– Senedd Cymru am 4:28 pm ar 9 Mawrth 2021.
Eitem 13 ar ein hagenda yw dadl ar gyllideb derfynol 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig hwnnw—Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22, sef cyllideb derfynol y weinyddiaeth hon.
Mae'r amgylchiadau eithriadol sydd wedi llywio'r gwaith o baratoi'r gyllideb eleni yn hysbys iawn, ond rwyf yn falch ein bod wedi ymateb i'r her gyda chyllideb 2021-22 sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn weinyddiaeth sy'n cyflawni ein haddewidion ac yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus wrth iddynt barhau â'u brwydr yn erbyn y pandemig hwn. Pan gyhoeddais y gyllideb ddrafft cyn y Nadolig, addewais gyllid pellach gan ein bod yn deall troeon y pandemig yn well dros fisoedd y gaeaf. Yn y gyllideb derfynol, rwy'n dyrannu mwy na £680 miliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru dros y misoedd nesaf. Mae hyn yn golygu, ynghyd â'r mesurau COVID cynnar a gyhoeddwyd gennym ni yn y gyllideb ddrafft, ein bod yn dyrannu'r holl gyllid COVID a gawsom yn adolygiad gwariant y DU fis Tachwedd diwethaf.
Mae hon yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a rhoi iddynt y sicrwydd y maent yn ei haeddu o ran arian. Mae'r pecyn yn cynnwys mwy na £630 miliwn i'r GIG a llywodraeth leol i'w helpu i gefnogi pobl Cymru dros y chwe mis nesaf. Bydd yr hwb ariannol sylweddol hwn yn cefnogi ein rhaglen frechu sy'n arwain y byd fel y gallwn ni amddiffyn cynifer o bobl â phosibl cyn gynted â phosibl, rhoi hwb i'n gallu i brofi, a rhoi hwb i'n rhaglen olrhain cysylltiadau hynod effeithiol.
Mae hyn hefyd yn cynnwys £206.6 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa galedi llywodraeth leol, a fydd yn cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol, yn darparu cymorth digartrefedd, ac yn sicrhau bod ysgolion yn addasu i'w ffyrdd newydd o weithio. Rydym ni'n parhau i gydnabod yr effaith anghymesur y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar ein bywydau a'n cymunedau, ac rydym ni wedi dyrannu £10.5 miliwn arall i ymestyn y gronfa cymorth dewisol, gan roi cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym ni yn ymateb i'r effaith barhaus ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn darparu £18.6 miliwn arall i ymestyn cymorth bysiau i ail chwarter 2021-22. Rydym yn cydnabod y swyddogaeth bwysig y bydd i gyflogadwyedd a sgiliau yn ein hadferiad. Rydym yn buddsoddi £16.5 miliwn mewn prentisiaethau i gynnal y lefelau presennol o leoedd prentisiaeth yn 2021-22.
Rydym yn Llywodraeth sy'n dyrannu cyllid lle gall gael yr effaith fwyaf. Mae'r pandemig hwn wedi chwalu sylfeini ein heconomi, ac rydym yn cydnabod yr angen i weithredu'n awr i greu swyddi a galw mewn proses o adferiad sy'n dechrau heddiw. Mae ein cyllideb derfynol yn cynnwys ysgogiad cyfalaf o fwy na £220 miliwn i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Mae hyn yn cynnwys £147 miliwn ychwanegol i gynyddu rhaglenni adeiladu tai a £30 miliwn ychwanegol i gyflymu'r rhaglen uchelgeisiol o adeiladu ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, gan helpu i gefnogi twf economaidd, swyddi cynaliadwy a chyfleoedd hyfforddi ar draws y sector.
Gwyddom fod angen sicrwydd ar ein busnesau sydd wedi dioddef waethaf hefyd. Rwy'n neilltuo £200 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth busnes ychwanegol y flwyddyn nesaf os oes angen ymateb i heriau'r pandemig sy'n esblygu. Cyn y gyllideb, galwais ar Lywodraeth y DU i ehangu'r pecyn cymorth busnes yn Lloegr, a dyna pam y penderfynais ar unwaith yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU, ar ôl inni gael sicrwydd ynghylch y cyllid sydd ar gael, i gyhoeddi estyniad i'r rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch, gydag uchafswm ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol o dros £500,000, a'r cynllun rhyddhad ardrethi hamdden a lletygarwch gwell am 12 mis.
Cyflwynwyd cyllideb y DU ar adeg dyngedfennol i'r economi, ac, er ein bod yn croesawu'r £735 miliwn ychwanegol o refeniw i Gymru, ni chawsom yr un geiniog yn ychwanegol mewn cyfalaf y flwyddyn nesaf i gefnogi'r adferiad economaidd. Yn siomedig, nid oedd unrhyw arwydd o gymorth hirdymor gwirioneddol i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Cafodd y Canghellor gyfle i wneud y cynnydd mewn credyd cynhwysol ychwanegol yn barhaol, ond ni wnaeth, ac mae'r newidiadau tymor hwy i lwfansau treth personol yn dreth lechwraidd a fydd yn taro'r rhai â'r cyflogau isaf galetaf. Yr un mor bryderus oedd y distawrwydd ar bwysau gwario i wasanaethau cyhoeddus, heb unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer adferiad yn y GIG a blaenoriaethau strategol eraill, gan gynnwys diwygio gofal cymdeithasol yn ehangach.
Ni wnaeth cyllideb y DU unrhyw beth i roi hyder ynghylch patrwm cyllid cyhoeddus yn y dyfodol y tu hwnt i 2021-22. Rydym yn wynebu gostyngiad yn ein cyllideb o 2021-22, wedi'i sbarduno'n rhannol gan dynnu cymorth COVID yn ôl, ond hefyd gan ostyngiadau sylfaenol i wariant cyhoeddus arfaethedig sydd wedi'i gynnwys yng nghynlluniau tymor canolig Llywodraeth y DU. Fel y nodwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid:
Mae cynlluniau gwariant tymor canolig y Canghellor yn edrych yn amhosibl o isel.
Yn wahanol i Lywodraeth y DU, rydym ni wedi parhau â'n dull gweithredu penodol a chyfrifol, gan ddarparu cymorth effeithiol yn ystod y pandemig hwn sy'n newid yn gyflym, gan wneud penderfyniadau amserol a darparu cymorth pan fo'i angen. Er mwyn rhoi amser ychwanegol i brynwyr tai gwblhau trafodion, cyhoeddais yr wythnos diwethaf estyniad yn ein cyfnod gostyngiadau treth trafodiadau tir yng Nghymru tan 30 Mehefin. Ddoe cyhoeddwyd pecyn cyllid gwerth £72 miliwn, gan fynd â chyfanswm y buddsoddiad i dros £112 miliwn, i gefnogi athrawon a dysgwyr y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw eleni. Gan adeiladu ar gyllid a gyhoeddwyd gennym ni yn y gyllideb derfynol, ac i gefnogi ein hadferiad, rwyf heddiw'n cyhoeddi £8.7 miliwn ychwanegol yn rhan o gyfanswm buddsoddiad ychwanegol o £18.7 miliwn i gefnogi ehangu ein cynllun cymhelliant cyflogwyr ac i gryfhau ein cynnig prentisiaeth gwaith hyblyg.
Er na allwn ni fychanu maint yr heriau sy'n ein hwynebu, rydym ni wedi rhoi sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn helpu i ailgodi ein heconomi gyda diben cymdeithasol ac amgylcheddol go iawn, ac yn diogelu Cymru rhag effeithiau gwaethaf y pandemig. Rwy'n falch ein bod wedi darparu sylfeini cadarn i'r weinyddiaeth nesaf greu Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal a mwy gwyrdd. Diolch.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr iawn unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma hefyd, y tro yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, a gwneud hynny, wrth gwrs, yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n falch hefyd fod y Gweinidog wedi derbyn neu wedi derbyn mewn egwyddor pob un o'r 36 argymhellion mae'r pwyllgor wedi eu gwneud.
Yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, fe wnaeth y Siambr hon gydnabod yr ansicrwydd ynghylch y cylch cyllideb hwn eto eleni oherwydd oedi wrth gwrs gyda digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig a diffyg ffigurau cyllido at y dyfodol. Ac wrth siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid yn y ddadl honno, fe wnaeth Siân Gwenllian y pwynt perthnasol mai drafft yn wir ystyr y gair oedd y gyllideb ddrafft a bod Llywodraeth Cymru yn dal cronfeydd wrth gefn sylweddol oedd heb eu dyrannu. Er bod y pwyllgor yn cydnabod bod angen rhywfaint o hyblygrwydd eleni i ddelio ag ansicrwydd y pandemig, dyw hynny ddim yn ddelfrydol, wrth gwrs, er mwyn craffu ar y gyllideb yn effeithiol, a ddylai'r dull sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer y gyllideb hon ddim gosod cynsail ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Mae'r gyllideb derfynol hon yn dyrannu £800 miliwn yn fwy na'r hyn a graffwyd arno fe fel rhan o'r gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft. Yn sicr, nid yw'n ddelfrydol ein bod ni'n ystyried cyllideb derfynol yma heddiw, gan fod cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gafodd ei chyhoeddi ddiwrnod ar ôl cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi £735 miliwn yn ychwanegol i Gymru sydd heb ei ystyried fel rhan o'r broses gyllidebol hon. Dwi'n nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gyhoeddiadau polisi yng nghyllideb y Deyrnas Unedig trwy gyhoeddi estyniad i rai elfennau o ryddhad ardrethi annomestig COVID ac estyn y gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir hyd at ddiwedd mis Mehefin, fel y clywon ni nawr gan y Gweinidog. Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi amlinellu'r newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol a goblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig. Mi fydd hyn yn cynorthwyo'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, i ystyried newidiadau posib i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
Mae'r gyllideb derfynol hon yn dyrannu tua £11.2 miliwn ar gyfer materion sy'n ymwneud â Brexit. Fodd bynnag, mae'n hynod siomedig bod cyllideb y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd cyllid i ddisodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddyranu'n uniongyrchol yng Nghymru ar faterion datganoledig trwy gronfa adfywio cymunedol y Deyrnas Unedig a chronfa codi'r gwastad, efallai—y levelling up fund—gan osgoi'r Senedd. Nawr, fel y soniais i wrth y Siambr yn gynharach y prynhawn yma yn ystod y ddadl ar y drydedd gyllideb atodol, bydd y Pwyllgor Cyllid, ynghyd ag aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol ac Ewropeaidd, yn clywed tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yfory ynglŷn â'r gronfa ffyniant cyffredin.
Rŷn ni'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 2, a byddwn yn parhau i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig fel arfer yn cael eu cynnal erbyn dyddiad penodol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan weinyddiaethau datganoledig ddigon o amser i bennu cyllideb a chynnal gwaith craffu ystyrlon. Yn ogystal, rŷn ni'n falch bod argymhelliad 3 wedi ei dderbyn ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod setliadau aml-flwyddyn yn cael eu hadfer mewn pryd ar gyfer cylch cyllideb y flwyddyn nesaf. Am y tair blynedd diwethaf, cafodd y gyllideb ddrafft ei llunio ac fe graffwyd arni o dan amgylchiadau eithriadol yn sgil Brexit a'r pandemig. Mae oedi o ran digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig yn arwain at oedi wrth gyhoeddi cyllidebau drafft Llywodraeth Cymru, ac mae hynny yn ei dro wedi lleihau'r amser sydd ar gael i graffu. Mae hyn yn peri pryder mawr o ystyried y bydd Brexit a'r ymateb ariannol i'r pandemig yn cael effaith ar wariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod.
Nawr, dyma gyllideb olaf y pumed Senedd, wrth gwrs, ac mae sawl her wedi dod yn sgil COVID-19, ac mae'r effeithiau ariannol wedi bod yn sylweddol. Mae'n debygol y bydd ymateb i'r pandemig yn dal i fod yn flaenllaw ac yn rhan flaenllaw o flwyddyn 2021-22, ond rŷn ni'n obeithiol y bydd y ffocws yn symud i adferiad yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae'n amlwg y bydd llawer o waith i'w wneud, felly, gan Lywodraeth nesaf Cymru ac, yn sicr, gan y Pwyllgor Cyllid nesaf hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Ar ôl mwy na dau ddegawd o gyllidebau Llafur ers datganoli, Cymru sydd â'r lefelau cyflog a chyflogaeth isaf o hyd a'r gyfran uchaf o swyddi â chyflogau isel ym Mhrydain a'r lefelau ffyniant isaf a thwf cyflog hirdymor a'r gyfradd dlodi uchaf o holl wledydd y DU. Roedd angen cyllideb arnom ni i drwsio'r sylfeini ac adeiladu economi fwy diogel a ffyniannus ar gyfer y dyfodol. Yn hytrach, yr hyn a gawsom oedd cyllideb a oedd yn papuro dros y craciau yn hytrach nag ailadeiladu'r sylfeini; cyllideb sy'n dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn deall yr hyn a aeth o'i le yn ystod y ddau ddegawd diwethaf na'r hyn sydd ei angen yn y nesaf. Mae gwariant Llywodraeth Cymru wedi cynyddu 4.2 y cant mewn termau arian parod i £22.3 biliwn, gydag 83 y cant o'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU. Dim ond oherwydd y camau doeth a gymerwyd gan Lywodraeth y DU ers 2010 i leihau'r diffyg a etifeddwyd y bu hyn yn bosibl. Gallent fod wedi mynd yn gyflymach, ond byddai hynny wedi creu toriadau mwy. Gallent fod wedi gweithredu'n gynt, ond byddai hynny wedi arwain at orfodi toriadau mwy. Wedi'r cyfan, fel y gŵyr unrhyw un sydd erioed wedi cael benthyg, mae'r rhai sy'n cael benthyg yn cael benthyg ond y rhai sy'n rhoi benthyg sy'n gosod y telerau.
Er bod dyfodol y pandemig yn ansicr, mae'n destun pryder bod adroddiad dadansoddi cyllidol Cymru y mis hwn wedi canfod nid yn unig fod Llywodraeth Cymru wedi methu â dyrannu'r £650 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar 15 Chwefror, gan drosglwyddo'r cyllid i'r flwyddyn nesaf, ond hefyd, gyda symiau canlyniadol ychwanegol o gyllideb y DU a newidiadau i refeniw datganoledig rhagamcanol, mae hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru tua £1.3 biliwn ar hyn o bryd i'w ddyrannu mewn cyllidebau atodol yn y dyfodol. Nawr, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud darpariaethau ar gyfer argyfyngau. Fodd bynnag, mae £1.3 biliwn yn ormodol, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn gwybod ers peth amser y byddai cyllid ychwanegol ar gael. Er bod y Gweinidog yn beio hyn ar hysbysiad hwyr gan Lywodraeth y DU, mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi'i gwneud hi'n glir y bu'n rhoi gwarant ymlaen llaw o gyllid adnoddau ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru am sicrwydd i'w helpu i gynllunio eu trefniadau cymorth eu hunain yng Nghymru. Cadarnhaodd adolygiad o wariant y DU fis Tachwedd diwethaf hefyd £1.3 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru, gan ddod â chyllid ar sail Barnett a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru i £16.6 biliwn yn 2021-22. Mae hyn yn cyfateb i tua £123 y pen am bob £100 y pen a wariwyd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr ar faterion a ddatganolwyd yng Nghymru. Cadarnhaodd hefyd y gall Llywodraeth Cymru gario unrhyw gyllid atodol ychwanegol gan Lywodraeth y DU sy'n seiliedig ar Barnett, ymlaen i 2021-22, ond ychwanegodd mai mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu sut i wneud defnydd llawn o hyn er mwyn cyflawni cyfrifoldebau datganoledig.
Roedd newidiadau trethiant yn y gyllideb mor atchweliadol ag yr oeddent cyn i'r pandemig daro. Mae'r dreth ar gyfleoedd uchelgeisiol yn ôl, gyda threth trafodiadau tir ar gyfer cartrefi a brynwyd rhwng £180,000 a £250,000 yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, ar 3.5 y cant. Mae fy ngwaith achos yn dangos bod hynny'n achosi problem enfawr i bobl, yn enwedig y rheini o Gymru sydd am symud yn ôl o dros y ffin yn Lloegr. Ac ardrethi busnes yw'r uchaf yn y DU o hyd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ar y Llywodraeth Lafur hon i ddefnyddio'r £650 miliwn a roddwyd iddynt gan Lywodraeth y DU ar 15 Chwefror i weithredu rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn honni nad oedd yn gallu cyhoeddi rhyddhad ardrethi busnes yn gynt, gan nad oedd cynlluniau ariannu Llywodraeth y DU wedi'u cyhoeddi. Fodd bynnag, mae Llywodraeth yr Alban wedi amlygu mai nonsens yw hyn drwy gyhoeddi y bydd hi yn diddymu ardrethi busnes ar gyfer y diwydiannau manwerthu, hamdden, lletygarwch ac awyrennau ar 15 Chwefror, gan ddefnyddio ei £1.1 biliwn o gyllid canlyniadol sy'n deillio o wariant coronafeirws Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd bryd hynny. Roedd cyllid i gyhoeddi'r polisi hwn ar gael, ond dewisodd y Llywodraeth Lafur hon unwaith eto betruso, oedi a chwarae gwleidyddiaeth plaid a bwrw'r cyfrifoldeb ar eraill, gan beidio â rhoi'r eglurder hwnnw y mae mawr ei angen ar gyllid i fusnesau yng Nghymru.
