gymharu â Lloegr (70%). Mae hyn er gwaethaf y ffaith mai dim ond i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 yng Nghymru y mae'r grant ar gael, tra bod busnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,000 a £15,000 hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn yn Lloegr.'
Credaf fod y papur yn gywir. O ran cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, dadleuodd Plaid Cymru y dylid bod wedi gwneud diwygiadau dros dro i'r fformiwla o leiaf, er enghraifft gan gynnwys ffactor penodol sy'n seiliedig ar anghenion oherwydd y coronafeirws. Ond yn y pen draw, credaf fod y pandemig wedi dangos bod arnom ni angen y math hwnnw o ddiwygio ar Fformiwla Barnett yn y tymor hwy, ac mae arnom ni ei angen ar frys.
Yr ail fater yw'r anhyblygrwydd a osodir ar Lywodraeth Cymru o ran y gallu i fenthyca a defnyddio cronfa wrth gefn Cymru. Rwy'n sicr—fel y gwnaeth y Pwyllgor Cyllid—yn croesawu'r ffaith bod y Trysorlys wedi ildio ychydig ynghylch hyn, gan gyfeirio at y ffaith iddyn nhw gytuno i ganiatáu dwyn £650 miliwn ymlaen i gyllideb 2021-22. Ond, nid ydym ni mewn sefyllfa well o hyd o ran pwerau cyllidol gwirioneddol y Llywodraeth nag yr oeddem ni ar ddechrau'r pandemig. Mae'r Gweinidog wedi dweud dro ar ôl tro fod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran mynd i'r afael â'r anhyblygrwydd hwn. Nid ydym ni ddim callach o ran canlyniad y trafodaethau hynny, neu eu hynt ar hyn o bryd, sy'n awgrymu i mi nad yw pethau'n mynd yn dda; heb fawr o syndod, o ystyried y ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi bod yn barod i wneud pethau y mae wedi gallu eu gwneud—er enghraifft, benthyca. Dyfynnaf Gerry Holtham yma:
'Mae methu â benthyca mewn dwy flynedd ariannol olynol'— hynny yw 2019-20 a 2020-21—
'yn ymddangos yn anuchelgeisiol.' Cytunaf ag ef. Felly, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod digynsail. Mae llawer yn y gyllideb atodol hon—y drydedd, yn rhyfeddol—i'w croesawu yma. Ond, yr hyn y mae'r flwyddyn ariannol hon wedi'i ddangos yw na all y Llywodraeth fforddio anwybyddu pethau fel cyfangorff o ran yr angen i symud ymlaen ar ymreolaeth ariannol Cymru.
Rwy'n croesawu'n fawr y drydedd gyllideb atodol gan Lywodraeth Cymru. Mae ein dull clir yng Nghymru o graffu ar gyllid cyhoeddus yn dryloyw ac yn ddibynadwy. Fel aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid, rwyf yn gwerthfawrogi'n fawr ein bod yn blaenoriaethu ac yn gwario'n ddoeth yr arian cyhoeddus sydd ar gael inni yng Nghymru.
Fodd bynnag, yng Nghymru, rhaid inni weithredu—fel y dywedwyd—o fewn cyfyngiadau sylweddol iawn, yn wahanol i'n cymheiriaid ledled y DU, fel y'i cyflwynwyd inni gan Ganghellor Torïaidd y Trysorlys sy'n gwrthod yn bendant anrhydeddu datganoli'r lle hwn fel Senedd aeddfed, rhoi hyblygrwydd i Gymru a rhoi rheolaeth yn ôl dros y ffordd yr ydym ni'n gwario elfennau allweddol o'n harian. Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn disgwyl fawr ddim gan Ganghellor sy'n cyhoeddi cyllideb gyda llu—toreth—o ddeunydd yn hyrwyddo ei hun ar Instagram a fideos cyfryngau cymdeithasol, ac yn methu'n llwyr â sôn yn ei araith am anhrefn damniol y cynnig cyflog o 1 y cant i nyrsys Lloegr, sydd wedi ymladd, ac sy'n parhau i ymladd, ar reng flaen eithaf pandemig COVID-19.
