Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 9 Mawrth 2021.
Mae'r drydedd gyllideb atodol hon yn rhan bwysig iawn o broses y gyllideb. Bydd cymeradwyo'r gyllideb atodol hon yn awdurdodi cynlluniau gwariant diwygiedig Llywodraeth Cymru. Mae'n pennu'r terfynau ar gyfer cymharu ein sefyllfa alldro ariannol. Mae hefyd yn awdurdodi'r arian y gellir ei ddefnyddio o gronfa gyfunol Cymru i gefnogi'r gwariant hwnnw. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon heddiw. Ymatebaf i nifer o'r pwyntiau a godwyd.
Roedd cwestiwn yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran y trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar borthladdoedd a ffiniau. Gallaf roi gwybod i'm cyd-Aelodau fy mod bellach wedi cael ymateb i'm sylwadau i Drysorlys EM ynglŷn â'r cyllid ar gyfer y seilwaith a'r gweithrediadau parhaus sydd eu hangen ar ffin Cymru, ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Trysorlys wedi cytuno, mewn egwyddor, i ariannu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r safleoedd mewndirol yn 2021-22 drwy hawliad wrth gefn. Mae'r Trysorlys wedi cydnabod ein pryderon ynghylch y costau gweithredol sylweddol ar gyfer y cyfleusterau hyn ac wedi cadarnhau yr eir i'r afael â hyn yn yr adolygiad o wariant sydd i ddod. Dylai Llywodraeth y DU dalu costau gweithredol ychwanegol y swyddogaeth sylweddol a hollol newydd hon sy'n deillio'n uniongyrchol o ymadael â'r UE, ac sy'n rhan bwysig o seilwaith bioddiogelwch Prydain Fawr, a fydd yn sail i elfen bwysig o'r cytundeb masnach yn y dyfodol. Felly, bydd y costau gweithredu ychwanegol hynny'n bwysig hefyd.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr clywed dadansoddiad Mark Isherwood o ran dwyn cyllid ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Rwy'n credu ei bod hi'n anghrediniol bod Llywodraeth y DU wedi gweld yn dda darparu swm ychwanegol mor sylweddol o gyllid—£660 miliwn—gyda chwe wythnos i fynd tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, roeddwn yn falch ein bod wedi gallu negodi'r trosglwyddo hwnnw. Ond os yw Mark Isherwood neu aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru yn meddwl tybed sut yr ydym ni mewn sefyllfa i ddwyn swm mor fawr o arian ychwanegol ymlaen i'r flwyddyn nesaf ar gyfer buddsoddi yn ein hymateb i bandemig COVID wrth inni symud ymlaen, gallaf ddweud wrthych mai'r rheswm yw ein bod wedi rheoli arian cyhoeddus Cymru yma yng Nghymru. Rydym ni wedi ymdrechu i gael gwerth am arian ar bob cam yn ein proses. Rydym ni wedi bod yn ofalus iawn gyda'r buddsoddiadau yr ydym ni wedi'u gwneud a'r penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud, a gallwch weld nad oes dim yn adlewyrchu hynny'n gliriach na'r penderfyniadau a wnaethom ynghylch olrhain cysylltiadau. Mae ein system yma yng Nghymru yn cael ei darparu fel gwasanaeth cyhoeddus, mae'n cael ei darparu drwy awdurdodau lleol a'n byrddau iechyd, gan sicrhau bod gwerth am arian a'n bod wedi gofalu am arian pobl Cymru. Er bod y system ar draws y ffin wrth gwrs, yn gwneud yn llawer gwaeth na'n system ragorol ni yma yng Nghymru, ac mae wedi'i rhoi ar gontract allanol i'r sector preifat lle mae elw enfawr yn cael ei wneud, ac nid yw pobl yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael yma yng Nghymru.
Ac, wrth gwrs, mae'r math o benderfyniadau yr oeddem ni yn gallu eu gwneud ynglŷn â chyfarpar diogelu personol yma yng Nghymru hefyd wedi ceisio sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr. Felly, dyna pam y gallwn ni gario cyllid ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf, ac nid wyf yn credu y dylai'r un ohonom ni anghofio hynny. Ac i mi, dyma fydd un o straeon mawr y pandemig, pan fydd pobl yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn yn y blynyddoedd i ddod ac yn cymharu gwahanol ddulliau ac ymatebion gwahanol Lywodraethau â'r pandemig a'r blaenoriaethau gwahanol sydd wedi llywio'r penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud.
Dywedaf, o ran y dyfodol, rwy'n gwybod fod gennym ni ein dadl ar y gyllideb derfynol yn nes ymlaen, ond ni fu unrhyw gysylltiad ystyrlon â Llywodraeth y DU o gwbl ar gyllideb 2021-22, diffyg ymgysylltu hollol warthus ar y gronfa codi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin, ond rwy'n siŵr y cawn ni gyfleoedd i drafod y pethau hynny'n fanylach maes o law y prynhawn yma.
Felly, mae hon wedi bod yn flwyddyn o ansicrwydd, ac yn un pryd y gwelsom newidiadau digynsail i'n sefyllfa ariannol. Ymrwymais i sicrhau y byddai'r newidiadau hynny'n dryloyw ac yn destun craffu llawn gan y Senedd, a ddechreuodd gyda chyhoeddi ein cyllideb atodol gyntaf fis Mai diwethaf—yn gynnar iawn yn yr argyfwng—ail gyllideb atodol dros dro ym mis Hydref, a arweiniodd at y drydedd gyllideb atodol hon heddiw.
Felly, mae cyfanswm o dros £6 biliwn wedi'i ychwanegu at ein cynlluniau gwariant yn ystod y flwyddyn, sydd wedi bod yn hanfodol i ymdrin â'r ymateb uniongyrchol i bandemig y coronafeirws, ac i ddechrau mynd i'r afael ag effeithiau hirdymor y pandemig ar wasanaethau, ar fusnesau ac unigolion, ac mae'r cyllid hwn wedi'i ddyrannu drwy gydol y flwyddyn i sicrhau'r canlyniadau mwyaf effeithiol yng Nghymru, gan ddefnyddio'r hyblygrwydd sydd ar gael inni. A chredaf, fel y mae pob cyd-Aelod sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi cydnabod y prynhawn yma, y bu hi'n flwyddyn gwbl eithriadol. Hoffwn ddiolch ar goedd, Llywydd, i'r swyddogion sydd wedi gweithio mor ofalus a diwyd i'm cefnogi i sicrhau ein bod yn rheoli ein sefyllfa yn ystod y flwyddyn ac yn cyflwyno'r gyllideb atodol mor llwyddiannus, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw. Diolch yn fawr. Rwy'n cynnig y cynnig.