Nawr mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld na fydd allbwn Cymru yn gwella i lefelau cyn COVID-19 tan fisoedd ar ôl y DU. Mae economi Cymru yn gofyn am newid cyfeiriad radical, yn hytrach na mwy o'r un polisïau economaidd hen a gynhyrchwyd gan Lywodraethau Llafur Cymru un ar ôl y llall. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun adfer i Gymru, nid yn unig i warchod Cymru drwy bandemig COVID-19, ond hefyd i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar Gymru ar ôl dros 20 mlynedd o fethiannau Lywodraeth Lafur Cymru un ar ôl y llall. Mae'n destun pryder mawr felly nad yw'r gyllideb hon yn cyflawni'r chwyldro ariannol sydd ei angen i ddarparu cynllun adfer ar gyfer economi a phobl Cymru.
Dyma'r gyllideb rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn gobeithio ei hetifeddu mewn ychydig dros ddeufis, ac felly mi wnaf i ddechrau efo'r rhannau ohoni rydyn ni'n eu croesawu, er ein bod ni'n credu y gallai'r Llywodraeth fod wedi mynd ymhellach. Y £380 miliwn ychwanegol i'r NHS. Rydyn ni'n croesawu unrhyw arian ychwanegol i iechyd a gofal ar hyn o bryd, o ystyried y pwysau acíwt yn ystod y pandemig, ac felly hefyd y £50 miliwn i'r gwaith olrhain. Dwi'n falch bod y gronfa galedi llywodraeth leol wedi derbyn dyraniad ychwanegol o £207 miliwn, efo dyraniad pellach o £224 miliwn i addysg a thai, a £200 miliwn at gefnogaeth i fusnes. Mae hynny i'w groesawu.
Ond wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod mai crafu'r wyneb mae hynny'n ei wneud o ran ystyried anghenion busnesau a'r economi Gymreig ar ôl blwyddyn o gyfyngiadau COVID. Fanna rydyn ni'n dechrau cyrraedd at y pwynt lle dwi'n gweld y gyllideb yma fel un sydd ddim yn ddigon beiddgar. Diwrnod ar ôl cyhoeddi'r gyllideb yma, mi gyhoeddwyd dros £700 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol o ganlyniad i benderfyniadau i gynyddu gwariant yn Lloegr. Felly, mae yna rywfaint o hyblygrwydd ychwanegol yn fan hyn, ac mae yna falans, onid oes, i'w daro?
Fel gwnes i ddadlau wrth i ni drafod y drydedd gyllideb atodol yn gynharach y prynhawn yma, rydyn ni wedi cefnogi'r elfen yma o bwyll yn sut i wario'r arian ychwanegol sydd wedi dod yn ystod y flwyddyn, yr angen i ddal rhywfaint o arian yn ôl yn hytrach na gwario'r cyfan heddiw, fel mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei annog, sy'n agwedd braidd yn anghyfrifol o ystyried sut mae amgylchiadau'r pandemig wedi bod yn newid o hyd. Ond pan rydyn ni'n sôn am gyllideb flwyddyn gyfan fel hyn, dwi'n meddwl bod yna le i fapio allan yn gliriach ac, mewn sawl ffordd, yn fwy radical sut i ddefnyddio cyllid ychwanegol dros y flwyddyn sydd o'n blaenau ni.
Felly, dwi eisiau mwy o eglurder ar gefnogaeth i fusnes, er enghraifft. Pa gamau nesaf sydd i ddod? Ydy'r Gweinidog cyllid a'r Gweinidog economi wedi trafod sut orau i wario'r arian sydd rŵan ar gael uwchlaw'r hyn y cynlluniwyd ar ei gyfer o? Ydy cynnig parhad efo lefel presennol prentisiaethau ar gost o £16.5 miliwn yn wir yn ddigon da yn yr hinsawdd yma? Dwi ddim yn meddwl ei fod o pan rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu her fawr iawn o ran diweithdra ieuenctid. Mi ddylem ni, siawns, fod yn trio cynyddu llefydd hyfforddi a phrentisiaethau rŵan. Ac mewn Llywodraeth o fis Mai, rydyn ni ym Mhlaid Cymru eisiau cyflwyno gwarant cyflogaeth i bobl ifanc 16 i 24 oed, ochr yn ochr â phrentisiaeth neu gwrs coleg neu brifysgol—fersiwn fodern o new deal Roosevelt gyda'r pwyslais ar adeiladu dyfodol gwyrdd.
Roedd yna gyfle, dwi'n meddwl, go iawn i Lywodraeth Cymru osod ei stondin ar gyfer adferiad, ond hefyd ar gyfer creu tegwch lle mae yna annhegwch ar hyn o bryd. Dwi'n poeni wrth edrych ar ffigurau sydd gennym ni o'n blaenau. Dwi'n gweld bod £1.3 biliwn ar ôl i'w ddyrannu dros y flwyddyn nesaf, yn ôl y tîm dadansoddi cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Dwi'n poeni wrth edrych ar hynny, a gweld ar yr un pryd pobl wirioneddol fregus mewn angen rŵan. Felly, rydyn ni o'r farn bod yna arian ar ôl ar gyfer ymestyn cinio ysgol am ddim ac i rewi'r dreth gyngor—pethau fuasai wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl. Ydy, mae fyny i Aelodau Llafur i ateb i'w etholwyr nhw pam eu bod nhw wedi pleidleisio yn erbyn ymestyn cinio ysgol am ddim, ac i beidio penderfynu blaenoriaethu tegwch yn y ffordd yma, lle rydym ni'n meddwl bod yna gyfle gwirioneddol i fod wedi gwneud hynny. Ond fel dwi'n dweud, roedd yna gyfle i osod stondin ar gyfer adferiad economaidd yn fan hyn hefyd.
Mae 20 mlynedd o arwain Llywodraeth Cymru wedi gweld Llafur, dwi'n meddwl, yn methu ag arwain y math o drawsnewidiad fyddai yn gosod yr economi Gymreig ar lwybr tuag at swyddi'n talu'n well, sgiliau uwch, ac yn y blaen, ac mae yn gyfle rŵan ac mae'n rhaid cymryd y cyfleon. Mae yna weledigaeth, dwi'n meddwl, yn cael ei gosod gan Blaid Cymru o ddyfodol—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben.
—sy'n cael ei yrru gan—mi wnaf i ddod i ben rŵan—stimwlws economaidd gwyrdd, yn creu 60,000 o swyddi, fel rydym ni'n sôn amdano fo, ateb ein anghenion o ran yr hinsawdd ac o ran cyflogaeth a chyflogau uwch ar yr un pryd, a thanio'r economi Gymreig. A dyna pam dwi'n credu y byddai'r gyllideb Gymreig mewn gwell dwylo yn nwylo Plaid Cymru ar ôl yr etholiad ym mis Mai, a pham fyddwn ni'n pleidleisio'n erbyn y gyllideb yma.
Hoffwn groesawu datganiad y Gweinidog y prynhawn yma a'r gyllideb hon. Mae'n debyg mai dyma'r gyllideb anoddaf y mae unrhyw un ohonom ni yn y fan yma wedi'i gweld, ac yn sicr yn y tair Senedd yr wyf wedi eistedd ynddynt, dyma'r flwyddyn anoddaf i unrhyw Lywodraeth ar unrhyw adeg. Felly, rwy'n credu beth bynnag yw ein gwleidyddiaeth unigol a beth bynnag yw ein barn unigol am y penderfyniadau y mae'r Gweinidog yn eu gwneud, rwy'n credu y dylem ei llongyfarch a diolch iddi hi, ei thîm a'r Llywodraeth sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod arian yn mynd drwy'r system ac allan trwy'r drws, gan gynnal a chefnogi swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn y cyfnod anoddaf.
Hoffwn ymdrin â thair agwedd ar y gyllideb y prynhawn yma. Yn gyntaf oll, gwariant cyffredinol ar COVID dros y cyfnod hwn; yn ail, effaith cyllideb y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf; ac yn olaf, cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad a arweinir gan fuddsoddiad, a arweinir gan swyddi, ar ôl COVID. Mae'n deg dweud y bu ein trafodaethau'n canolbwyntio ar COVID dros y flwyddyn ddiwethaf ac wrth edrych yn ôl dros y gyllideb bresennol, ond mae hefyd wedi bwrw cysgod dros ein trafodaethau a'n dadleuon ar y gyllideb hon ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd.
Rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth a'r cymorth sydd ar gael i bobl, ac rwy'n parhau i wneud hynny. Mae'r cymorth brys a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf yn rhywbeth sydd wedi cynnal llawer o deuluoedd a llawer o gymunedau ledled y wlad, ond rydym yn gwybod nad yw hynny'n mynd i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ac rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth yn rhoi'r strwythurau, y fframweithiau a'r cyllid ar waith i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gefnogi pobl dros y cyfnod sydd i ddod.
