Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma hefyd, y tro yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, a gwneud hynny, wrth gwrs, yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n falch hefyd fod y Gweinidog wedi derbyn neu wedi derbyn mewn egwyddor pob un o'r 36 argymhellion mae'r pwyllgor wedi eu gwneud.
Yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, fe wnaeth y Siambr hon gydnabod yr ansicrwydd ynghylch y cylch cyllideb hwn eto eleni oherwydd oedi wrth gwrs gyda digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig a diffyg ffigurau cyllido at y dyfodol. Ac wrth siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid yn y ddadl honno, fe wnaeth Siân Gwenllian y pwynt perthnasol mai drafft yn wir ystyr y gair oedd y gyllideb ddrafft a bod Llywodraeth Cymru yn dal cronfeydd wrth gefn sylweddol oedd heb eu dyrannu. Er bod y pwyllgor yn cydnabod bod angen rhywfaint o hyblygrwydd eleni i ddelio ag ansicrwydd y pandemig, dyw hynny ddim yn ddelfrydol, wrth gwrs, er mwyn craffu ar y gyllideb yn effeithiol, a ddylai'r dull sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer y gyllideb hon ddim gosod cynsail ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Mae'r gyllideb derfynol hon yn dyrannu £800 miliwn yn fwy na'r hyn a graffwyd arno fe fel rhan o'r gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft. Yn sicr, nid yw'n ddelfrydol ein bod ni'n ystyried cyllideb derfynol yma heddiw, gan fod cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gafodd ei chyhoeddi ddiwrnod ar ôl cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi £735 miliwn yn ychwanegol i Gymru sydd heb ei ystyried fel rhan o'r broses gyllidebol hon. Dwi'n nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gyhoeddiadau polisi yng nghyllideb y Deyrnas Unedig trwy gyhoeddi estyniad i rai elfennau o ryddhad ardrethi annomestig COVID ac estyn y gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir hyd at ddiwedd mis Mehefin, fel y clywon ni nawr gan y Gweinidog. Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi amlinellu'r newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol a goblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig. Mi fydd hyn yn cynorthwyo'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, i ystyried newidiadau posib i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
Mae'r gyllideb derfynol hon yn dyrannu tua £11.2 miliwn ar gyfer materion sy'n ymwneud â Brexit. Fodd bynnag, mae'n hynod siomedig bod cyllideb y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd cyllid i ddisodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddyranu'n uniongyrchol yng Nghymru ar faterion datganoledig trwy gronfa adfywio cymunedol y Deyrnas Unedig a chronfa codi'r gwastad, efallai—y levelling up fund—gan osgoi'r Senedd. Nawr, fel y soniais i wrth y Siambr yn gynharach y prynhawn yma yn ystod y ddadl ar y drydedd gyllideb atodol, bydd y Pwyllgor Cyllid, ynghyd ag aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol ac Ewropeaidd, yn clywed tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yfory ynglŷn â'r gronfa ffyniant cyffredin.
Rŷn ni'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 2, a byddwn yn parhau i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig fel arfer yn cael eu cynnal erbyn dyddiad penodol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan weinyddiaethau datganoledig ddigon o amser i bennu cyllideb a chynnal gwaith craffu ystyrlon. Yn ogystal, rŷn ni'n falch bod argymhelliad 3 wedi ei dderbyn ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod setliadau aml-flwyddyn yn cael eu hadfer mewn pryd ar gyfer cylch cyllideb y flwyddyn nesaf. Am y tair blynedd diwethaf, cafodd y gyllideb ddrafft ei llunio ac fe graffwyd arni o dan amgylchiadau eithriadol yn sgil Brexit a'r pandemig. Mae oedi o ran digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig yn arwain at oedi wrth gyhoeddi cyllidebau drafft Llywodraeth Cymru, ac mae hynny yn ei dro wedi lleihau'r amser sydd ar gael i graffu. Mae hyn yn peri pryder mawr o ystyried y bydd Brexit a'r ymateb ariannol i'r pandemig yn cael effaith ar wariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod.
Nawr, dyma gyllideb olaf y pumed Senedd, wrth gwrs, ac mae sawl her wedi dod yn sgil COVID-19, ac mae'r effeithiau ariannol wedi bod yn sylweddol. Mae'n debygol y bydd ymateb i'r pandemig yn dal i fod yn flaenllaw ac yn rhan flaenllaw o flwyddyn 2021-22, ond rŷn ni'n obeithiol y bydd y ffocws yn symud i adferiad yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae'n amlwg y bydd llawer o waith i'w wneud, felly, gan Lywodraeth nesaf Cymru ac, yn sicr, gan y Pwyllgor Cyllid nesaf hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.