Yng Nghymru, rydym yn gwerthfawrogi tryloywder yn ein cyllid cyhoeddus, ac ni allai hyn fod mewn gwrthgyferbyniad mwy uniongyrchol ac amlwg â Lloegr, lle nad yw Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi craffu ar ei chynigion ariannol ar hyd y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru, felly, i'w chanmol am ei hadroddiadau ffyddlon a rheolaidd i'r Senedd hon ar bob cam o'r broses—gan geisio proses o graffu cyhoeddus ar ei chynigion, a llwyddo i sicrhau hynny. Wrth inni aros am y distawrwydd di-ateb ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n hanfodol i Gymru, hoffwn ddiolch ichi, Gweinidog, am y cyfan yr ydych chi a Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i wneud, er gwaethaf cyfyngiadau sylweddol, i gynhyrchu trydedd gyllideb atodol glir a strategol, a fydd yn ailgodi'n decach i Gymru.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Mae'r drydedd gyllideb atodol hon yn rhan bwysig iawn o broses y gyllideb. Bydd cymeradwyo'r gyllideb atodol hon yn awdurdodi cynlluniau gwariant diwygiedig Llywodraeth Cymru. Mae'n pennu'r terfynau ar gyfer cymharu ein sefyllfa alldro ariannol. Mae hefyd yn awdurdodi'r arian y gellir ei ddefnyddio o gronfa gyfunol Cymru i gefnogi'r gwariant hwnnw. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon heddiw. Ymatebaf i nifer o'r pwyntiau a godwyd.
Roedd cwestiwn yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran y trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar borthladdoedd a ffiniau. Gallaf roi gwybod i'm cyd-Aelodau fy mod bellach wedi cael ymateb i'm sylwadau i Drysorlys EM ynglŷn â'r cyllid ar gyfer y seilwaith a'r gweithrediadau parhaus sydd eu hangen ar ffin Cymru, ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Trysorlys wedi cytuno, mewn egwyddor, i ariannu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r safleoedd mewndirol yn 2021-22 drwy hawliad wrth gefn. Mae'r Trysorlys wedi cydnabod ein pryderon ynghylch y costau gweithredol sylweddol ar gyfer y cyfleusterau hyn ac wedi cadarnhau yr eir i'r afael â hyn yn yr adolygiad o wariant sydd i ddod. Dylai Llywodraeth y DU dalu costau gweithredol ychwanegol y swyddogaeth sylweddol a hollol newydd hon sy'n deillio'n uniongyrchol o ymadael â'r UE, ac sy'n rhan bwysig o seilwaith bioddiogelwch Prydain Fawr, a fydd yn sail i elfen bwysig o'r cytundeb masnach yn y dyfodol. Felly, bydd y costau gweithredu ychwanegol hynny'n bwysig hefyd.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr clywed dadansoddiad Mark Isherwood o ran dwyn cyllid ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Rwy'n credu ei bod hi'n anghrediniol bod Llywodraeth y DU wedi gweld yn dda darparu swm ychwanegol mor sylweddol o gyllid—£660 miliwn—gyda chwe wythnos i fynd tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, roeddwn yn falch ein bod wedi gallu negodi'r trosglwyddo hwnnw. Ond os yw Mark Isherwood neu aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru yn meddwl tybed sut yr ydym ni mewn sefyllfa i ddwyn swm mor fawr o arian ychwanegol ymlaen i'r flwyddyn nesaf ar gyfer buddsoddi yn ein hymateb i bandemig COVID wrth inni symud ymlaen, gallaf ddweud wrthych mai'r rheswm yw ein bod wedi rheoli arian cyhoeddus Cymru yma yng Nghymru. Rydym ni wedi ymdrechu i gael gwerth am arian ar bob cam yn ein proses. Rydym ni wedi bod yn ofalus iawn gyda'r buddsoddiadau yr ydym ni wedi'u gwneud a'r penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud, a gallwch weld nad oes dim yn adlewyrchu hynny'n gliriach na'r penderfyniadau a wnaethom ynghylch olrhain cysylltiadau. Mae ein system yma yng Nghymru yn cael ei darparu fel gwasanaeth cyhoeddus, mae'n cael ei darparu drwy awdurdodau lleol a'n byrddau iechyd, gan sicrhau bod gwerth am arian a'n bod wedi gofalu am arian pobl Cymru. Er bod y system ar draws y ffin wrth gwrs, yn gwneud yn llawer gwaeth na'n system ragorol ni yma yng Nghymru, ac mae wedi'i rhoi ar gontract allanol i'r sector preifat lle mae elw enfawr yn cael ei wneud, ac nid yw pobl yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael yma yng Nghymru.