Yr ail agwedd yw cyllideb y DU. Yr hyn a welsom ni yr wythnos diwethaf oedd cyni gyda gwell cysylltiadau cyhoeddus: mwy o fuddsoddiad ym mrand ac uchelgeisiau'r Canghellor ei hun na buddsoddiad yn y bobl a gynrychiolwn. Gwelsom gonsuriaeth, geiriau cynnes ond mwy o'r cyni aflwyddiannus. A wyddoch chi, gwrandewais ar Aelodau Ceidwadol yn darllen eu llinellau'n slafaidd? Byddwn yn dweud wrth yr Aelodau hynny: gwnewch eich gwaith eich hun, darllenwch eich hunain, gwnewch eich ymchwil eich hun, a'r hyn a welwch fydd rhywbeth gwahanol. Byddwch yn gweld y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn disgrifio ffigurau'r gyllideb fel rhai sy'n amhosibl o isel. Fe welwch y Resolution Foundation yn dweud nad yw'n teimlo fel diwedd cyni, yn enwedig os ydych chi'n rhedeg awdurdod lleol neu garchar. Yr hyn yr ydych chi'n ei weld yw cyllideb i Gymru sydd 4 y cant yn is mewn termau real na degawd yn ôl, a'r hyn yr ydych chi'n mynd i'w weld yw gwasgfa wirioneddol ar wasanaethau cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni eisoes wedi gweld barn Llywodraeth y DU am weithwyr y gwasanaeth iechyd. Wel, rydym ni'n mynd i weld hynny'n cael ei ymestyn dros y degawd nesaf i bob gweithiwr gwasanaeth cyhoeddus, ac mae hynny'n rhywbeth i beidio â bod yn falch ohono ond i fod â chywilydd mawr ohono.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, beth yw'r cynlluniau ar gyfer adferiad sy'n cael ei arwain gan fuddsoddiad ac sy'n cael ei arwain gan swyddi? Mae gwaith y Gweinidog cyllid a Gweinidogion eraill o fewn Llywodraeth Cymru wedi creu argraff fawr arnaf, gan gronni arian i fuddsoddi yn ein cymunedau. Rydym eisoes yn gwybod nad oes cyllid cyfalaf ychwanegol yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond mae wedi mynd ymhellach na hynny, ac rydym wedi gweld rhagor o gonsuriaeth ac addewidion wedi torri. Mae Llywodraeth y DU yn gwbl anonest yn ei dull gweithredu. O'r gronfa ffyniant gyffredin i'r gronfa codi'r gwastad, rydym yn gweld arian yn cael ei dynnu allan o Gymru, buddsoddiad yn cael ei dynnu allan o Gymru. Rydym yn gweld Llywodraeth sy'n pryderu am ei delwedd a'i hunaniaeth ond un nad yw'n poeni dim am ei phobl, ac mae hynny'n fy mhoeni i'n fawr, oherwydd bydd yn rhaid inni weld mwy o fuddsoddi mewn pobl a strwythurau a busnesau yn y flwyddyn nesaf nag yr ydym ni wedi'i weld ers degawdau, ac nid yw'n cael ei wneud yn deg ac nid yw'n cael ei wneud ar y lefel y mae angen iddi ddigwydd. Rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn sianelu arian i seddi'r Torïaid yng ngogledd Lloegr ac yn tynnu arian allan o Gymru, yn torri addewidion ar ddisodli cyllid Ewropeaidd, torri addewidion ynghylch sicrhau buddsoddiad, torri addewidion ynghylch bod yn chwaraewr teg. Rydym yn gweld Llywodraeth anonest yn gweithredu mewn ffordd na allwn fyth fod wedi credu y byddai Llywodraeth yn gweithredu yn y gorffennol.
Felly, i gloi, byddaf yn cefnogi Llywodraeth Cymru y prynhawn yma o ran y Bil hwn, ond ni fydd hynny'n syndod i neb. Ond yr hyn yr wyf eisiau ei wneud hefyd dros y flwyddyn i ddod, ac os caf fy ailethol ym mis Mai i gynrychioli Blaenau Gwent, yw y byddaf i'n ymgyrchu dros y buddsoddiad sydd ei angen ar y fwrdeistref hon, sydd ei angen ar ein pobl, bod angen i'r cymunedau hyn wella o COVID, ac mae hynny'n golygu Llywodraeth Cymru yn darparu'r buddsoddiad hwnnw, oherwydd rydym ni'n gwybod na allwn ymddiried yn y Torïaid i wneud hynny.
Er bod rhai agweddau ar gyllideb Llywodraeth Cymru sydd i'w croesawu, megis yr arian ychwanegol ar gyfer y GIG, yn gyffredinol mae llawer yn y cynllun gwariant hwn i fod yn anfodlon yn ei gylch.
Un o'm prif bryderon yw diffyg cymorth busnes. Nid argyfwng iechyd yn unig fu'r pandemig coronafeirws; mae wedi bod yn drychineb economaidd. Cymru a brofodd y cynnydd mwyaf mewn anweithgarwch economaidd mewn unrhyw wlad yn y DU. Gallai canlyniad economaidd ein hymateb i'r pandemig hwn gael ei deimlo am genedlaethau. Nid ydym yn gwybod eto beth yw gwir gost economaidd y pandemig hwn; faint o fusnesau fydd yn gorfod cau eu drysau'n barhaol; faint o swyddi a gollir; a faint o bobl fydd yn cael eu gwthio i dlodi o ganlyniad. Roedd 28 y cant o bobl mewn rhannau o'm rhanbarth i eisoes yn byw mewn tlodi. Faint o bobl ifanc fydd yn gweld eu cyfleoedd mewn bywyd yn lleihau? Mae llawer o ddaroganwyr economaidd yn credu y gallai'r pandemig ail-greu dirwasgiad mawr y ganrif ddiwethaf. Gwelodd y DU ei gostyngiad mwyaf mewn allbwn ers canrifoedd—y gostyngiad mwyaf mewn CDG blynyddol ers rhew mawr 1709. Felly, er inni gael rhywfaint o newyddion da gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd economi'r DU yn tyfu yn y dyfodol, nid yw'r ffaith y bydd yr economi fyd-eang yn parhau i wastatáu yn rhoi darlun gwych. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyfyngu ar y difrod. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu rhaglen gynhwysfawr o gymorth busnes yn y gyllideb hon yn warthus.
Mae hefyd yn eironig eu bod, yn gynharach y prynhawn yma, wedi dewis gweithredu dyletswydd anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010. Felly, er ei bod yn wir fod gan Lywodraeth Cymru rywfaint o gymorth busnes mwyaf hael y DU, mae hefyd yn wir fod llawer gormod o fusnesau a phobl yn cael eu gadael ar ôl. Mae llawer gormod o fusnesau nad ydynt yn gymwys i gael cymorth, oherwydd nid yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo eu sector busnes, ac mae'r rhai sy'n gymwys yn gweld y prosesau ymgeisio'n ddryslyd, ac maen nhw eu hunain wedi drysu. Mae'r ffaith mai awdurdodau lleol yw canolwyr rhai pecynnau cymorth wedi arwain at loteri cod post o gefnogaeth, gyda busnesau tebyg yn cael gwahanol lefelau o gymorth, oherwydd i bwy y maen nhw'n talu eu hardrethi busnes.
Cawsom gyfle perffaith i gyflwyno pecyn cymorth busnes pwrpasol i helpu economi Cymru i oroesi storm COVID ac adfer, ond mae'r gyllideb hon wedi siomi busnesau Cymru. O ganlyniad i wariant pandemig Llywodraeth y DU, cafodd Cymru £0.66 biliwn o bunnau ychwanegol. O'r £30 miliwn ychwanegol o wariant ar adnoddau a ddyrannwyd i brif grŵp gwariant yr economi, ni wariwyd yr un geiniog ar helpu busnesau Cymru. Bydd hanner yr arian yn cael ei wario ar gymorth bysiau a'r llall ar ddysgu yn y gweithle. Ac er bod y ddau yn achosion teilwng, nid dyna sydd ei angen ar economi Cymru ar hyn o bryd. Ble mae'r hwb i'r galon a addawodd Canghellor y Trysorlys i fusnesau Lloegr? Yn anffodus, mae busnesau Cymru yn parhau i gael eu siomi a'u gadael ar ôl gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, ac o ganlyniad, bydd pobl Cymru'n dioddef a bydd tlodi'n parhau i dyfu, er gwaethaf dyletswydd newydd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol. Diolch yn fawr. Diolch.
Yn fy nghyfraniad byr i'r ddadl hon, roeddwn eisiau gneud ychydig o sylwadau cyffredinol ar un neu ddau yn unig o'r meysydd allweddol yn y gyllideb derfynol. Gwnaf agor drwy ddweud fy mod yn falch iawn o fod yn ei chefnogi, oherwydd yn wahanol i gyllideb Llywodraeth Dorïaidd y DU, mae'r gyllideb hon yng Nghymru yn rhoi ein GIG a'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn gyntaf—gwasanaethau cyhoeddus sydd unwaith eto wedi dangos eu gwir werth a'u pwysigrwydd i ni—tra bod Llywodraeth y DU unwaith eto wedi dangos yn glir bod hyn yn werth nad ydynt yn ei gydnabod. Bydd y gyllideb hefyd yn rhoi cymorth pellach i fusnesau Cymru, er gwaethaf yr hyn y mae Caroline Jones yn ei ddweud. Rydym i gyd yn gobeithio y byddant yn dechrau gadael dyddiau gwaethaf y pandemig hwn ar eu hôl, oherwydd mae busnesau wedi bod yn byw ar fin y gyllell dros y flwyddyn ddiwethaf, ond yng Nghymru, rydym wedi cael Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'w cefnogi'n fwy hael nag yn unman arall yn y DU. Pwy a ŵyr faint o fusnesau a swyddi a fyddai fel arall wedi'u colli'n barhaol i'n heconomi heb y cymorth hwnnw?
Bydd y gyllideb hefyd yn sicrhau bod y broses anhygoel o gyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf yn ein hanes yn parhau i gael ei chefnogi ac yn adeiladu ar lwyddiant ein system tracio ac olrhain a wnaed yng Nghymru—system, unwaith eto, a ddarperir yma gan ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio o blaid ac er budd gwasanaethau cyhoeddus ac nid er elw preifat. Diolch byth, oherwydd y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, mae Cymru wedi osgoi sgandal y biliynau a wastraffwyd yn Lloegr. Rwyf hefyd yn falch o weld y gefnogaeth a roddir i adeiladu mwy o gartrefi. Rydym wedi gweld cynnydd mor dda ynghylch hyn eisoes, ond mae cymaint mwy i'w wneud o hyd os ydym ni am ddiwallu anghenion cymaint o bobl a welaf yn fy etholaeth sydd angen cartref fforddiadwy, boed hynny i'w brynu neu i'w rentu.
Ond wrth gwrs, gwyddom y bydd llawer o'n hamcanion yn cael eu tanseilio os nad yw Canghellor y DU yn rhoi hwb cynaliadwy i'n gwariant. Dyma lle yr wyf yn cytuno'n llwyr ag Alun Davies mai ein neges i'r Canghellor yw nad dyma'r amser i ddechrau tynhau llinynnau'r pwrs. Os yw'r 10 mlynedd diwethaf wedi dweud unrhyw beth wrthym ni, nid yw cyni yn ffordd gynaliadwy o reoli'r economi, gan ei fod yn ymgorffori ac yn dyfnhau anghydraddoldeb. Gadawodd cyni ein gwasanaethau cyhoeddus yn anghyflawn i ymdrin ag argyfwng mor enfawr â'r pandemig. Gadawodd y rhan fwyaf o'r bobl agored i niwed yn ein cymdeithas hyd yn oed yn fwy agored i effaith y pandemig a gwanhau llawer o sectorau o'n heconomi y bydd angen cymorth arnyn nhw am flynyddoedd lawer i ddod os ydym am ailgodi'n decach ar ôl yr argyfwng hwn. Nid dyma'r amser o gwbl i ddychwelyd at gyni'r Torïaid. Dyma'r amser i ailgodi'r wlad hon fel bod gennym ni gymdeithas decach ac economi decach. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi dangos i ni na fydd yn gwneud hynny, ond mae'r gyllideb hon, a ddarperir gan Lywodraeth Lafur Cymru, yn dangos sut y gallwn ni wneud hynny. Rwy'n falch o gefnogi'r gyllideb hon, Llywydd, ac rwy'n falch o gefnogi Llywodraeth Lafur Cymru.
Rwy'n falch iawn o gefnogi'r gyllideb hon—cyllideb wirioneddol anodd. Gyda'r diffyg gallu i ragweld mwy na blwyddyn ymlaen llaw, credaf y bu hyn yn ddeallus iawn mewn sawl ffordd yn rhai o'r dewisiadau a'r blaenoriaethau a wnaed. Achosodd imi fyfyrio, mewn gwirionedd, ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf, er—fel yr oedd Dawn Bowden, fy nghyd-Aelod, yn ei ddweud—heriau cyni, ac yna i goroni'r cyfan, heriau'r pandemig.
Trof at y gyllideb hon yn y man a sut y mae'n effeithio ar fy etholaeth. Rwy'n edrych dros y pum mlynedd diwethaf yn fy ardal i, ac nid oes un dref na chymuned nad yw wedi cael ysgol newydd wedi'i hadeiladu sy'n effeithio ar ei phlant ysgol gynradd neu uwchradd, neu goleg sydd wedi cael buddsoddiad. Dyma'r buddsoddiad mwyaf ers y 1960au yn seilwaith ein hysgolion a'n colegau, ac mae hynny wedi dod o dan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Wrth inni edrych ymlaen, mae gennym ymrwymiadau yno o dros £50 miliwn o ran ysgolion band B yr unfed ganrif ar hugain, wrth symud ymlaen o 2021 i 2026. Gwn y bydd mwy o ysgolion. Bydd pob un o'r ysgolion Fictoraidd hynny, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw bellach wedi mynd, yn cael eu trawsnewid yn ganolfannau dysgu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ein pobl ifanc.
Edrychaf ar y buddsoddiad mewn teithio llesol, parc technoleg Pencoed—£2.5 miliwn—y bron i £50 miliwn sydd wedi'i sicrhau i'r rhan hon o ddinas-ranbarth Caerdydd, i Ben-y-bont ar Ogwr ac Ogwr. Rydym yn gobeithio cael cyhoeddiad da iawn o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf a fydd yn caniatáu i ardal y gwn fod y Gweinidog yn ei hadnabod yn dda iawn o'i chefndir, safle strategol Ewenni—rydym yn gobeithio cael newyddion da am hynny fel rhan o gyllid bargen ddinesig a chyllid Llywodraeth Cymru, er mwyn caniatáu i hwnnw gael ei adfer yn dir llwyd, fel y gallwn fwrw ymlaen â datblygiad ar raddfa fawr. Mae hyn er gwaethaf yr heriau sydd gennym.
Os edrychwch ar Neuadd y Dref Maesteg, mae buddsoddiad o £7 miliwn yno. Gwn ein bod yn colli'r arian Ewropeaidd nawr, ac nid yw cronfa ffyniant gyffredin y DU i'w gweld yn unman ar hyn o bryd, ond mae gennym arian Ewropeaidd ac arian Llywodraeth Cymru yn dod i mewn i drawsnewid yr adeilad eiconig hwnnw, a adeiladwyd gyda cheiniogau'r glowyr o'r dref hon, fel llawer ar draws ardaloedd y Cymoedd. Bydd nawr yn cael ei drawsnewid yn lleoliad eiconig, fel yr hyn a wnaethant gyda Neuadd Gwyn yng Nghastell-nedd, ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae gennym dai gofal ychwanegol wedi'u hadeiladu ar gost o £3 miliwn yn Nhondu ac ym mhen uchaf cwm Llynfi, gan ddarparu nid yn unig gofal preswyl i bobl hŷn, ond gofal cofleidiol i'r henoed, gan gynnwys byngalos, lle gall pobl symud o fflatiau i fyngalos y tu allan, ac ati, wrth i'w cyflwr newid.
Dyna pam yr wyf yn credu ei bod hi'n werth myfyrio, wrth i ni edrych ar y gyllideb hon, wrth symud ymlaen, ar yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei gyflawni yn y pum mlynedd hyn, er gwaethaf, rhaid imi ddweud, ben ôl y cyni. Credaf y bu hi'n rhyfeddol. Mae wedi cael blaenoriaethau da. Mae wedi bod ynghylch ein plant, mae wedi bod ynghylch ein henoed, mae wedi bod ynghylch swyddi a sgiliau i gael pobl i mewn i swyddi hefyd, gydag adeiladu cartrefi ac ysgolion a datblygu priffyrdd ac ati.
Gadewch imi sôn am rai o'r agweddau ar hyn a pham y byddaf yn cefnogi hon heddiw. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod wedi llwyddo i ddod o hyd i dros £630 miliwn ar gyfer ein GIG ac ar gyfer llywodraeth leol, nid yn unig mewn ymateb i'r pandemig, ond y mathau ehangach o straen sydd arnyn nhw. Ar ryw adeg, hyd yn oed gyda'r heriau, bydd yn rhaid i Lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol ymdrin â phen ôl hir cyni, sydd wedi gwastrodi rhannau o lywodraeth leol. Maen nhw wedi gwneud gwaith anhygoel, a'n GIG a'n gofalwyr, dan bwysau mawr. Ond, mae'r £630 miliwn ychwanegol hwnnw i'w groesawu'n fawr yn wir.