Ac, wrth gwrs, mae'r math o benderfyniadau yr oeddem ni yn gallu eu gwneud ynglŷn â chyfarpar diogelu personol yma yng Nghymru hefyd wedi ceisio sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr. Felly, dyna pam y gallwn ni gario cyllid ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf, ac nid wyf yn credu y dylai'r un ohonom ni anghofio hynny. Ac i mi, dyma fydd un o straeon mawr y pandemig, pan fydd pobl yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn yn y blynyddoedd i ddod ac yn cymharu gwahanol ddulliau ac ymatebion gwahanol Lywodraethau â'r pandemig a'r blaenoriaethau gwahanol sydd wedi llywio'r penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud.
Dywedaf, o ran y dyfodol, rwy'n gwybod fod gennym ni ein dadl ar y gyllideb derfynol yn nes ymlaen, ond ni fu unrhyw gysylltiad ystyrlon â Llywodraeth y DU o gwbl ar gyllideb 2021-22, diffyg ymgysylltu hollol warthus ar y gronfa codi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin, ond rwy'n siŵr y cawn ni gyfleoedd i drafod y pethau hynny'n fanylach maes o law y prynhawn yma.
Felly, mae hon wedi bod yn flwyddyn o ansicrwydd, ac yn un pryd y gwelsom newidiadau digynsail i'n sefyllfa ariannol. Ymrwymais i sicrhau y byddai'r newidiadau hynny'n dryloyw ac yn destun craffu llawn gan y Senedd, a ddechreuodd gyda chyhoeddi ein cyllideb atodol gyntaf fis Mai diwethaf—yn gynnar iawn yn yr argyfwng—ail gyllideb atodol dros dro ym mis Hydref, a arweiniodd at y drydedd gyllideb atodol hon heddiw.
Felly, mae cyfanswm o dros £6 biliwn wedi'i ychwanegu at ein cynlluniau gwariant yn ystod y flwyddyn, sydd wedi bod yn hanfodol i ymdrin â'r ymateb uniongyrchol i bandemig y coronafeirws, ac i ddechrau mynd i'r afael ag effeithiau hirdymor y pandemig ar wasanaethau, ar fusnesau ac unigolion, ac mae'r cyllid hwn wedi'i ddyrannu drwy gydol y flwyddyn i sicrhau'r canlyniadau mwyaf effeithiol yng Nghymru, gan ddefnyddio'r hyblygrwydd sydd ar gael inni. A chredaf, fel y mae pob cyd-Aelod sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi cydnabod y prynhawn yma, y bu hi'n flwyddyn gwbl eithriadol. Hoffwn ddiolch ar goedd, Llywydd, i'r swyddogion sydd wedi gweithio mor ofalus a diwyd i'm cefnogi i sicrhau ein bod yn rheoli ein sefyllfa yn ystod y flwyddyn ac yn cyflwyno'r gyllideb atodol mor llwyddiannus, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw. Diolch yn fawr. Rwy'n cynnig y cynnig.
[Anghlywadwy.]
Mae arnaf i ofn eich bod wedi eich tawelu, Dirprwy Lywydd. Neu o leiaf ni allaf i eich clywed chi.
A ydych chi'n fy nghlywed i nawr?
Ydw.
Mae'n ddrwg gennyf. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Do, gwelais wrthwynebiadau. Felly, mae hynny'n iawn. Felly, gohiriwn bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.