Croesawaf yn fawr y buddsoddiad ychwanegol o £220 miliwn i adeiladu tai ac ar gyfer y rhaglen ysgolion. Gwn fy mod, yn fy ardal i, wedi cerdded i mewn i'r cartrefi sy'n cael eu hadeiladu gyda'r arian hwnnw. Rwyf wedi cyffwrdd â'r waliau, wedi gweld y trydan yn cael ei gysylltu, wedi gweld y bobl yn eistedd yno, yn adeiladu'r cartrefi hyn. Dyna yw diben yr arian hwn. Nid brics a morter yn unig sy'n bwysig ond pobl mewn swyddi ar adeg pan fydd ei angen arnom fwyaf. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw'r rhain. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, o ran pawb arall yn y Cabinet, eu bod yn flaenoriaethau Llafur Cymru ar waith hefyd, ac rwy'n cymeradwyo hynny'n llwyr.
Rwyf eisiau dweud y bydd yn anodd i'r Llywodraeth nesaf a ddaw i mewn. Bydd hynny'n wir, yn bennaf oherwydd ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn dileu llawer o'r gefnogaeth yr ydym wedi'i gweld o'r blaen o gyllid yr UE. Nid yw cronfa ffyniant gyffredin y DU ac ati i'w gweld yn unman o gwbl o hyd. Mae'n edrych fel gwleidyddiaeth pot mêl i mi. Ond, mae angen i ni barhau gyda'r gyfres hon o flaenoriaethau. Yn y pen draw, mae'n ymwneud â gofalu am y cymunedau sydd eu hangen fwyaf, a chadw pobl mewn swyddi, nawr ac i'r dyfodol hirdymor hefyd, a rhoi gobaith i bobl. Dyna mae'r gyllideb hon yn ei wneud. Mae'n rhoi gobaith i bobl, hyd yn oed yn y cyfnod mwyaf heriol. Felly, da iawn, Gweinidog, a diolch am yr hyn yr ydych wedi'i wneud, nid yn unig nawr, ond yn y blynyddoedd a aeth heibio hefyd.
Mae'n ddigon posibl y bydd y gyllideb hon yn cael ei disodli gan gyllideb sydd wedi newid yn sylweddol yn y gyllideb atodol gyntaf a gynhyrchir ar ôl mis Mai, yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad. Er bod cyllid y dreth gyngor wedi'i bennu ar gyfer y flwyddyn, gellir naill ai cynyddu neu leihau pob maes gwariant arall. Gyda llai na naw wythnos i fynd tan y diwrnod pleidleisio, byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cynhyrchu eu cynlluniau gwariant eu hunain, ac yn gwneud iddyn nhw gydbwyso. Mae Plaid Cymru wedi nodi nifer fawr o feysydd y maen nhw eisiau cynyddu gwariant ar eu cyfer, ond nid ydyn nhw wedi nodi o ble y mae'r cyllid hwnnw'n dod. Mae gan y Ceidwadwyr bolisi o dorri trethi a chynyddu gwariant, sydd, fel y gwyddom i gyd, yn amhosibl.
Er y byddaf yn cefnogi'r gyllideb, nid yw'n gefnogaeth anfeirniadol. Yn gyntaf, rwy'n siomedig na ddaethpwyd o hyd i arian i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant rhieni ar gredyd cynhwysol o fis Medi pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf. Gobeithio y caiff hyn ei ddatrys yn y gyllideb atodol gyntaf.
Yn ail, nid wyf yn credu bod y gyllideb hon ar gyfer byd ar ôl COVID, gyda disgwyliad o ddychwelyd i fis Mawrth 2020 yn bennaf. Mae'n ymddangos mai dyna thema llawer iawn o bobl sydd wedi bod yn siarad o'm blaen i. Gweithio gartref, manwerthu ar-lein a chyfarfodydd ar-lein yw'r normal newydd. Bydd rhywfaint o ddychwelyd i weithgarwch cyn mis Mawrth 2020 yn y meysydd hyn. Rydym wedi gweld y newidiadau a grybwyllir uchod yn dod yn normal newydd, sef y cyfeiriad yr oeddem yn symud iddo cyn COVID. Gwn fod nifer o bobl o'r farn bod y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn mynd i fod ynghylch deallusrwydd artiffisial. Roedden nhw'n anghywir; mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn ymwneud â gweithio gartref.
Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ohirio cynlluniau ffyrdd nad ydynt wedi dechrau eto nes i ni weld maint y galw. Yn sicr, byddwn unwaith eto'n annog Llywodraeth Cymru i fod yn wyliadwrus iawn o ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol. Ychydig o dystiolaeth a ganfu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod buddsoddiad y Llywodraeth mewn mwy na 700 o brosiectau cyhoeddus-preifat presennol wedi sicrhau budd ariannol. Gall cost ariannu prosiectau cyhoeddus yn breifat fod hyd at 40 y cant yn uwch na dibynnu ar arian y Llywodraeth yn unig, yn ôl archwilwyr. Mae unrhyw un sy'n credu bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn arwain at y sector preifat yn cymryd y risg yn twyllo eu hunain. Bydd y risg yn cael ei gynnwys mewn unrhyw gais. Byddai hyd yn oed 10 y cant yn ychwanegol yn costio £10 miliwn am bob contract gwerth £100 miliwn.
Gan droi at gyllideb yr amgylchedd, mae'r amgylchedd bob amser yn brif flaenoriaeth i bawb yn y Siambr, ac eithrio pan gyrhaeddwn amser y gyllideb. Yna mae'n lleihau mewn pwysigrwydd, yn anffodus. Rwy'n croesawu rhai o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud o ran yr amgylchedd, megis mwy o ddyrannu cyllideb ar gyfer tlodi tanwydd. Gobeithio y bydd yn ddigon i gyflawni cynnydd i gyrraedd y targed tlodi tanwydd arfaethedig a nodir yn y cynllun. Croesawaf ymhellach arian ychwanegol ar gyfer sicrhau effeithlonrwydd ynni cartref drwy Arbed a Nyth. Mae'r disgwyliad y bydd 5,500 o gartrefi yn elwa ar Arbed a Nyth, ynghyd â'r miloedd lawer sy'n elwa ar gyngor effeithlonrwydd ynni cartref gan Nyth, i'w groesawu. Mae gormod o bobl yn fy etholaeth i ac eraill yn byw mewn cartrefi oer, llaith. Mae llawer gormod o bobl yn byw mewn cartrefi sy'n ddrud iawn i'w gwresogi, sy'n effeithio ar bopeth o'u hiechyd i gyrhaeddiad addysgol eu plant. Rwyf hefyd yn croesawu gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cymorth i gyrff y sector cyhoeddus i'w helpu i ddatblygu cynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Rwyf hefyd yn ymwybodol o sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n defnyddio 'buddsoddi i arbed' i wella effeithlonrwydd ynni. Mae angen i'r sector cyhoeddus arwain ar wella effeithlonrwydd ynni. Rwy'n gobeithio y cawn ddiweddariad pellach ar yr hyn y mae 'buddsoddi i arbed' wedi'i wneud i wella effeithlonrwydd ynni yn y dyfodol agos.
Fis Awst diwethaf, cyflwynwyd y cynllun aer glân i Gymru i bennu cyfeiriad strategol ar ddatblygu capasiti a gallu ledled Cymru. Os credwch, fel fi, fod y gostyngiad tymor byr mewn trafnidiaeth yn debygol o fod yn un hirdymor wrth i fwy weithio gartref, o leiaf rhan o'r amser, yna bydd llygredd aer o gerbydau'n lleihau. Croesawaf yr arian ychwanegol ar gyfer cynlluniau treialu i hyrwyddo cerbydau allyriadau isel iawn ar draws y sector cyhoeddus. Rwyf hefyd yn croesawu'r cynnydd a wnaed gan gynghorau fel Abertawe o ran cynyddu nifer y cerbydau trydan y maen nhw'n eu defnyddio.
Byddwn yn annog y Llywodraeth i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr dros ddeunydd pacio plastig. Buddugoliaeth hawdd fyddai i'r holl bapur lapio a cherdyn fod yn bapur yn unig yn hytrach na phlastig a phapur llawn gliter. Gellir cyflawni hynny am ddim. Er nad yw cyllid ar gyfer cyfrifoldeb ychwanegol cynhyrchwyr yn y gyllideb, dylai Llywodraeth Cymru gael arian o'i chyfran o unrhyw wariant gan San Steffan ar gyfer hyn.
Yn olaf, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar gyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Pan na allant gyflawni gweithgarwch sylfaenol llygredd aer a llygredd dŵr yr arferai Asiantaeth yr Amgylchedd ei wneud, mae yna broblem. Diolch.
Rwyf innau hefyd yn cefnogi'r gyllideb hon, ac unwaith eto cymeradwyaf y Gweinidog a Llywodraeth Lafur Cymru am yr ymrwymiad deuol i fynd i'r afael yn uchelgeisiol â'r ymdrechion llwyddiannus yng Nghymru i drechu'r pandemig ac i ddechrau'r broses o ailgodi ein heconomi'n decach, ar ôl degawd o ddiffyg cyllid a thanfuddsoddi i Gymru. Mae hefyd yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei chyllidebau atodol mewn modd dibynadwy a phriodol ger bron y lle hwn, yn wahanol i Lywodraeth y DU. Ac, er fy mod yn croesawu'n fawr iawn yr wybodaeth ddiweddaraf heddiw gan y Gweinidog cyllid am ei thrafodaethau, mae'r sefyllfa'n gyson yn parhau'n annheg yn amlach na pheidio lle nad yw Cymru'n cael yr hyblygrwydd ar unwaith i ddefnyddio ein harian ein hunain, ac yn aml yn cael ei thrin fel adran ddi-nod o'r Llywodraeth. Rydym yn bartner cyfartal yng ngwledydd y DU, a dylem allu llywodraethu felly. Mae hefyd yn destun pryder bod Llywodraeth y DU, 20 mlynedd yn ddiweddarach mewn Cymru ddatganoledig, yn ymddangos yn benderfynol o danseilio a rhwystro mandad democrataidd Cymru i fod yn fframwaith llywodraethu cyllidol datganoledig aeddfed.
Dirprwy Lywydd, mae'r gyllideb derfynol hon yn ychwanegu £682.2 miliwn ar gyfer ymdrechion COVID-19, gan gynnwys £630 miliwn i ymestyn olrhain cysylltiadau cyhoeddus i ddiogelu gwasanaethau craidd y GIG, ac i gefnogi awdurdodau lleol ar gyfer chwe mis cyntaf 2021-22. Nid tanddweud yw dweud y bydd yr arian hwn yn cefnogi rhaglen frechu Cymru, sy'n un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae miliwn o frechiadau yn dyst i waith gwych Llywodraeth Cymru, y GIG a phawb sy'n cyflawni dros Gymru.
Dirprwy Lywydd, gwelwn, yn y gyllideb derfynol hon, sosialaeth y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wrth inni nodi sut yr ydym yn ailgodi Cymru wirioneddol decach: pecyn cyfalaf cryf o fwy na £220 miliwn i ysgogi gweithgaredd economi Cymru. Dyma economeg Keynesaidd ar ei orau. £147 miliwn i gynyddu'r gwaith o adeiladu tai, £30 miliwn ar gyfer ein rhaglen adeiladau ysgolion uchelgeisiol i helpu i greu swyddi. Ond, unwaith eto, beth a welwn ar y pegwn gwleidyddol arall? Wel, mae eisoes wedi'i ddweud: dim byd ond gwastraffu biliynau o arian cyhoeddus ar dracio ac olrhain gwarthus a dim ond cyfleuster ac ymelwa gwleidyddol, er mai Cymru sy'n darparu'r pecyn cymorth gorau o holl wledydd y DU. Felly, efallai y gallaf faddau i arweinyddiaeth Dorïaidd y DU yma am beidio â chael amser—ac arweinyddiaeth Dorïaidd Cymru—i gyflawni eu rhifyddeg, ond ni faddeuaf iddyn nhw am beidio â sefyll dros Gymru. Mae'n ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru, yn 2021, wedi ymrwymo cannoedd o filiynau yn fwy o gyllid ar gyfer cymorth busnes yng Nghymru nag y mae wedi'i gael mewn symiau canlyniadol.
Ac wrth gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, p'un a ydych yn ifanc neu'n hen yng Nghymru, yn fusnes, neu'n blentyn ysgol, yn rhiant unigol neu'n gartref teulu sy'n addysgu o amgylch bwrdd y gegin, gwyddom fod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ar eich ochr chi. Mae'r gyllideb hon yn cyflawni dros bobl Cymru a'u blaenoriaethau, a byddwn yn dod allan o'r pandemig coronafeirws hwn, yn barod ac abl i ailgodi Cymru'n gryfach ac yn decach, ac ar gyfer y mwyafrif ac nid ar gyfer yr ychydig breintiedig yn unig. Diolch.
Diolch. Galwaf nawr ar yr Aelodau hynny sydd wedi nodi eu bod am wneud ymyriad byr. Nick Ramsay.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn y ddadl hon, ond dyma fyddai wedi bod y gyllideb derfynol gyntaf o fewn cof nad oeddwn wedi cyfrannu ati, felly fe wnaeth Mike Hedges fy nghymell.
Dywedodd Mike Hedges fod lleihau treth a chynyddu gwariant yn anghydnaws. Wrth gwrs, bydd yn cytuno â mi y gallant fod yn gydnaws dros y tymor hwy, ar yr amod fod yr economi'n cael ei hysgogi a bod menter yn cael ei hannog. Felly, a gaf i erfyn ar y Gweinidog i wrando ar yr hyn y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi'i ddweud, ac mae Aelodau eraill ac Aelodau meinciau cefn wedi'i ddweud, dros dymor diwethaf y Senedd, ac edrychwn ar ffyrdd y gellir alinio amcanion tymor hwy Llywodraeth Cymru yn well â chyllidebau unigol? Oherwydd rwy'n credu ein bod yn aml yn siarad am y tymor byr ond nid ydym yn edrych i le yr ydym yn mynd dros y tymor hwy. Siaradodd Rhianon Passmore am y term pwysig iawn hwnnw, 'Ailgodi'n well', a buom yn siarad am ailgodi'n decach. Dyna beth yr ydym ni eisiau ei wneud, ond bydd hynny dim ond yn digwydd dros nifer o flynyddoedd. Felly, gadewch i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau y gellir priodoleddu'r agweddau da ar y gyllideb hon ac y gall Cymru fod yn lle gwell mewn pum mlynedd nag ydyw ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf nawr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans.
Diolch. Rwyf wedi croesawu'r cyfle y prynhawn yma i drafod ein cyllideb derfynol ar gyfer 2021-22, a diolchaf i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Fel yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol, mae hon yn gyllideb sydd wedi ei llunio yng nghanol ansicrwydd ac amgylchiadau sy'n esblygu, ac rwy'n ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau. Hoffwn geisio ymateb i rai o'r themâu allweddol hynny. Wrth wneud hynny, fe osodaf y cyd-destun eto, yn yr ystyr bod ein cyllideb graidd ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd yn 2021-22 yn dal i fod 4 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11, a chredaf fod hynny'n wir yn dangos lefel yr her sy'n ein hwynebu. Mae ein setliad cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf yn arbennig o siomedig; mae £131 miliwn yn llai na'r flwyddyn ariannol hon.
Ac rwy'n dal yn sigledig yn dilyn cyfarfod eithaf rhyfeddol a gawsom ddoe ochr yn ochr â Ken Skates a Jeremy Miles gyda'r Gweinidog yn y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, lle cawsom ein trin, yn y bôn, fel rhanddeiliaid mewn sesiwn friffio ar y gronfa codi'r gwastad, ac ni fu unrhyw ymgysylltu o gwbl â Llywodraeth Cymru ar hynny hyd yma.
Synnais pan ddywedodd y Gweinidog yn y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth leol wrthyf, yn falch iawn, ei fod yn bwriadu gosod rhai pobl i weithio yng Nghaerdydd fel bod pobl ar lawr gwlad a oedd yn adnabod ac yn deall Cymru, ac felly, wrth gwrs, bu'n rhaid imi ddweud wrtho, 'Wel, mae gennym eisoes bobl yng Nghymru sy'n adnabod ac yn deall Cymru, sef Llywodraeth Cymru, ein partneriaid ni, y Senedd, a dyma lle mae angen gwneud y penderfyniadau hynny, yn unol â'r setliad datganoli.' A'r hyn yr ydym yn ei weld yn ei hanfod yw ymosodiad gwarthus ar hynny, ac mae popeth a ddywedodd Alun Davies yn ei gyfraniad am y ffordd y mae Deddf y farchnad fewnol yn cael ei defnyddio i osgoi Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn taro tant.
Mae arnaf eisiau rhoi sylw i rai o'r sylwadau a wnaed mewn cysylltiad â'r penderfyniadau treth yr wyf wedi'u gwneud yn y gyllideb derfynol hon. Wrth gwrs, yn y gyllideb derfynol, rydym wedi cyhoeddi estyniad i gyfnod gostyngiad treth dros dro'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru tan 30 Mehefin. Ers mis Gorffennaf diwethaf, mae pob prynwr tai yma sydd wedi bod yn ddarostyngedig i brif gyfraddau'r Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo sy'n costio mwy na £180,000 wedi elwa ar ostyngiad treth o hyd at £2,450, ac nid yw'r rhai sy'n talu mwy na £250,000 wedi talu unrhyw dreth o gwbl. Felly, dim ond tua 25 y cant o bobl sy'n prynu eu cartrefi sydd wedi bod yn talu treth yn hynny o beth. Ac, wrth gwrs, os yw'r unigolion y cyfeiriodd Mark Isherwood atynt eisiau symud yn ôl i Gymru, ond i wneud hynny mae angen iddyn nhw brynu'r eiddo pontio hwnnw, wel, wrth gwrs, gallant gael y dreth ychwanegol y maen nhw'n ei thalu yn ôl os gwnânt y symudiad hwnnw a gwerthu'r eiddo ychwanegol hwnnw o fewn tair blynedd. Felly, mae gennym y mesurau diogelu hynny o fewn y system i sicrhau bod ein treth yma yng Nghymru yn flaengar. Os ydych eisiau gwybod am yr hyn nad yw'n flaengar, unwaith eto, fel yr wyf wedi sôn o'r blaen y prynhawn yma, nid oes rhaid inni ond edrych ar yr hyn y mae'r Canghellor wedi'i wneud o ran cyfraddau'r lwfans personol, a fydd yn taro'r gweithwyr â'r cyflogau isaf galetaf. Ac, wrth gwrs, y bobl â'r cyflogau isaf fydd yn talu'r pris uchaf am bandemig y coronafeirws.
Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu 12 mis llawn o ryddhad ardrethi i fusnesau yn y sectorau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch. Ac, wrth gwrs, fe'm syfrdanwyd o glywed beirniadaeth Mark Isherwood ar hynny, oherwydd mae'r cynnig yr ydym yn ei wneud i fusnesau yma yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae'r Canghellor wedi'i gynnig i'w fusnesau dros y ffin. A chredaf y gallwn fod yn falch iawn o'n hanes o gefnogi busnes yma yng Nghymru. Rydym wedi dweud droeon fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o gymorth ariannol i fusnesau nag yr ydym wedi'i gael mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ac felly mae hynny'n golygu bod £1.9 biliwn bellach yng nghyfrifon banc busnesau yma ledled Cymru. Ac mae dros £1 biliwn wedi'i ddarparu drwy 178,000 o ddyfarniadau grant mewn partneriaeth unigryw, gan weithio gydag awdurdodau lleol sydd wedi gwneud gwaith rhyfeddol o dda i'n helpu i ddarparu'r grantiau hynny. Ac mae dros £520 miliwn wedi'i ddarparu'n uniongyrchol drwy Lywodraeth Cymru a Busnes Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r cymorth busnes hwnnw wedi helpu i ddiogelu mwy na 165,000 o swyddi yma yng Nghymru, drwy gyfuniad o gymorth grant a benthyciadau. A chredaf fod hynny'n dangos yn glir y flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i rhoi ar achub swyddi pobl a'u bywoliaeth drwy'r hyn yr ydym i gyd yn cydnabod sydd wedi bod yn argyfwng economaidd.
Ac wrth symud ymlaen, mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn neilltuo £200 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth busnes ychwanegol y flwyddyn nesaf, i ymateb i heriau esblygol y pandemig, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny.
Diddorol oedd clywed syniad newydd Plaid Cymru am warant. Wel, wrth gwrs, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein gwarant i bobl ifanc yn llawer cynt yn yr argyfwng, pan wnaethom warantu i bobl ifanc y byddwn yn eu cefnogi i gael naill ai swydd neu fathau pellach o addysg, neu eu cefnogi i hunangyflogaeth. Roeddwn yn falch iawn yn fy sylwadau agoriadol heddiw o gyhoeddi £18.7 miliwn i ymestyn cymhellion busnes i recriwtio mwy o brentisiaid yma yng Nghymru. Mae hyn yn estyniad i'r cynllun a lansiwyd gennym yn yr hydref, sydd eisoes wedi gweld mwy na 1,300 o brentisiaethau newydd yn cael eu darparu yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae newid yn yr hinsawdd wedi bod yn thema barhaus yn ein trafodaethau ar y gyllideb eleni. Cofiaf yn y gyllideb y llynedd, y stori fawr bryd hynny oedd ein bod yn darparu'r pecyn o gefnogaeth fwyaf erioed i'r amgylchedd drwy ein buddsoddiad mewn datgarboneiddio a bioamrywiaeth. Wel, eleni, rydym wedi cadw'r mwyafrif helaeth o'r cyllid hwnnw ar waith, ond rydym wedi mynd ymhellach ac wedi dyrannu bron i £80 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i ddarparu ymyriadau sy'n hyrwyddo datgarboneiddio ac yn gwella eto ein bioamrywiaeth gyfoethog yma yng Nghymru, ochr yn ochr â £17 miliwn ychwanegol o refeniw i gefnogi'r ymyriadau. Mae'r pethau hynny'n cynnwys, er enghraifft, £20 miliwn yn ychwanegol ar gyfer teithio llesol, gan ddod â'n buddsoddiad mewn teithio llesol i £50 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf; £26.6 miliwn i hybu'r economi gylchol; £20 miliwn ar gyfer Nyth, i wella hwnnw ac Arbed, a'n cynlluniau ynni glân; a £5 miliwn ar gyfer y goedwig genedlaethol, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth yr ydym i gyd yn arbennig o gyffrous yn ei gylch. Mae hynny'n mynd â'r gyllideb gyffredinol i £32 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae hynny ochr yn ochr ag ymyriadau eraill, megis £5 miliwn ar gyfer bwrw ymlaen â chyflawni prosiect treialu di-garbon a fydd yn ceisio datgarboneiddio ysgolion a cholegau yng Nghymru. Felly, gallwch weld nad yw ein pwyslais ar newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wedi'i leihau gan y pandemig.
Felly, er mwyn dechrau dwyn fy sylwadau i ben, rwy'n falch iawn o hanes y weinyddiaeth hon. Er gwaethaf degawd o gyni, rydym yn buddsoddi ymhellach yn ein GIG, gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiad dros dymor hwn y Llywodraeth i £37 biliwn, gyda mwy nag £8.4 biliwn yn 2021-22, ac eithrio cymorth COVID. Mae cyfanswm y buddsoddiad a roddwn i awdurdodau lleol dros y tymor hwn yn fwy na £25 biliwn gyda £16.6 biliwn arall o gyllid yn 2021-22, ac, unwaith eto, mae hyn heb gynnwys y cymorth ychwanegol o ganlyniad i COVID-19.
Ac rydym yn cyflawni'r addewidion gwariant allweddol a wnaethom i bobl Cymru yn 2016. Rydym wedi buddsoddi mwy na £200 miliwn ar ein cynnig gofal plant; £689 miliwn ar brentisiaethau pob oed, ochr yn ochr ag arian sylweddol gan yr UE i mewn i 2021-22; £100 miliwn ar wella safonau ysgolion; y gronfa driniaeth newydd gwerth £80 miliwn; a mwy na £610 miliwn i mewn i 2021-22 gan ddarparu rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Ac fel yr wyf newydd ei nodi, rydym yn cymryd camau difrifol a pharhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yn ystod tymor y Senedd hon, mae £2 biliwn wedi'i fuddsoddi mewn tai, gan ddarparu dros 20,000 o dai fforddiadwy, gyda £200 miliwn arall ar gyfer tai cymdeithasol yn 2021-22 i ddarparu 3,500 o gartrefi newydd ychwanegol. Ac rydym yn buddsoddi yn yr ardaloedd lle byddwn yn cael yr effaith fwyaf ar atal, ac mae hynny wrth wraidd ein dull gweithredu, a byddwch yn gweld hynny gyda'n lefelau buddsoddi uchaf erioed yn y grant amddifadedd disgyblion o fwy na £100 miliwn yn 2021-22. Felly—
Mae angen i'r Gweinidog ddirwyn i ben.
Gorffennaf fy sylwadau drwy ddiolch ar goedd i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r bobl eraill sydd wedi bod yn craffu ar hyn am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud gyda'r gyllideb hon, ond hefyd eu gwaith dros y blynyddoedd eithriadol diwethaf, a diolchaf eto i'm swyddogion am y gwaith eithriadol y maen nhw wedi'i wneud. Cymeradwyaf y cynnig i'm cyd-Aelodau.
Diolch yn fawr iawn. Gan fod y pleidleisio ar gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2021-22 wedi'i ohirio tan y cyfnod pleidleisio, gohiriaf y bleidlais ar y gyllideb derfynol tan y cyfnod pleidleisio.